Plethu pobl trwy lyfrau
Rydym wedi bod yn gweithio gyda chyhoeddwyr a phartneriaid ledled Cymru i gyhoeddi mwy o lyfrau darllen er pleser sy’n dathlu ac yn hyrwyddo amrywiaeth ar gyfer plant a phobl ifanc.
Llyfrau newydd i blant a phobl ifanc
Ariannwyd y prosiect tair blynedd, £810,000 hwn gan Adran Addysg Llywodraeth Cymru, ac Adnodd. Mae wedi cefnogi creu llyfrau gwreiddiol newydd yn y Gymraeg ac yn Saesneg, yn ogystal ag addasiadau o lyfrau Saesneg i’r Gymraeg, er mwyn creu llyfrau sy’n adlewyrchu mwy o’n straeon, ein pobl a’n cymunedau ni.
Mae darllen er pleser yn bwysig ar gyfer cefnogi iechyd a lles plant a phobl ifanc, ac ar gyfer datblygu eu dychymyg a sgiliau llythrennedd; buddion sy’n cefnogi nodau a darparu’r Cwricwlwm i Gymru ac sy’n cyfrannu at gyflawniadau addysgol.
Mae adnoddau addysg yn cyd-fynd â holl lyfrau’r gyfres, er mwyn galluogi athrawon a dysgwyr i archwilio’r themâu a’r cwestiynau sy’n codi ynddynt yn fwy trylwyr. Mae pob ysgol wladol yng Nghymru wedi derbyn cyflenwad o’r llyfrau a’r adnoddau addysg am ddim i’w defnyddio yn y dosbarth.
Gweithio gyda’n gilydd
Rydym yn hynod ddiolchgar i’n partneriaid niferus sydd wedi cyfrannu eu profiad a’u harbenigedd drwy gydol y prosiect hwn, a oedd yn gyd-gynhyrchiad; gan gynnwys aelodau ein panel a helpodd ddewis y llyfrau i’w haddasu; y mentoriaid a’r darllenwyr sensitifrwydd a gefnogodd yr awduron; y panel a greodd yr adnoddau addysg; ac, wrth gwrs, y cyhoeddwyr ledled Cymru am gefnogi’r prosiect, a’r awduron eu hunain.
Diolch i:
- Adran Addysg Llywodraeth Cymru
- Adnodd
- Anabledd Cymru
- Cwmni Diwylliannol a Chelfyddydol Romani
- DARPL
- Hanes Pobl Dduon Cymru
- Race Council Cymru
- Stonewall Cymru
Awduron newydd, llyfrau newydd
Mae’r llyfrau newydd yn cynnwys gweithiau gan rai sy’n ysgrifennu am y tro cyntaf yn ogystal ag awduron cydnabyddedig. Un o’r prif amcanion wrth gomisiynu llyfrau gwreiddiol Cymraeg a Saesneg fel rhan o’r cynllun hwn oedd sicrhau cyfleoedd cyhoeddi i awduron a darlunwyr o gefndiroedd a chymunedau sy’n cael eu tangynrychioli. Cefnogwyd rhai awduron newydd i weithio gyda mentor, neu i gyd-awduro gydag awdur mwy profiadol.
Llyfrau newydd a gyhoeddwyd
The Ranch at the End of the World / Y Ransh ym Mhen Draw’r Byd
Emma Bettridge
Addasiad gan Sioned Erin Hughes
Graffeg
A History of My Weird / Hanes fy Hynodrwydd
Chloe Heuch
Addasiad gan Mared Llwyd
Firefly
Young. Welsh. Proud. / Cymry. Balch. Ifanc.
Awduron amrywiol
Golygwyd gan Megan Angharad Hunter a Llŷr Titus
Rily
Megs / Megs
Meleri Wyn James
Y Lolfa
The Street Food Festival / Bwyd y Stryd, Bwyd y Byd
Gail Segueira
Addasiad gan Joanna Davies
Atebol
We are Wales / Ein Cymru Ni
Chantelle Moore, Gail Segueira, Haf Llywelyn, Richard Parks
Addasiad gan Manon Steffan Ros
Atebol
Zac and Jac / Zac a Jac
Cathy Jenkins
Addasiad gan Ceri Wyn Jones
Graffeg
20 Colourful People of Wales / 20 o Bobl Liwgar Cymru
Natalie Jones
Y Lolfa
Colours of Home / Cartref o Liw
Miriam Latimer
Addasiad gan Anwen Pierce
Graffeg
The Winter Festival / Gŵyl y Gaeaf
Rebecca Wilson
Rily
Addasiadau Cymraeg
Erbyn gwanwyn 2025 cyhoeddwyd addasiadau Cymraeg o 28 o deitlau Saesneg sy’n hyrwyddo a dathlu amrywiaeth – yn eu plith, teitlau sydd wedi ennill gwobrau fel y Diverse Book Award – ac maent ar gael i’w prynu mewn siopau llyfrau.
