Cronfa Cynulleidfaoedd Newydd

Yn 2022, sefydlwyd y Gronfa Cynulleidfaoedd Newydd, diolch i gyllid gan Lywodraeth Cymru drwy Cymru Greadigol. Dros y tair blynedd ganlynol, ariannwyd dros 100 o brosiectau ledled Cymru gan £1.5 miliwn o grantiau Cynulleidfaoedd Newydd. Mae’r grantiau hyn wedi cefnogi unigolion, cyhoeddwyr a sefydliadau yn eu gwaith i gryfhau ac amrywio’r diwydiant cyhoeddi yng Nghymru. Mae’r prosiectau wedi canolbwyntio ar dri phrif nod:

  • Datblygu awduron, darlunwyr neu gyfranwyr newydd o gefndiroedd diwylliannol amrywiol neu grwpiau a dangynrychiolir o Gymru a rhoi’r cymorth a’r cyfleoedd allai fod eu hangen arnynt er mwyn cyhoeddi eu gwaith neu i weithio yn y sector yng Nghymru
  • Targedu darllenwyr newydd trwy ddatblygu cynnwys gwreiddiol a/neu ddefnyddio cyfryngau neu fformatau nad ydynt yn cael eu hariannu ar hyn o bryd
  • Sefydlu busnes cyhoeddi neu gyhoeddiadau newydd a fydd yn cryfhau ac yn amrywio’r hyn sydd ar gael yng Nghymru ar hyn o bryd
Graffeg yn arddangos clawr 13 o lyfrau a arianwyd drwy Gronfa Cynulleidfaoedd Newydd

Creu newid parhaol

Pan sefydlwyd y gronfa roeddem yn chwilio am brosiectau a fyddai’n ysgogi newid parhaol yn ein sector, drwy greu cyfleoedd, cynyddu cynrychiolaeth a chefnogi busnesau.

Yma gallwch ddarganfod mwy am y prosiectau a gefnogwyd gan y grant, yn creu swyddi, cefnogi cyflog teg, hwyluso cydweithio, mentora lleisiau newydd a galluogi cyhoeddi deunyddiau diwylliannol newydd.

Mae arian Cynulleidfaoedd Newydd wedi bod yn gymorth hanfodol i’r diwydiant cyhoeddi yn ystod cyfnod anodd iawn. Amlygodd llwyddiant y gronfa yr angen am brosiectau cynhwysol a’i effaith gadarnhaol ar y diwydiant. Mae hefyd yn tynnu sylw at yr angen am gyllid rheolaidd, hirdymor i ddatblygu llif o dalent a phrofiad, i fuddsoddi yn ein hisadeiledd cyhoeddi ac i sicrhau sector cyhoeddi sy’n adlewyrchu Cymru gyfan, sydd o fudd i bawb ac yn agored i bawb. Rydym yn ddiolchgar i Lywodraeth Cymru a Cymru Greadigol am eu cefnogaeth i’r gwaith hanfodol hwn.

Adroddiad Effaith Cronfa Cynulleidfaoedd Newydd 2022–25 (PDF, 1MB)

Prosiectau Cynulleidfaoedd Newydd 2022–23 (PDF, 505 KB)

Prosiectau Cynulleidfaoedd Newydd 2023–24 (PDF, 691 KB)

Prosiectau Cynulleidfaoedd 2024–25 (PDF, 684 KB)