Gweithio gyda’n gilydd

Dyma rai o’r sefydliadau rydym yn gweithio gyda nhw i gefnogi’r diwydiant cyhoeddi yng Nghymru ac i hyrwyddo a dathlu darllen.

Cyhoeddi Cymru / Publishing Wales a Cwlwm Cyhoeddwyr Cymru

Cyrff syn cynrychioli’r sector cyhoeddi yng NghymruRydym yn cyfarfod yn rheolaidd gyda Chyhoeddi Cymru a Cwlwm Cyhoeddwyr Cymru a’u haelodau

Cyhoeddi Cymru (Agor mewn ffenest newydd)

Llyfrwerthwyr Cymru 

Llais llyfrwerthwyr annibynnol yng Nghymru, cefnogir gan y Booksellers Association. Mae’r grŵp dwyieithog yma ar agor i unrhyw siop lyfrau annibynnol yng Nghymru; i rannu syniadau, cynnig cefnogaeth i’w gilydd, darparu datblygiad proffesiynol a chyfleoedd i rwydweithio, a theimlo’n rhan o’r gymuned llyfrwerthu ehangach yng Nghymru.

Llenyddiaeth Cymru 

Mae Cyngor Llyfrau Cymru a Llenyddiaeth Cymru yn gweithio gyda’n gilydd er mwyn sicrhau bod llenyddiaeth yng Nghymru yn ffynnu. Mae Llenyddiaeth Cymru yn canolbwyntio ar ddatblygu awduron, tra mae Cyngor Llyfrau Cymru yn cefnogi cyhoeddwyr ac yn hyrwyddo darllen.

Rydym yn cydweithio ar brosiectau amrywiol, yn rhannu arbenigedd, ac yn sicrhau bod rhaglenni’r ddau sefydliad yn cyfateb er mwyn darparu llwybrau sy’n helpu awduron i gael eu cyhoeddi, hyrwyddo llenyddiaeth Gymraeg, ac yn annog darllen ymhlith plant ac oedolion.

Mae ein cydweithrediadau yn cynnwys:

  • Bardd Plant Cymru a Children’s Laureate Wales
  • Gwobr Llyfr y Flwyddyn
  • Panel Llyfrau Plant a Hyrwyddo Darllen
  • Cyrsiau a digwyddiadau i ddatblygu talent a dyfnhau dealltwriaeth o’r sector llenyddiaeth a chyhoeddi
  • Presenoldeb ar baneli asesu y naill a’r llall

Llenyddiaeth Cymru (Agor mewn ffenest newydd)

CILIP Cymru Wales

CILIP Cymru yw Sefydliad Siartredig Llyfrgellwyr a Gweithwyr Gwybodaeth Proffesiynol yng Nghymru. Rydym yn hynod ddiolchgar i CILIP am eu nawdd parhaol ar gyfer Gwobrau Tir na n-Og yn flynyddol.

Tir na n-Og Awards

CILIP Cymru Wales (Agor mewn ffenest newydd)

Canolfan Dysgu Cymraeg Genedaethol

Mae Amdani yn gyfres o lyfrau graddedig ar gyfer pobl sy’n dysgu Cymraeg. Mae’r llyfrau yn cefnogi dysgwyr yn ystod pob cam o’u taith, ac maent wedi cael eu datblygu mewn partneriaeth â’r Ganolfan Genedlaethol ar gyfer Dysgu Cymraeg.

Amdani

Canolfan Dysgu Cymraeg Genedlaethol (Agor mewn ffenest Newydd)