Ymddiriedolwyr

Ymddiriedolwyr y Cyngor Llyfrau

Linda Thomas (Cadeirydd)

Penodwyd Linda Tomos yn Gadeirydd y Cyngor Llyfrau yn 2022.

Yn Llyfrgellydd Siartredig ers 1975, bu Linda Tomos yn Llyfrgellydd Cenedlaethol Cymru rhwng 2015–2019 gan arwain straetgaeth y Llyfrgell Genedlaethol yn Aberystwyth.

Cyn hynny, bu’n was sifil uwch gyda Llywodraeth Cymru ac yn Gyfarwyddwr cyntaf CyMAL: Amgueddfeydd Archifau a Llyfrgelloedd Cymru oddi fewn Adran Diwylliant, Chwaraeon a Thwristiaeth. Yn gyn-Gadeirydd Cyngor Gwasanaethau Llyfrgell a Gwybodaeth Cymru, bu’n Gadeirydd Cyngor Darlledu Addysg BBC Cymru rhwng 1999–2003 ac yn Gadeirydd Bwrdd Ymgynghorol yr Ymddiriedolaeth Genedlaethol yng Nghymru rhwng 2016–2020.

“Rwyf yn edrych ymlaen yn fawr iawn i ymuno a’r Bwrdd a chyfrannu at ddatblygu llais cryf ar gyfer gwaith allweddol y Cyngor Llyfrau yng Nghymru. Mae llawer wedi newid ers 2020 a bydd angen sector cyhoeddi sy’n uchelgeisiol ac yn barod i arloesi i wynebu’r heriau sydd o’n blaenau. Mae gennyf ddiddordeb neilltuol mewn cynyddu’r cyfleoedd i godi llythrennedd a hybu cynulleidfaoedd newydd trwy ddefnyddio’r cyfryngau digidol a bydd yn bleser mawr i mi fel ymddiriedolwr i fod yn rhan o waith y Cyngor Llyfrau.”

Rona Aldrich (Is-gadeirydd)

Mae Rona Aldrich wedi bod yn Is-gadeirydd y Cyngor Llyfrau ers 2021.

Yn wreiddiol o Fôn, mae Rona Aldrich wedi byw yn Nyffryn Clwyd ers dros 40 mlynedd. Mae ganddi radd Meistr mewn Llyfrgellyddiaeth ac Astudiaethau Gwybodaeth o Brifysgol Aberystwyth. Cyn ymddeol roedd yn Brif Swyddog gyda Chyngor Sir Conwy.

Ar ôl cyfnod hwn, mae hi wedi ymgymryd â nifer o gontractau hunan-gyflogedig yn cynnwys rhai ar gyfer Llywodraeth Cymru, Cymdeithas Llywodraeth Leol Cymru a Chyngor Bwrdeistref Sirol Wrecsam. Bu’n Is-gadeirydd Pwyllgor Cymru Cronfa Gymunedol y Loteri Genedlaethol ac ar hyn o bryd mae’n aelod o Banel Cynghori Comisiynydd y Gymraeg.

Mae’n Rheolwr Busnes ac yn Is-gadeirydd Cymdeithas Hanes Lleol Llandyrnog a Llangwyfan ac mae’n cyd-olygu ei chyhoeddiadau.

Meinir Ebbsworth

Mae Meinir wedi gweithio ym maes addysg fel athrawes uwchardd, ymgynghorydd a Chyfarwyddwr Addysg. Bu’n awduro nifer o lyfrau ym maes Llythrennedd Cymraeg ar gyfer plant a phobl ifanc. 

Bellach mae hi’n Gyfarwyddwr Strategol i’r Ganolfan Dysgu Cymraeg Genedlaethol. 

Bethan Mair

Geiriau yw gwaith Bethan Mair. Ar ôl ennill graddau BA ac MA yn y Gymraeg ym Mhrifysgol Bangor ac, ar ôl chwe blynedd ar staff Coleg y Drindod, bu’n olygydd llyfrau Cymraeg yng Ngwasg Gomer am ddeng mlynedd. Llywiodd dros 300 o lyfrau drwy’r wasg yng nghadair y golygydd, ac enillodd llawer o’i llyfrau wobrau a chanmoliaeth. Bellach mae hi’n gweithio ar ei liwt ei hun yn cyfieithu, a golygu a thrafod llenyddiaeth.

