Cefnogaeth i Lyfrgelloedd

Sliffoedd llyfrau a mainc eistedd mewn llyfrgell

Gwerthu ac archebion

 Mae ein tîm gwerthu yma i’ch helpu chi ac maen nhw’n gallu rhannu gwybodaeth am y llyfrau diweddaraf sydd ar gael, casglu archebion a chynnig cyngor ar deitlau sy’n berthnasol i’ch ardal chi. Os hoffech chi drefnu ymweliad, cysylltwch â’r tîm gwerthu trwy: gwerthu@books.wales (agor e-bost) neu ffoniwch ni ar 01970 624455.

Gallwch hefyd chwilio am wybodaeth am yr holl deitlau sydd ar gronfa ddata’r Cyngor Llyfrau, neu osod archebion ar-lein ar Gwales Siop (agor mewn ffenest newydd).

Prosesir archebion drwy siop lyfrau annibynnol o ddewis y llyfrgell, sy’n eich helpu chi i gefnogi siopau llyfrau annibynnol a’ch stryd fawr leol.

Sêr y Silffoedd

Sefydlwyd y cynllun er mwyn i blant gyfarfod ag awduron mewn gweithdai creadigol, i danio eu dychymyg ac i ysbrydoli darllen. Y nod hefyd oedd darparu mwy o gyfleoedd i ysgolion a llyfrgelloedd ddod â phlant allan o’r ystafell ddosbarth ac i mewn i’w llyfrgell leol. 

Ariannwyd cynllun Sêr y Silffoedd gan Is-adran Diwylliant Llywodraeth Cymru a’i gydlynu gan Gyngor Llyfrau Cymru. 

Ymweliadau Awduron

Cymerwch olwg ar ein Cyfeiriadur Awduron a Darlunwyr (PDF), a ddiwedderir yn rheolaidd ac sy’n cynnwys manylion awduron llyfrau i blant sy’n cynnig ymweliadau i ysgolion a llyfrgelloedd. Gallwn ni hefyd awgrymu awduron sydd yn berthnasol i’ch digwyddiad neu’ch ardal – os hoffech chi gael sgwrs am hyn mae croeso i chi gysylltu â ni ar cllc.plant@books.wales (agor e-bost).

Ymgyrchoedd

Rydym yn cynnal ymgyrchoedd i hyrwyddo darllen, a hynny ar y cyd â llyfrgelloedd a phartneriaid eraill gan amlaf, i ysbrydoli cariad at ddarllen ac i helpu i wneud llyfrau ar gael i bawb.

Sialens Ddarllen yr Haf
Darllen yn Well
Gwobrau Tir na n-Og