Enillydd Gwobrau Tir na n-Og 2026 yn y categori Saesneg:

Mai 9, 2026

Cyhoeddi enillydd Gwobrau Tir na n-Og 2026 yn y categori Saesneg: The Wicked Lies of Habren Faire gan Anna Fiteni

The Wicked Lies of Habren Faire gan Anna Fiteni (gyhoeddwyd gan Electric Monkey, Harper Collins) yw enillydd Gwobr Saesneg Tir na n-Og 2026 am lenyddiaeth i blant a phobl ifanc.
Nofel gyntaf yr awdur yw The Wicked Lies of Habren Faire, sy’n rhamant-ffantasi dywyll ar gyfer darllenwyr yn eu harddegau. Mae wedi’i hysbrydoli gan fytholeg Cymru, gyda chwedlau a thraddodiadau Cymreig wedi’u plethu drwyddi draw.
I Sabrina Parry, mae’r byd yn galed, yn greulon ac yn ymarferol. Gyda’i thad yn y carchar, ei hamcan mewn bywyd yw: 1. dal gafael yn ei swydd; 2. brathu ei thafod; a 3. trefnu bod ei chwaer, Ceridwen, yn dod o hyd i ŵr sy’n ddigon cyfoethog i ofalu amdani. Ond yna mae Ceridwen yn diflannu i’r goedwig dywyll gan adael modrwy haearn yn unig ar ei hôl, ac mae Sabrina yn cael ei thynnu mewn i henfyd o dylwyth teg a bwystfilod. Mae’r byd hwnnw’n hardd ond mae hefyd ar ddarfod …

Dywedodd Anna Fiteni: “Rwy’n hynod falch o ennill Gwobr Tir na n-Og eleni am nofel yn yr iaith Saesneg. Fy mhrif nod pan ysgrifennais The Wicked Lies of Habren Faire oedd rhannu fy nghariad at Gymru, fy atgofion o’m plentyndod yn tyfu i fyny yma, a’m gobeithion am ein dyfodol. Mae ennill unrhyw wobr ymhell y tu hwnt i unrhyw beth roeddwn i’n ei ddisgwyl; mae ennill y wobr hon yn arbennig yn anrhydedd ac yn bleser pur. Rwy’n ddiolchgar iawn am y cyfle i gael fy ystyried ochr yn ochr â’r awduron rhagorol eraill a enwebwyd eleni, ac i’r beirniaid a phawb sy’n rhan o’r gystadleuaeth am eu holl waith yn hyrwyddo ac yn cefnogi gweithiau rhagorol i bobl ifanc a ysgrifennwyd yng Nghymru.”

Dywedodd Cadeirydd y panel Saesneg, Karen Gemma Brewer: “Llongyfarchiadau mawr i Anna Fiteni am ennill y wobr hon yn ystod blwyddyn bwysig, wrth i’r gwobrau droi’n 50 oed. O deitlau penodau dwyieithog a darluniau wedi’u hysbrydoli gan lên gwerin, hyd at deitl y wlad chwedlonol lle mae taith Sabrina i achub ei chwaer Ceridwen yn digwydd, mae’r llyfr hwn wedi’i wreiddio’n ddwfn mewn diwylliant Cymreig. Ond yn hytrach na dibynnu ar ystrydebau’r genre,mae Anna Fiteni yn cloddio’n ddyfnach i fytholeg Cymru a hanes mwyngloddio mewn ffordd newydd ac unigryw, gan greu ffantasi dywyll gyda chymeriadau benywaidd cryf, tywysog tylwyth teg twyllodrus, a thro ffres ar elfennau arferol llên gwerin Cymru.”

Y teitlau eraill ar y rhestr fer ar gyfer y categori Saesneg oedd:
Major and Mynah: Project Puffin gan Karen Owen, darluniwyd gan Louise Forshaw (Firefly)
10 Fascinating Stories from Welsh History (that you’ll want to talk about) gan Siân Lewis a Charlotte Williams, darluniwyd gan Kyle Legall (Rily)
Hefyd, cyhoeddwyd heddiw enillydd Gwobr Dewis y Darllenwyr 2026 yn y categori Saesneg. Mae hon yn wobr arbennig a ddewisir gan y plant a’r bobl ifanc a gymerodd ran yng Nghynllun Cysgodi Tir Na n-Og.
Enillydd Gwobr Dewis y Darllenwyr yn y categori Saesneg yw 10 Fascinating Stories from Welsh History (that you’ll want to talk about) gan Siân Lewis a Charlotte Williams, darluniwyd gan Kyle Legall (Rily).

Cyhoeddwyd yr enillwyr mewn digwyddiad arbennig yn Llyfrgell Pontypridd, lle cafodd plant lleol ac ymwelwyr â’r llyfrgell y cyfle i gwrdd â’r awduron ar y rhestr fer a Llysgennad Gwobrau Tir na n‑Og, Richard Parks.

Wedi’u sefydlu yn 1976, mae Gwobrau blynyddol Tir na n-Og yn dathlu’r llyfrau gorau i blant a phobl ifanc yng Nghymru. Fe’u trefnir gan Gyngor Llyfrau Cymru a’u noddi gan CILIP Cymru Wales. Mae 2026 yn nodi pen-blwydd y gwobrau yn 50 oed.

Dywedodd Sue Polchow, Rheolwr Datblygu Cymunedol – CILIP Cymru Wales: “Fel corff aelodaeth ar gyfer gweithwyr llyfrgell a gwybodaeth yng Nghymru, rydym wrth ein bodd yn noddi Gwobrau Tir na n-Og yn eu blwyddyn arbennig o ddathlu 50 mlynedd. Dros y degawdau mae’r gwobrau llyfrau unigryw hyn gan Gyngor Llyfrau Cymru wedi dathlu straeon rhagorol am Gymru ac wedi tynnu sylw at awduron o Gymru, ac mae hynny i gyd wedi ysbrydoli darllenwyr ifanc i ymgolli yn llawenydd darllen. Llongyfarchiadau i’r holl awduron buddugol!”

 

Bydd enillwyr Gwobrau Tir na n-Og yn y ddau gategori Cymraeg yn cael eu datgelu yn Eisteddfod yr Urdd Ynys Môn ddydd Iau 28 Mai.

Blwyddyn o ddathlu

Bydd dathliadau pen-blwydd Gwobrau Tir na n-Og yn 50 oed yn parhau drwy gydol 2026, gyda blwyddyn lawn o weithgareddau wedi’u cynllunio i ddathlu hanner canrif o’r llyfrau gorau oll i blant a phobl ifanc.

Gall darllenwyr o bob oed ymuno â Her Ddarllen Tir Na n-Og a mwynhau cyfres o heriau hwyliog i’w tywys ar antur ddarllen i’w chofio. Gellir casglu taflenni’r her i blant, pobl ifanc ac oedolion o’ch siop lyfrau neu lyfrgell leol, neu eu lawrlwytho o Her Ddarllen – Gwobrau Tir na n-Og Awards (agor mewn ffenest newydd). Mae Cyngor Llyfrau Cymru yn hynod ddiolchgar i Wasg Gomer am eu cefnogaeth hael i argraffu’r heriau darllen.

Ymunwch â Chyngor Llyfrau Cymru yn Eisteddfod Genedlaethol y Garreg Las ar gyfer dau ddigwyddiad yn y Pabell Lên gyda gwesteion arbennig:

2 Awst 10:30: Goreuon ein llên: Hanner canrif o Wobrau Tir na n-Og
Bydd Dr Siwan Rosser, Manon Steffan Ros, Caryl Lewis, a Huw a Luned Aaron yn hel atgofion am gyn-enillwyr Gwobrau Tir na n-Og, gan ddathlu gwaddol gwobrau hynaf Cymru i anrhydeddu llenyddiaeth i blant a phobl ifanc.

3 Awst 12:00: Llyfrau plant a phobl ifanc – y bennod nesaf: Podlediad Sut i Ddarllen yn dathlu 50 mlynedd o Wobrau Tir na n-Og
Sesiwn gyda Francesca Sciarrillo, Elgan Rhys a Mared Fflur, Cadeirydd ein Panel Pobl Ifanc. Bydd y tri yn dathlu llenyddiaeth i blant a phobl ifanc ac yn edrych ymlaen at yr hanner canrif nesaf.

Mae’r Cyngor Llyfrau yn ddiolchgar iawn i’n Llysgenhadon a chefnogwyr hael Gwobrau Tir na n-Og 2026:

Llysgenhadon: Richard Parks, Elain Llwyd a Ffion Llwyd.

Noddwyr:

  • CILIP Cymru, ein noddwr hir sefydlog ar gyfer y gwobrau

  • BCCIT
  • Bluestone National Park Resort
  • Folly Farm
  • Gwasg Gomer
  • Halen Môn
  • Welshpool Printing Group

Yn cefnogi’r Flwyddyn Darllen Genedlaethol: Ymgolli / Go All In (agor mewn ffenest newydd), mae Gwobrau a Her Ddarllen Tir na n-Og yn rhan o raglen ehangach o weithgareddau dathlu darllen ledled y DU. Prif nod ymgyrch ‘Ymgolli’ yw ysbrydoli pobl i fagu cariad at ddarllen gydol oes trwy ymgolli mewn llyfr a mwynhau darllen.

Gallwch gael rhagor o wybodaeth am Wobrau Tir na n-Og ar wefan Tir na n-Og, a gefnogir yn hael gan Halen Môn: Gwobrau Tir na n-Og Awards (agor mewn ffenest newydd), ac ar wefan Cyngor Llyfrau Cymru: Gwobrau Tir na n-Og | Cyngor Llyfrau Cymru