Bu’n swyddog i Gwlwm Cyhoeddwyr Cymru, yn Gyfarwyddwr Cyhoeddi i’r cylchgrawn materion cyfoes Barn, ac mae wedi ysgrifennu cyfrolau, erthyglau ac adolygiadau lu yn cynnwys colofn fisol yn y papur enwadol, Seren Cymru. Mae hi wedi beirniadu rhai o brif gystadlaethau Eisteddfod Genedlaethol Cymru, gan gynnwys y Fedal Ryddiaith yn 2025.

Mae Bethan hefyd yn wyneb a llais cyfarwydd ar S4C a Radio Cymru, yn gyson yn trafod llyfrau, materion cyfoes a phob peth arall dan haul. Mae hi’n aelod o Gyngor yr Eisteddfod Genedlaethol.

Yr Athro Carwyn Jones

Mae’r Athro Carwyn Jones yn gyn Brif Weinidog Cymru (2009–2018) a bu’n Aelod o’r Senedd dros Ben-y-bont ar Ogwr rhwng 1999–2021. Ar ôl graddio yn y gyfraith o Brifysgol Aberystwyth, aeth ymlaen i hyfforddi fel bargyfreithiwr yn Llundain cyn gweithio mewn practis cyfreithiol yn Siambrau Gŵyr, Abertawe am 10 mlynedd. Cafodd ei benodi yn Athro rhan amser yn Adran y Gyfraith a Throseddeg Prifysgol Aberystwyth yn 2019.

Alwena Hughes Moakes

Mae Alwena Hughes Moakes yn Gyfarwyddwr Cyfathrebu ac Ymgysylltu gyda Bwrdd Iechyd Prifysgol Hywel Dda. Cyn hynny, bu’n Bennaeth Byd-eang Cyfathrebu ac Ymgysylltu â’r Gweithlu i gwmni amaeth rhyngwladol â’i bencadlys yn Basel, y Swistir. Yn wreiddiol o’r Wyddgrug, mae Alwena yn gyfathrebwraig brofiadol a chanddi dros ugain mlynedd o brofiad o weithio ar draws y sectorau cyhoeddus a phreifat.

Ruth Thomas

Mae Ruth yn uwch olygydd newyddion gyda BBC News, ble mae’n arwain tim sy’n cynorthwyo newyddiadurwyr i ddefnyddio data i dyfu cynulleidfaoedd a dyfnhau’r berthynas gyda nhw – yn y DU ac ar draws y byd. Mae hi wedi gweithio yn adran newyddion BBC Cymru mewn amryw o swyddi gan gynnwys fel golygydd rhaglen Newyddion S4C ac un o sylfaenwyr Cymru Fyw. Mae Ruth yn ddarllenwr brwd a rhedwr araf.

Dr Andrew Webb

Mae Dr Andrew Webb yn Uwch-ddarlithydd ym maes Llenyddiaeth Fodern ym Mhrifysgol Bangor, gan arbenigo mewn Llenyddiaeth Saesneg fodern a chyfoes, yn enwedig mewn perthynas â dau faes: llenyddiaeth Saesneg Cymru, ac Ecofeirniadaeth, sef sut mae newid hinsawdd a’r argyfwng amgylcheddol yn cael eu cynrychioli’n ddiwylliannol. Ymunodd â Phrifysgol Bangor ym mis Ionawr 2012, yn dilyn cyfnodau ym Mhrifysgolion Abertawe a Birmingham. Roedd hefyd yn Gymrawd Ymchwil Gyrfa Gynnar yn Sefydliad Uwchefrydiau Prifysgol Warwick yn 2010, a bu iddo gwblhau ei ddoethuriaeth yr yr un flwyddyn.

Dr Caroline Owen Wintersgill

Mae Dr Caroline Owen Wintersgill yn Uwch Ddarlithydd ac yn Gyfarwyddwr Rhaglen ar gyfer gradd Meistr Astudiaethau Cyhoeddi ym Mhrifysgol Stirling. Mae ganddi ddoethuriaeth ym maes darllen, ysgrifennu a chyhoeddi llenyddiaeth gyfoes. Mae ei hymchwil ar hyn o bryd yn canolbwyntio ar werthoedd a heriau cyhoeddi i genhedloedd bychain a rhanbarthau ar draws y Deyrnas Unedig. Cyn symud i’r byd academaidd, bu’n gweithio am dros 25 mlynedd i rai o gyhoeddwyr blaenllaw Prydain, gan gynnwys Routledge, Bloomsbury a Manchester University Press.

Dod yn Ymddiriedolwr

Os hoffech gefnogi ein gwaith fel aelod o Fwrdd yr Ymddiriedolwyr, gallwch ddod o hyd i’r swyddi gwag diweddaraf ar ein tudalen Gwirfoddoli . Gwirfoddoli