Mae gan Gyngor Llyfrau Cymru statws elusennol ers i ni gael ein sefydlu yn 1961, ac mae ein trefniadau llywodraethu yn unol â gofynion y Comisiwn Elusennau. Ar 1 Ebrill 2021, fe wnaethom drosglwyddo o fod yn elusen anghofrestredig i fod yn Sefydliad Corfforedig Elusennol (SCE) gyda Bwrdd Ymddiriedolwyr newydd ac aelodaeth newydd o’r Cyngor.
Fel SCE ac elusen gofrestredig (Rhif Elusen Gofrestredig 1192269), mae ein pwrpas elusennol wedi ei nodi yn ein Cyfansoddiad, ynghyd â’n nodau a’n hamcanion.
Ein hamcanion
Nod y Cyngor Llyfrau yw hyrwyddo, hybu a datblygu gwerthfawrogiad a diddordeb y cyhoedd mewn llyfrau, llenyddiaeth a darllen yng Nghymru, a hynny heb gyfyngu dim ar yr amcanion cyffredinol a nodwyd, ond yn hytrach er mwyn hyrwyddo’r amcanion hynny ac nid fel arall:
- cefnogi a chynorthwyo’r diwydiant llyfrau yng Nghymru drwy roi grantiau a thrwy ddulliau eraill
- cefnogi, hybu a chynorthwyo cynhyrchu a dosbarthu llyfrau a deunydd llenyddol ac artistig arall, ym mha ffurf bynnag y’u cofnodwyd (boed trwy ddulliau sy’n hysbys neu thrwy ddulliau sydd hyd yn hyn yn anhysbys) yn nwy iaith swyddogol Cymru, y Gymraeg a’r Saesneg, neu’n ymwneud â Chymru;
- trefnu digwyddiadau i gefnogi hyrwyddo llyfrau, darllen a’r sector llyfrau yn ei gyfanrwydd
- cefnogi hybu a chyhoeddi’r cyfryw lyfrau a deunydd arall yng Nghymru.
Gallwch ddarganfod mwy drwy ddilyn y ddolen i’n Cyfansoddiad:
Prif Weithredwr
Penodwyd Helgard Krause yn Brif Weithredwr Cyngor Llyfrau Cymru ym mis Ebrill 2017, ac mae hi’n adrodd i Gadeirydd a Bwrdd yr Ymddiriedolwyr. Mae hi’n gyfrifol am arwain a gosod cyfeiriad strategol y Cyngor Llyfrau, ac am eirioli dros y sector gyda Llywodraeth Cymru a Cymru Greadigol, ein prif gyllidwyr.
Ymddiriedolwyr
Mae hyd at 12 aelod ar y Bwrdd Ymddiriedolwyr. Maent yn gyfrifol am lywodraethiant y Cyngor Llyfrau ac am oruchwylio cyfeiriad strategol yr elusen. Y prif swyddogion yw:
Cadeirydd: Linda Tomos
Is-Gadeirydd: Rona Aldrich
Trysorydd: Alfred Oyekoya
Ymddiriedolwyr Cyngor Llyfrau Cymru
Mae’r Bwrdd yn cynnal pedwar cyfarfod y flwyddyn ac yn sicrhau bod y Cyngor Llyfrau yn cyrraedd ac yn cadw at ei amcanion fel SCE, fel y nodir yn ein Cyfansoddiad.
Aelodaeth y Cyngor
Mae’r aelodaeth yn cynnwys cynrychiolwyr o awdurdodau lleol a sefydliadau eraill sydd, ar ôl y trefniadau cyfansoddiadol newydd a ddaeth i rym ar 1 Ebrill 2021, wedi dod yn aelodau o’r elusen.
Caiff Cyfarfod Cyffredinol Blynyddol o’r Cyngor, sy’n cynnwys holl aelodau’r elusen, ei gynnal unwaith y flwyddyn ym mis Gorffennaf. Mae’r cyfarfod yn gyhoeddus ac yn agored i bawb.
Mae’r aelodaeth hefyd yn cynnwys cynrychiolaeth o is-bwyllgorau’r Cyngor.
Is-bwyllgorau
Mae gan y Cyngor Llyfrau dri is-bwyllgor annibynnol sy’n cefnogi ein gwaith.
Mae dau Is-bwyllgor Datblygu Cyhoeddi (Cymraeg a Saesneg) a hwy yw’r paneli annibynnol sy’n dosrannu grantiau i gyhoeddwyr.
Mae Is-bwyllgor Hyrwyddo Darllen yn banel ymgynghorol sy’n cefnogi gwaith yr Adran Llyfrau Plant a Hyrwyddo Darllen.
Is-bwyllgorau Datblygu Cyhoeddi
Is-bwyllgorau Datblygu Cyhoeddi (Cymraeg)
Nia Peris (Cadeirydd)
Robat Arwyn (Is-gadeirydd)
Glenys Llewelyn
Gruff Ywain
Catrin Beard
Delyth Roberts
Alpha Evans
Buddug Hughes
Paige Morgan
Is-bwyllgorau Datblygu Cyhoeddi (Saesneg)
Yr Athro Matthew Jarvis (Cadeirydd)
Philip Gwyn Jones
Joe Shooman
Akosua Darko
Chinyere Chukwudi-Okeh
Rhodri Mogford Jones
Hannah Evans
Angharad Thomas
Beth McAulay
Is-bwyllgor Hyrwyddo Darllen
Aelodau’r is-bwyllgor: Dr Siwan M. Rosser (Cadeirydd) Gwawr Maelor Simon Fisher Luke Upton Susan Jones Elaine Canning Dr Andy Webb (Trustee) Rydym hefyd yn croesawu cynrychiolwyr: Ymddiriedolwyr Cyngor Llyfrau Cymru, BookTrust Cymru, CILIP Cymru, Llenyddiaeth Cymru, MALD
Panel Pobl Ifanc
Mared Fflur (Chair)
Alexander
Bethan
Edward
Elin
Gwenno
Jona
Joshua
Lleucu
Mei
Nikki
Cyfeillion Cyngor Llyfrau Cymru
Sefydlwyd Cyfeillion Cyngor Llyfrau Cymru yn 1995 i hyrwyddo ein gwaith a chefnogi’r diwydiant llyfrau yng Nghymru, yn y Gymraeg a’r Saesneg.
Gwirfoddoli
Rydym yn ddiolchgar i’n Ymddiriedolwyr ac aelodau ein his-bwyllgorau, sy’n cyflawni eu gwaith o’i gwirfodd. Mae modd dod o hyd i fwy o wybodaeth am sut y gallwch gefnogi ein gwaith fel Ymddiriedolwr neu ddod yn aelod o’n his-bwyllgorau ar ein tudalen gwirfoddoli.