Cefnogaeth i Ysgolion

Plant yn eistedd yn gwrando yn ofalus mewn llyfrgell

Ymweliadau ag ysgolion 

Gallwn gynnig cyngor a chymorth i helpu athrawon i ddewis llyfrau newydd ar gyfer dysgwyr sy’n ysbrydoli darllen er pleser, ac yn cefnogi cyflwyniad y Cwricwlwm i Gymru.

Rydym yn cynnig ymweliadau ag ysgolion cynradd, uwchradd ac ysgolion arbennig i arddangos llyfrau a deunyddiau addysgol a chasglu archebion. Mae’r ymweliadau hyn yn helpu athrawon a llyfrgellwyr i dderbyn yr wybodaeth ddiweddaraf am lyfrau ac adnoddau newydd sydd ar gael i’w cefnogi yn y dosbarth.

Gallwch ddod o hyd i’r wybodaeth berthnasol am y llyfrau sydd ar gael ar ein gwefan werthu, Gwales.com, a gallwn gynnig arweiniad a chyngor i ysgolion sy’n dymuno archebu ar-lein.

Cefnogi eich siop lyfrau leol

Prosesir pob archeb ysgol, boed ar-lein neu wyneb yn wyneb, drwy siop lyfrau annibynnol o’ch dewis chi. Mae hyn yn galluogi eich ysgol i gefnogi eich siop lyfrau leol a’ch cymuned.

I drefnu ymweliad ysgol cysylltwch â’n Swyddog Addysg: shoned.davies@llyfrau.cymru (agor e-bost).

Adnoddau dosbarth

Mae Adran Llyfrau Plant a Hyrwyddo Darllen y Cyngor Llyfrau wedi creu ystod eang o adnoddau ar gyfer ysgolion i helpu ac annog dysgwyr i ddarllen. Gallwn gynnig cyngor ar restrau darllen addas a threfnu teithiau awdur. Gallwn hefyd helpu ynglŷn â sut i gael y gorau o ddigwyddiadau llyfrau arbennig megis

Diwrnod Y Llyfr (Agor mewn ffenest newydd).

Cyfeiriadur Awduron a Darlunwyr (PDF)

Ysbrydoliaeth Darllen

Rydym yn rhedeg ymgyrchoedd i hyrwyddo darllen, yn aml ar y cyd â llyfrgelloedd a phartneriaid eraill, i ysbrydoli cariad at ddarllen a helpu i wneud llyfrau ar gael i bawb.

Gornest Lyfrau

Sialens Ddarllen yr Haf

Darllen Yn Well

Gwobrau Tir na n-Og