Cymru Greadigol
Yn cefnogi swyddi, busnesau a chreadigrwydd
Ein prif ffynhonnell gyllid yw Cymru Greadigol; asiantaeth fewnol Llywodraeth Cymru sydd yn hybu tyfiant y diwydiannau creadigol yng Nghymru. Mae’r cyllid yn darparu gwasanaethau hanfodol a chefnogaeth ariannol i’r sector cyhoeddi yng Nghymru. Dyfernir y rhan fwyaf o’r cyllid yma yn allanol ar ffurf grantiau i’r sector, yn cynnwys grantiau i lyfrau a chylchgronau, mewn print ac ar-lein, yn y Gymraeg ac yn Saesneg.
Mae’r sector cyhoeddi yn rhan o’r Economi Sylfaenol yng Nghymru, ac mae’n cynnal swyddi medrus yn y diwydiannau creadigol, yn aml mewn meicro-fentrau neu i bobl sy’n gweithio fel gweithwyr llawrydd. Mae’r rolau hyn yn aml wedi’u lleoli mewn ardaloedd gwledig a gallant fod yn bwysig iawn i gymunedau Cymraeg. Mae llyfrau hefyd o fudd uniongyrchol i sectorau creadigol eraill trwy ddarparu’r straeon ar gyfer cynyrchiadau Theatr, Ffilm a Theledu, Animeiddio a Gemau, i enwi ond ychydig.
Mae Cymru Greadigol hefyd yn cefnogi prosiectau ychwanegol sydd yn mynd i’r afael â meysydd a blaenoriaethau penodol. Yn y gorffennol mae hyn wedi cynnwys cefnogaeth i’r sector i fynychu digwyddiadau megis Ffair Lyfrau Frankfurt, lle rydym yn hyrwyddo llyfrau o Gymru fel nwyddau diwylliannol dramor, ac yn darparu cyfleoedd i dalent gyhoeddi Cymru gwrdd a rhwydweithio â phobl greadigol o’r un anian ar draws marchnadoedd rhyngwladol. Yn ddiweddar mae Cymru Greadigol wedi ariannu Cronfa Cynulleidfaoedd Newydd (2022–25) a sefydlwyd i fynd i’r afael yn rhagweithiol â thangynrychiolaeth yn y diwydiant cyhoeddi yng Nghymru a chreu cyfleoedd ar gyfer lleisiau a llwyfannau newydd.
Addysg
Llythrennedd, empathi a lles
Mae’r Adran Addysg yn darparu cyllid i Adran Llyfrau Plant a Hyrwyddo Darllen y Cyngor Llyfrau, a hynny yn sgil Rhaglen Cymorth Grant y Cwricwlwm. Mae hyn yn ein galluogi i gynnal cynlluniau sy’n hyrwyddo a dathlu darllen er pleser: yn helpu i ddatblygu llythrennedd, empathi a lles, ac yn cefnogi’r Cwricwlwm i Gymru.
Athrawon Caru Darllen
BookSlam
Gornest Lyfrau
Sialens Ddarllen yr Haf
Diwrnod y Llyfr
Mae’r Adran Addysg hefyd yn ariannu prosiectau ac ymyriadau arbennig fel Rhyngom, ein prosiect i gyhoeddi mwy o lyfrau i ddarllenwyr ifanc sy’n cynrychioli diwylliant, pobl a hanes Cymru gyfan, ac sy’n dathlu a hyrwyddo amrywiaeth.
Is-adran Diwylliant
Ysbrydoli cariad gydol oes at ddarllen
Mae’r Is-adran Diwylliant yn cefnogi prosiectau sy’n meithrin cydweithio rhwng ysgolion, llyfrgelloedd a theuluoedd. Rydym wedi gweithio’n agos gyda nhw i ddatblygu cynlluniau i sicrhau bod gan bawb fynediad at lyfrau, ac i helpu i danio cariad gydol oes at ddarllen.
Yr iaith Gymraeg
Tuag at Cymraeg 2025 a miliwn o siaradwyr Cymraeg
Rydym yn diogelu ac yn sicrhau cynhyrchu llyfrau a chylchgronau Cymraeg – y rhan fwyaf ohonynt yn dibynnu ar gyllid grant i ryw raddau. Rydym yn cefnogi llyfrau ar gyfer oedolion a phlant; ffuglen a ffeithiol, barddoniaeth, hanes, llyfrau ar iechyd meddwl a lles, llyfrau coginio, llyfrau i blant, llyfrau i ddysgwyr Cymraeg a chylchgronau o bob math, i sicrhau bod yr ystod ehangaf bosib o ddeunydd darllen ar gael i ddarllenwyr Cymraeg.
Rydym yn gyflogwr cefn gwlad lle mae pob aelod o’r staff yn siarad Cymraeg, ac rydym yn cefnogi ac yn rhoi cyfleoedd i staff sy’n siaradwyr newydd neu sydd wedi dysgu Cymraeg i ddatblygu eu sgiliau Cymraeg. Mae hyn yn golygu bod pob adran yn cynnig gwasanaethau Cymraeg i’r cyhoeddwyr, llyfrwerthwyr, llyfrgelloedd ysgolion a gweithwyr llawrydd sy’n dymuno gweithio gyda ni trwy gyfrwng y Gymraeg.
Iechyd
Mae llyfrau’n cefnogi ein hiechyd a’n lles
Mae manteision darllen i’n hiechyd meddwl a chorfforol wedi eu cydnabod yn eang.
Ers 2018 mae Adran Iechyd Llywodraeth Cymru wedi cefnogi cynllun Darllen yn Well yng Nghymru. Rydym yn gweithio gyda’n partneriaid yn The Reading Agency i sicrhau darpariaeth o deitlau yn y Gymraeg sy’n cefnogi pobl i ddeall a rheoli eu hiechyd a lles, gan ddefnyddio deunydd darllen defnyddiol. O ganlyniad mae dros 100 o lyfrau ar bynciau iechyd a lles bellach ar gael yn y Gymraeg.