Gwobrau Tir na n-Og 2026: Rhestr Fer Cymraeg – Categori Cynradd

Maw 17, 2026

Heno, 17 Mawrth, datgelodd Cyngor Llyfrau Cymru y rhestr fer gyntaf o Wobrau Tir na n-Og 2026 ar raglen Heno S4C, sef y categori Cymraeg Cynradd. Mae’r gwobrau yn dathlu’r gorau o straeon o Gymru a straeon am Gymru a gyhoeddwyd yn 2025.

Gwobrau Tir na n-Og yw’r gwobrau hynaf ar gyfer llenyddiaeth plant a phobl ifanc yng Nghymru, ac maent yn dathlu eu hanner canmlwyddiant yn 2026. Caiff y gwobrau eu trefnu’n flynyddol gan Gyngor Llyfrau Cymru a’u cefnogi gan CILIP Cymru Wales. Maent yn dathlu dawn a chreadigrwydd awduron a darlunwyr sydd naill ai’n creu gweithiau gwreiddiol yn Gymraeg, neu’n ysgrifennu am themâu neu gefndiroedd Cymreig dilys drwy gyfrwng y Saesneg.

Mae tri chategori i’r gwobrau: Llyfrau Cymraeg Cynradd (4–11 oed), Llyfrau Cymraeg Uwchradd (11–18 oed) a’r Llyfr Saesneg gyda chefndir Cymreig dilys ar gyfer cynradd neu uwchradd (4–18 oed).

Mae pedair cyfrol wedi cyrraedd y rhestr fer yn y categori Cymraeg Cynradd eleni, sef:

  • Cyfri Defaid gan Enlli Lewis, darluniwyd gan Gareth Brown (Atebol) 

Rhaid i Mostyn, yr oen bach clyfar, gyfri defaid y praidd i wneud yn siŵr fod pob un yn saff. Ond mae gan Mostyn broblem – mae’n syrthio i gysgu bob tro!

  • Gerwyn Gwrthod a’r Llyfr Does Neb yn Cael ei Ddarllen gan Siôn Tomos Owen, darluniwyd gan Siôn Tomos Owen (Atebol)

Ar wyliau mae Gerwyn yn dod ar draws llyfr arbennig mewn siop go wahanol. Wrth agor y llyfr ar y slei, mae’n cael ei lyncu i mewn iddo ac yn deffro mewn gwlad anghyfarwydd.

  • Am Gymro gan Medi Jones-Jackson, darluniwyd gan Telor Gwyn (Y Lolfa)

Llyfr deniadol a llawn hwyl am 13 o ddynion ysbrydoledig o Gymru sy’n arbenigwyr yn eu meysydd penodol ac yn dod o bob rhan o Gymru.

  • Llyfr Sgrap Macs Sion gan Mari Lovgreen, darluniwyd gan Cai Tudur (Y Lolfa)

Dyma lyfr sgrap boncyrs Macs Sion – llyfr llawn cyfrinachau a breuddwydion. Cawn fynd ar daith gydag ef i’r eisteddfod cylch, i Langrannog ac ar ei ddêt cyntaf…!

Bob blwyddyn, mae paneli annibynnol yn penderfynu ar y rhestrau byrion ac yn dewis yr enillwyr ar gyfer y gwobrau Cymraeg a Saesneg. Y beirniaid ar y panel Cymraeg eleni oedd Rhys Dilwyn Jenkins (Cadeirydd), Helen Jones, Malachy Edwards a Loti Glyn.

Dywedodd Helgard Krause, Prif Weithredwr Cyngor Llyfrau Cymru: “Mae’n bleser pur cyhoeddi rhestrau byrion o ansawdd mor uchel yn y flwyddyn arbennig hon. Ar ôl hanner canrif mae Gwobrau Tir na n-Og yn parhau i ddathlu’r gorau o lyfrau i blant a phobl ifanc ac mae’r llyfrau sydd wedi cyrraedd y brig unwaith eto eleni yn haeddu eu lle – gymaint felly bod pedwar eleni yn y categori cynradd yn hytrach na’r tri arferol. Llongyfarchiadau mawr i’r holl awduron, darlunwyr a’r cyhoeddwyr – rydw i’n edrych ymlaen yn arw at weld pwy fydd yn cipio’r gwobrau yn yr haf!”

Datgelir y rhestr fer ar gyfer y categori Saesneg ar nos Fercher 18 Mawrth am 7yh gan Lysgennad Gwobrau Tir na n-Og 2026, Richard Parks a’r Cyngor Llyfrau ar Instagram @gwobrautirnanogawards (Agor mewn ffenest newydd). Cyhoeddir rhestr fer y categori Cymraeg Uwchradd nos Iau 19 Mawrth ar Heno S4C.

Cyhoeddir yr enillwyr yn yr haf – gwobr y categori Saesneg yn ystod cynhadledd CILIP ar 9 Mai, a gwobrau’r categorïau Cymraeg Cynradd ac Uwchradd ar ddydd Iau 28 Mai yn Eisteddfod yr Urdd Ynys Môn.

Eleni, bydd cyfle unwaith eto i blant a phobl ifanc ddewis enillwyr categori arbennig, sef Gwobr Dewis y Darllenwyr: tlws arbennig i lyfrau a ddewisir gan blant a phobl ifanc sy’n cymryd rhan yng nghynllun cysgodi Tir na n-Og. Gall ysgolion, llyfrgelloedd a grwpiau darllen eraill gofrestru i gymryd rhan yn y cynllun a bod yn feirniaid answyddogol i ddewis enillwyr o blith y rhestr fer, gan ddefnyddio’r pecyn cysgodi arbennig. Cewch fanylion ar sut i gofrestru ar wefan y Cyngor Llyfrau, Gwobrau Tir na n-Og | Cyngor Llyfrau Cymru

Bydd llyfrgelloedd a siopau llyfrau yn cynnal Helfeydd Trysor Tir na n-Og yn ystod gwyliau’r Pasg gyda chyfle i blant rhwng 4 ac 11 oed gymryd rhan. Gofynnwch i’ch llyfrgell neu eich siop lyfrau leol am fanylion. 

Mae cyfle hefyd i ddarllenwyr o bob oedran ymuno â Her Ddarllen Tir na n-Og eleni, a mwynhau cyfres o heriau hwyliog i fynd â nhw ar antur ddarllen i’w chofio. Mae fersiynau gwahanol ar gael i blant, bobl ifanc ac i oedolion, gyda digon o ddewis o heriau i chi rannu gyda theulu neu ffrindiau. Mae taflenni Her Ddarllen Tir na n-Og ar gael i’w casglu o’ch siop lyfrau neu lyfrgell leol neu i’w lawrlwytho o wefan Cyngor Llyfrau Cymru: Gwobrau Tir na n-Og | Cyngor Llyfrau Cymru. Mae’r Cyngor Llyfrau yn ddiolchgar iawn i Wasg Gomer am ei chefnogaeth hael yn argraffu’r taflenni heriau darllen.

Mae’r Cyngor Llyfrau yn ddiolchgar iawn i’n Llysgenhadon a chefnogwyr hael Gwobrau Tir na n-Og 2026:

Llysgenhadon: Richard Parks, Elain Llwyd a Ffion Llwyd.

Noddwyr:

  • CILIP Cymru, ein noddwr hir sefydlog y gwobrau
  • BCCIT
  • Folly Farm
  • Gwasg Gomer
  • Halen Môn
  • Welshpool Printing Group

Cewch fwy o wybodaeth am y gwobrau a’r llyfrau ar y rhestrau byrion ar wefan y Cyngor Llyfrau, llyfrau.cymru

 Yn cefnogi’r Flwyddyn Genedlaethol o Ddarllen: Ymgolli / Go All In, (Agor mewn ffenest newydd) mae Gwobrau a Her Ddarllen Tir na n-Og yn rhan o raglen ehangach o weithgareddau dathlu darllen ledled y DU. Prif nod ymgyrch ‘Ymgolli’ yw ysbrydoli pobl i fagu cariad at ddarllen gydol oes trwy ymgolli mewn llyfr a mwynhau darllen.