
Mae siopau llyfrau annibynnol yn gwneud cyfraniad pwysig i economi Cymru ac i’w cymunedau lleol, ac fel Cyngor Llyfrau rydym ni yma i’w cefnogi ar hyd y daith.
Rydym yn derbyn ac yn prosesu archebion drwy’n Canolfan Ddosbarthu, ac yn cynnig gwasanaeth dosbarthu effeithiol i bob rhan o Gymru.
Rydym hefyd yn gweinyddu grantiau bach i siopau drwy ein Cynllun Ymestyn er mwyn cefnogi’r gwaith o fynychu digwyddiadau a mynd â llyfrau allan i’r gymuned ac at gynulleidfa ehangach.
Mae manylion pellach am ein gwasanaethau gwahanol i’w cael isod ac mae croeso bob amser i lyfrwerthwyr gysylltu gyda’n Adran Gwerthu a Gwybodaeth.
Manylion cyswllt
Ffôn: 01970 624455
E-bost: gwerthu@llyfrau.cymru