Heno, 19 Mawrth, datgelodd Cyngor Llyfrau Cymru y drydedd restr fer o Wobrau Tir na n-Og 2026 ar raglen Heno S4C, sef y categori Cymraeg Uwchradd. Mae’r gwobrau yn dathlu’r gorau o straeon o Gymru a straeon am Gymru a gyhoeddwyd yn 2025.
Gwobrau Tir na n-Og yw’r gwobrau hynaf ar gyfer llenyddiaeth plant a phobl ifanc yng Nghymru, ac maent yn dathlu eu hanner canmlwyddiant yn 2026. Caiff y gwobrau eu trefnu’n flynyddol gan Gyngor Llyfrau Cymru a’u cefnogi gan CILIP Cymru Wales. Maent yn dathlu dawn a chreadigrwydd awduron a darlunwyr sydd naill ai’n creu gweithiau gwreiddiol yn Gymraeg, neu’n ysgrifennu am themâu neu gefndiroedd Cymreig dilys drwy gyfrwng y Saesneg.
Mae tri chategori i’r gwobrau: Llyfrau Cymraeg Cynradd (4–11 oed), Llyfrau Cymraeg Uwchradd (11–18 oed) a’r Llyfr Saesneg gyda chefndir Cymreig dilys ar gyfer cynradd neu uwchradd (4–18 oed).
Mae pedair cyfrol wedi cyrraedd y rhestr fer yn y categori Cymraeg Uwchradd eleni, sef:
- Y Garthen gan Sioned Wyn Roberts (Atebol)
Antur hanesyddol am Pegi a’i brawd Ifan sy’n gweithio yn Ffatri Wlân Rhyd Ddu, Pen Llŷn. Un bore, daw Pegi o hyd i gwdyn o arian wedi’i ddwyn o’r ffatri ac mae Amos Williams, rheolwr y ffatri, yn cyhuddo Ifan o’i gymryd.
- Anfarwol gan Rebecca Roberts (Gwasg Carreg Gwalch)
Mae chwe disgybl cwrs trochi Ysgol Uwchradd Glan y Gors yn mynd ar drip ysgol i wersyll Coed Daniel. Ond nhw ydi’r unig ddosbarth sy’n llwyddo i gyrraedd pen y daith…
- Gwen ac Arianrhod gan Lleucu Gwenllian, darluniwyd gan Lleucu Gwenllian (Gwasg Carreg Gwalch)
Dydi symud i ysgol newydd byth yn hawdd; mae’n anoddach fyth pan nad ydach chi’n ffitio i mewn. Nofel graffig am gyfeillgarwch, galar, a’r trafferthion o dyfu i fyny.
- Y Cae Ras gan Manon Steffan Ros (Y Lolfa)
Mae bywyd Danny yn gymhleth. Mae Mam wedi cael cariad newydd sydd ddim at ddant Mali, ei efaill, a daw hyn â newid byd i’r teulu bach sy’n byw yng nghysgod y Cae Ras.
Bob blwyddyn, mae paneli annibynnol yn penderfynu ar y rhestrau byrion ac yn dewis yr enillwyr ar gyfer y gwobrau Cymraeg a Saesneg. Y beirniaid ar y panel Cymraeg eleni oedd Rhys Dilwyn Jenkins (Cadeirydd), Helen Jones, Malachy Edwards a Loti Glyn.
Dywedodd Helgard Krause, Prif Weithredwr Cyngor Llyfrau Cymru: “Mae’n bleser pur cyhoeddi rhestrau byrion o ansawdd mor uchel yn y flwyddyn arbennig hon. Ar ôl hanner canrif mae Gwobrau Tir na n-Og yn parhau i ddathlu’r gorau o lyfrau i blant a phobl ifanc ac mae’r llyfrau sydd wedi cyrraedd y brig unwaith eto eleni yn haeddu eu lle – gymaint felly bod pedwar eleni yn y categori uwchradd yn hytrach na’r tri arferol. Llongyfarchiadau mawr i’r holl awduron, darlunwyr a’r cyhoeddwyr – rydw i’n edrych ymlaen yn arw at weld pwy fydd yn cipio’r gwobrau yn yr haf!”
