Ymddiriedolwyr Cyfredol
Linda Thomas – Cadeirydd

Penodwyd Linda Tomos yn Gadeirydd y Cyngor Llyfrau yn 2022.
Yn Llyfrgellydd Siartredig ers 1975, bu Linda Tomos yn Llyfrgellydd Cenedlaethol Cymru rhwng 2015 a 2019 gan arwain strategaeth y Llyfrgell Genedlaethol yn Aberystwyth.
Cyn hynny, bu’n was sifil uwch gyda Llywodraeth Cymru ac yn gyfarwyddwr cyntaf CyMAL: Amgueddfeydd Archifau a Llyfrgelloedd Cymru o fewn Adran Diwylliant, Chwaraeon a Thwristiaeth. Yn gyn-gadeirydd Cyngor Gwasanaethau Llyfrgell a Gwybodaeth Cymru, bu’n Gadeirydd Cyngor Darlledu Addysg BBC Cymru rhwng 1999 a 2003, ac yn Gadeirydd Bwrdd Ymgynghorol yr Ymddiriedolaeth Genedlaethol yng Nghymru rhwng 2016 a 2020.
“Rwyf yn edrych ymlaen yn fawr iawn i ymuno â’r Bwrdd a chyfrannu at ddatblygu llais cryf ar gyfer gwaith allweddol y Cyngor Llyfrau yng Nghymru. Mae llawer wedi newid ers 2020 a bydd angen sector cyhoeddi sy’n uchelgeisiol ac yn barod i arloesi i wynebu’r heriau sydd o’n blaenau. Mae gennyf ddiddordeb neilltuol mewn cynyddu’r cyfleoedd i godi llythrennedd a hybu cynulleidfaoedd newydd trwy ddefnyddio’r cyfryngau digidol, a bydd yn bleser mawr i mi fel ymddiriedolwr i gael bod yn rhan o waith y Cyngor Llyfrau.”
Rona Aldrich - Is-gadeirydd

Mae Rona Aldrich wedi bod yn Is-gadeirydd y Cyngor Llyfrau ers 2021.
Yn wreiddiol o Fôn, mae Rona Aldrich wedi byw yn Nyffryn Clwyd ers dros 40 mlynedd. Mae ganddi radd Meistr mewn Llyfrgellyddiaeth ac Astudiaethau Gwybodaeth o Brifysgol Aberystwyth. Cyn ymddeol roedd yn Brif Swyddog gyda Chyngor Sir Conwy.
Ar ôl y cyfnod hwn, mae hi wedi ymgymryd â nifer o gontractau hunangyflogedig, gan gynnwys rhai ar gyfer Llywodraeth Cymru, Cymdeithas Llywodraeth Leol Cymru a Chyngor Bwrdeistref Sirol Wrecsam. Bu’n Is-gadeirydd Pwyllgor Cymru Cronfa Gymunedol y Loteri Genedlaethol, ac ar hyn o bryd mae’n aelod o Banel Cynghori Comisiynydd y Gymraeg.
Mae’n Rheolwr Busnes ac yn Is-gadeirydd Cymdeithas Hanes Lleol Llandyrnog a Llangwyfan ac mae’n cydolygu’r cyhoeddiadau.
Alfred Oyekoya – Trysorydd

Penodwyd Alfred Oyekoya MBE yn Drysorydd ym mis Hydref 2021.
Graddiodd Alfred Oyekoya â gradd MSc Cyllid o Brifysgol Abertawe ac mae’n Gyfrifydd Siartredig, gyda phrofiad o arweinyddiaeth a datblygu busnes dros nifer o flynyddoedd. Mae Alfred yn eiriolwr egnïol, penderfynol ac ymroddedig dros Gydraddoldeb, Amrywiaeth a Chynhwysiant.
Meinir Ebbsworth

Mae Meinir wedi gweithio ym maes addysg fel athrawes uwchradd, ymgynghorydd a Chyfarwyddwr Addysg. Bu’n awduro nifer o lyfrau ym maes Llythrennedd Cymraeg ar gyfer plant a phobl ifanc.
Bellach mae hi’n Gyfarwyddwr Strategol i’r Ganolfan Dysgu Cymraeg Genedlaethol.
Alwena Hughes Moakes

Mae Alwena Hughes Moakes yn Gyfarwyddwr Cyfathrebu ac Ymgysylltu gyda Bwrdd Iechyd Prifysgol Hywel Dda. Cyn hynny, bu’n Bennaeth Byd-eang Cyfathrebu ac Ymgysylltu â’r Gweithlu i gwmni amaeth rhyngwladol â’i bencadlys yn Basel, y Swistir.
Yn wreiddiol o’r Wyddgrug, mae Alwena yn gyfathrebwraig brofiadol a chanddi dros ugain mlynedd o brofiad o weithio ar draws y sectorau cyhoeddus a phreifat.
Arglwydd Jones o Benybont

Mae’r Arglwydd Jones o Benybont yn gyn Brif Weinidog Cymru (2009–2018) a bu’n Aelod o’r Senedd dros Ben-y-bont ar Ogwr rhwng 1999 a 2021. Ar ôl graddio yn y Gyfraith o Brifysgol Aberystwyth, aeth ymlaen i hyfforddi fel bargyfreithiwr yn Llundain cyn gweithio mewn practis cyfreithiol yn Siambrau Gŵyr, Abertawe am ddeng mlynedd. Cafodd ei benodi yn Athro rhan amser yn Adran y Gyfraith a Throseddeg Prifysgol Aberystwyth yn 2019.
Yr Athro Angharad Price

Mae Angharad Price yn Athro’r Gymraeg ac Ysgrifennu Creadigol ym Mhrifysgol Bangor.
Ruth Thomas

Mae Ruth yn Uwch Olygydd Newyddion gyda BBC News, ble mae’n arwain tîm sy’n cynorthwyo newyddiadurwyr i ddefnyddio data i dyfu cynulleidfaoedd a dyfnhau’r berthynas gyda nhw – yn y DU ac ar draws y byd. Mae hi wedi gweithio yn Adran Newyddion BBC Cymru mewn nifer o swyddi, gan gynnwys fel Golygydd Rhaglen Newyddion S4C, ac yn un o sylfaenwyr gwefan Cymru Fyw. Mae Ruth yn ddarllenwr brwd a rhedwr araf.
Dr Andrew Webb
Dr Caroline Owen Wintersgill

Mae Dr Caroline Owen Wintersgill yn Uwch Ddarlithydd ac yn Gyfarwyddwr Rhaglen ar gyfer gradd Meistr Astudiaethau Cyhoeddi ym Mhrifysgol Stirling. Mae ganddi ddoethuriaeth ym maes darllen, ysgrifennu a chyhoeddi llenyddiaeth gyfoes. Mae ei hymchwil ar hyn o bryd yn canolbwyntio ar werthoedd a heriau cyhoeddi i genhedloedd bychain a rhanbarthau ar draws y Deyrnas Unedig. Cyn symud i’r byd academaidd, bu’n gweithio am dros 25 mlynedd i rai o gyhoeddwyr blaenllaw Prydain, gan gynnwys Routledge, Bloomsbury a Manchester University Press.
Dod yn Ymddiriedolwr
Os hoffech gefnogi ein gwaith ac â diddordeb mewn dod yn aelod o Fwrdd yr Ymddiriedolwyr, gallwch ddod o hyd i’r swyddi gwag diweddaraf ar ein tudalen Gwirfoddoli