Darllen yn Well

Detholiad o lyfrau cynllun Darllen yn Well

Arweinir cynllun Darllen yn Well gan The Reading Agency, a’r nod yw cynorthwyo pobl i ddeall a rheoli eu hiechyd a’u lles drwy gyfrwng deunydd darllen defnyddiol.

Mae’r llyfrau i gyd wedi’u cymeradwyo gan arbenigwyr iechyd, yn ogystal â phobl sy’n byw gyda’r cyflyrau sy’n cael eu trafod, a’u perthnasau a’u gofalwyr.

Gall gweithwyr iechyd proffesiynol argymell y llyfrau, neu gallwch chi fynd i’ch llyfrgell leol a benthyg llyfr eich hun. Mae nifer o’r teitlau hefyd ar gael fel e-lyfrau neu lyfrau llafar.

Yng Nghymru, rydym ni yn y Cyngor Llyfrau yn gweithio gyda The Reading Agency i sicrhau bod y teitlau ar y rhestrau ar gael yn y Gymraeg, ac mae Llywodraeth Cymru yn cefnogi The Reading Agency i ddarparu Darllen yn Well ym mhob un o’r 22 awdurdod llyfrgell yng Nghymru.

cynlluniau Cymraeg yw: 

Darllen yn Well ar gyfer teuluoedd

Mae Darllen yn Well ar gyfer teuluoedd yn argymell deunydd darllen defnyddiol i gefnogi lles teulu yn ystod beichiogrwydd a’r blynyddoedd cynnar. Mae’n darparu gwybodaeth am les, iechyd meddwl a delio â cholled. Mae’r llyfrau ar gyfer rhieni, gofalwyr a phawb sy’n cefnogi pobl o’r cyfnod beichiogrwydd ymlaen.

Darllen yn Well ar gyfer yr Arddegau

Mae Darllen yn Well ar gyfer yr arddegau yn awgrymu deunydd darllen ac adnoddau digidol i’ch helpu chi i ddeall eich teimladau a chodi eich hyder. Mae pobl ifanc ac arbenigwyr iechyd a lles wedi dewis y llyfrau i helpu i reoli eich emosiynau a delio â chyfnodau anodd. Mae’r llyfrau ar y rhestr ar gyfer pobl ifanc 13–18 oed ac yn cynnwys ystod o lefelau darllen a fformatau gwahanol.

Darllen yn Well ar gyfer Plant

Mae Darllen yn Well ar gyfer plant yn darparu deunydd darllen defnyddiol i gefnogi iechyd meddwl a lles plant. Mae’r llyfrau, sydd wedi’u dewis a’u hargymell gan weithwyr iechyd proffesiynol blaenllaw a’u cynhyrchu ar y cyd gyda phlant a theuluoedd, yn darparu gwybodaeth, straeon a chyngor safonol.

Darllen yn well ar gyfer Iechyd Meddwl

Mae Darllen yn Well ar gyfer iechyd meddwl yn darparu gwybodaeth a chymorth defnyddiol ar gyfer rheoli cyflyrau iechyd meddwl cyffredin, neu ddelio â theimladau a phrofiadau anodd. Mae rhai llyfrau hefyd yn cynnwys straeon personol gan bobl sy’n byw gydag unigolion ag anghenion iechyd meddwl neu’n gofalu amdanynt.

Darllen yn well ar gyfer Dementia

Mae Darllen yn Well ar gyfer dementia yn darparu gwybodaeth a chyngor i bobl sy’n byw gyda dementia, cefnogaeth i fyw’n well, a chyngor i berthnasau a gofalwyr, yn ogystal â ffuglen, cofiannau a llyfrau ffotograffau a ddefnyddir mewn therapi hel atgofion.

Mae manylion pellach iw cael ar wefan The Reading Agency. 

Gwefan The Reading Agency – Darllen yn Well Yng Nghymru (Agor mewn ffenest newydd)