Cyhoeddwyd rhestr fer y categori Cymraeg Cynradd nos Fawrth 17 Mawrth ar Heno S4C. Datgelwyd y rhestr fer ar gyfer y categori Saesneg ar nos Fercher 18 Mawrth gan Lysgennad Gwobrau Tir na n-Og, Richard Parks, a’r Cyngor Llyfrau ar Instagram @gwobrautirnanogawards (agor mewn ffenest newydd)
Cyhoeddir yr enillwyr yn yr haf – gwobr y categori Saesneg yn ystod cynhadledd CILIP ar 9 Mai, a gwobrau’r categorïau Cymraeg Cynradd ac Uwchradd ar 28 Mai yn Eisteddfod yr Urdd Ynys Môn.
Eleni, bydd cyfle unwaith eto i blant a phobl ifanc ddewis enillwyr categori arbennig, sef Gwobr Dewis y Darllenwyr: tlws arbennig i lyfrau a ddewisir gan blant a phobl ifanc sy’n cymryd rhan yng nghynllun cysgodi Tir na n-Og. Gall ysgolion, llyfrgelloedd a grwpiau darllen eraill gofrestru i gymryd rhan yn y cynllun a bod yn feirniaid answyddogol i ddewis enillwyr o blith y rhestr fer, gan ddefnyddio’r pecyn cysgodi arbennig. Cewch fanylion ar sut i gofrestru ar wefan y Cyngor Llyfrau, Gwobrau Tir na n-Og | Cyngor Llyfrau Cymru
Bydd llyfrgelloedd a siopau llyfrau yn cynnal Helfeydd Trysor Tir na n-Og yn ystod gwyliau’r Pasg gyda chyfle i blant rhwng 4 ac 11 oed gymryd rhan. Gofynnwch i’ch llyfrgell neu eich siop lyfrau leol am fanylion.
Mae cyfle hefyd i ddarllenwyr o bob oedran ymuno â Her Ddarllen Tir na n-Og eleni, a mwynhau cyfres o heriau hwyliog i fynd â nhw ar antur ddarllen i’w chofio. Mae fersiynau gwahanol ar gael i blant, bobl ifanc ac i oedolion, gyda digon o ddewis o heriau i chi rannu gyda theulu neu ffrindiau. Mae taflenni Her Ddarllen Tir na n-Og ar gael i’w casglu o’ch siop lyfrau neu lyfrgell leol neu i’w lawrlwytho o wefan Cyngor Llyfrau Cymru: Gwobrau Tir na n-Og | Cyngor Llyfrau Cymru. Mae’r Cyngor Llyfrau yn ddiolchgar iawn i Wasg Gomer am ei chefnogaeth hael yn argraffu’r taflenni heriau darllen.
Mae’r Cyngor Llyfrau yn ddiolchgar iawn i’n Llysgenhadon a chefnogwyr hael Gwobrau Tir na n-Og 2026:
Llysgenhadon: Richard Parks, Elain Llwyd a Ffion Llwyd.
Noddwyr:
- CILIP Cymru, ein noddwr hir sefydlog y gwobrau
- BCCIT
- Folly Farm
- Gwasg Gomer
- Halen Môn
- Welshpool Printing Group
Cewch fwy o wybodaeth am y gwobrau a’r llyfrau ar y rhestrau byrion ar wefan y Cyngor Llyfrau, llyfrau.cymru
Yn cefnogi’r Flwyddyn Genedlaethol o Ddarllen: Ymgolli / Go All In (Agor mewn ffenest newydd)Flwyddyn Genedlaethol o Ddarllen: Ymgolli / Go All In, mae Gwobrau a Her Ddarllen Tir na n-Og yn rhan o raglen ehangach o weithgareddau dathlu darllen ledled y DU. Prif nod ymgyrch ‘Ymgolli’ yw ysbrydoli pobl i fagu cariad at ddarllen gydol oes trwy ymgolli mewn llyfr a mwynhau darllen.
