Ni allwn wneud yr hyn a wnawn heb ein gwirfoddolwyr anhygoel sy’n rhoi eu hamser a’u harbenigedd yn hael i’r Bwrdd, yr is-bwyllgorau annibynnol, a’r paneli ymgynghorol.
Ymddiriedolwyr
Mae ein Bwrdd Ymddiriedolwyr yn gyfrifol am lywodraethiant y Cyngor Llyfrau, ac yn sicrhau ein bod ni’n cyflawni ac yn cynnal ein hamcanion fel SCE, fel y nodir yn ein Cyfansoddiad. Mae’r Bwrdd yn cyfarfod bedair gwaith y flwyddyn. Mae aelodau’r Bwrdd yn gwasanaethu am gyfnod penodol o bedair blynedd a gallant wasanaethu dau dymor yn olynol.
Is-bwyllgorau
Cefnogir ein gwaith gan dri is-bwyllgor annibynnol. Mae’r ddau Is-bwyllgor Datblygu Cyhoeddi (Cymraeg a Saesneg) yn cyflawni rôl hanfodol fel y paneli annibynnol sy’n dyfarnu grantiau i gyhoeddwyr. Maen nhw’n cyfarfod sawl gwaith y flwyddyn, mewn person neu ar-lein yn ôl yr angen.
Panel ymgynghorol yw’r Is-bwyllgor Llyfrau Plant a Hyrwyddo Darllen sy’n cefnogi gwaith yr Adran Llyfrau Plant a Hyrwyddo Darllen. Maent yn cyfarfod ddwywaith y flwyddyn, ar-lein fel arfer. Mae aelodau’r Is-bwyllgor yn gwasanaethu am gyfnod penodol o bedair blynedd a gallant wasanaethu dau dymor yn olynol.
Llywodraethiant ac Ymddiriedolwyr
Rydym hefyd yn hynod ddiolchgar i aelodau niferus ein paneli beirniaid a grwpiau ymgynghorol eraill, megis beirniaid Tir na n-Og ac aelodau’r Panel Pobl Ifanc.
Gwirfoddoli gyda ni
Does dim cyfleoedd gwirfoddoli ar hyn o bryd.
Rydym yn recriwtio ar gyfer aelodau i’r Bwrdd a’r is-bwyllgorau yn achlysurol wrth i swyddi gwag ddod i’r fei, felly dewch yn ôl i wirio’r dudalen hon, neu dilynwch ni ar y cyfryngau cymdeithasol. Os hoffech ofyn am gyfleoedd gwirfoddoli eraill, mae croeso i chi gysylltu â ni drwy lenwi’r ffurflen gysylltu: