Grantiau i gylchgronau Saesneg

Detholiad o gylchgronau mewn siop

Mae dau gynllun grant ar gael ar gyfer cylchgronau Saesneg. Dyfernir grantiau ar gyfer Cyfnodolion Diwylliannol Saesneg bob pedair blynedd, a dyfernir Grantiau Cylchgronau Llenyddol Bach bob blwyddyn. Mae’r swm sydd ar gael ar gyfer y grantiau hyn yn dibynnu ar lefel y cyllid a dderbynnir gan Lywodraeth Cymru.

Grantiau Cyfnodolion Diwylliannol

Dyfernir y grantiau hyn trwy broses dendro bob pedair blynedd. Mae’r cynllun hwn yn noddi cylchgronau newydd a sefydledig sy’n cynnwys ysgrifennu rhagorol a newyddiaduraeth dreiddgar ar ystod eang o bynciau, gan gynnwys gwleidyddiaeth a materion cyfoes, diwylliant a’r celfyddydau. Bydd y rownd gyllido nesaf ar gyfer darpariaeth yn y cyfnod 2028–32, a bydd y broses dendro yn digwydd yn ystod 2027.

Sut ydw i’n gwneud cais? 

Cyhoeddir deunydd ymgeisio, yn cynnwys Canllawiau ac Amodau ar gyfer y Grant Cyfnodolion Diwylliannol, ar y dudalen Cyfleoedd Cyllid a Thendrau Newydd pan fydd y broses dendro ar agor. Cyfleoedd Cyllid a Thendrau Newydd. Bydd hwn yn cynnwys manylion amserlen a gofynion ar gyfer pob cam o’r broses. Fel arfer, mae sawl cam i’r broses dendro, sydd yn cynnwys elfennau cais ysgrifenedig a chyfweliadau.  

Os hoffech chi drafod ymgeisio, cysylltwch â ni:english.grants@books.wales (Agor e-bost)

Grantiau Cylchgronau Llenyddol Bach

Grantiau i gefnogi mentrau cyhoeddi bach ac i hybu talent greadigol newydd o Gymru yw’r rhain. Adolygir ceisiadau unwaith y flwyddyn gan yr Is-bwyllgor Datblygu Cyhoeddi Saesneg.

Canllawiau Grantiau Cylchgronau Llenyddol Bach (PDF)

Sut ydw i’n gwneud cais?

I wneud cais am grant, rhaid i gyhoeddwyr gyflwyno cais i’r Is-bwyllgor Datblygu Cyhoeddi Saesneg annibynnol. Hwy sy’n ystyried y ceisiadau a dderbyniwyd ac yn dyfarnu’r cyllid. Mae’r dyddiad cau am geisiadau fel arfer ym mis Mai. Cyhoeddir dyddiadau cyfarfodydd a dyddiadau cau’r Is-bwyllgor ymlaen llaw:

Cyfarfodydd a dyddiadau cau yr Is-bwyllgorau Datblygu Cyhoeddi 

Os hoffech drafod cais posibl, gallwch gysylltu â ni ar english.grants@books.wales (Agor e-bost)