Addasiadau a gyhoeddwyd
Y Ferch â Dau Dad
Mel Elliott
Addaswyd/Cyfieithwyd gan Anwen Pierce
Fy Bindi
Gita Varadarajan
Addaswyd/Cyfieithwyd gan Anwen Pierce
Polonius Merlyn y Pwll Glo
Richard O’Neill
Addaswyd/Cyfieithwyd gan Anwen Pierce
Antur Taid a Fi
Harry Woodgate
Addaswyd/Cyfieithwyd gan Anwen Pierce
Julian yn y Briodas
Jessica Love
Addaswyd/Cyfieithwyd gan Mari George
Y Gwaith Cartref Coll
Richard O’Neill
Addaswyd/Cyfieithwyd gan Bethan Mair
Diwali Binny
Thrity Umrigar
Addaswyd/Cyfieithwyd gan Casia Wiliam
Beth Ddigwyddodd i ti?
James Catchpole
Addaswyd/Cyfieithwyd gan Aneirin Karadog
Llygaid sy’n Cusanu yn y Corneli
Joanna Ho
Addaswyd/Cyfieithwyd gan Casia Wiliam
Y Byddarwr
Cece Bell
Addaswyd/Cyfieithwyd gan Megan Angharad Hunter
Llwybr Llanast
Burhana Islam
Addaswyd/Cyfieithwyd gan Rhys Iorwerth
Pan Fydd Drysau’n Cau
Miriam Halahmy
Addaswyd/Cyfieithwyd gan Rhys Iorwerth
Y Pafi a’i Ehedydd
Siobhan Dowd
Addaswyd/Cyfieithwyd gan Gwennan Williams
Y Glas Prydferthaf
Ibtihaj Muhammad, S.K.Ali
Addaswyd/Cyfieithwyd gan Catrin Evans-Thomas
Dyma’n Teulu Ni
Patricia Hegarty
Addaswyd/Cyfieithwyd gan Tegwen Bruce-Deans
Stryd Nici a Ffion Wyn
Ben Andrews
Addaswyd/Cyfieithwyd gan Ifan Erwyn
Un o blant y Windrush
Benjamin Zephaniah
Addaswyd/Cyfieithwyd gan Rhys Iorwerth
Dydy Danny Chung a Maths Ddim yn Ffrindiau
Maise Chan
Addaswyd/Cyfieithwyd gan Iwan Huws
Melys, Moes, Mangos
Kereen Getten
Addaswyd/Cyfieithwyd gan Gwenno Hughes
Rhyw Fath o Sbarc
Elle McNicoll
Addaswyd/Cyfieithwyd gan Manon Steffan Ros
Fi Fy Nhad a Phen Draw’r Enfys
Benjamin Dean
Addaswyd/Cyfieithwyd gan Llinos Dafydd
Gormod o ddyn
Malorie Blackman
Addaswyd/Cyfieithwyd gan Manon Steffan Ros
Balch Ohona I
Sarah Hagger-Holt
Addaswyd/Cyfieithwyd gan Manon Steffan Ros
Y Fflamingo Du
Dean Atta
Addaswyd/Cyfieithwyd gan Llinos Dafydd
Croen y Cefnfor
Natasha Bowen
Addaswyd/Cyfieithwyd gan Mared Roberts
Y Trysor o dan y Ffatri Jam
Chrissie Sains
Addaswyd/Cyfieithwyd gan Mared Llwyd
Tu Hwnt i’r Llygaid
Penny Joelson
Addaswyd/Cyfieithwyd gan Gwenno Hughes
Daear Dyner
Sita Brahmachari
Addaswyd/Cyfieithwyd gan Meinir Wyn Edwards
Adnoddau ar gyfer ysgolion
Mae adnoddau addysg ar gyfer yr holl lyfrau a gyhoeddwyd fel rhan o gynllun Rhyngom ar gael mewn print neu ar ffurf ddigidol, yn roi cymorth ychwanegol gwerthfawr i athrawon.
Rhan olaf y prosiect, yn yr hydref 2025, oedd cynllun anrhegu i ysgolion cynradd ac uwchradd Cymru. Mae pob ysgol gynradd wladol wedi derbyn copi am ddim o’r llyfrau i ddarllenwyr 3–11 oed, a phob ysgol uwchradd wladol wedi derbyn copi o’r llyfrau i ddarllenwyr 8–16 oed. Mae ysgolion hefyd wedi derbyn yr adnoddau addysg.