Gwobrau Tir na n-Og 2026 – Rhestr Fer Saesneg

Maw 18, 2026

Heno, 18 Mawrth, datgelodd Cyngor Llyfrau Cymru yr ail restr fer yng Ngwobrau Tir na n-Og 2026, sef categori llyfr iaith Saesneg gyda dimensiwn Cymraeg dilys. Cyhoeddwyd y rhestr fer gan Lysgennad Gwobrau Tir na n-Og, Richard Parks, gyda chymorth darllenwyr ifanc o Ysgol Gynradd Dinas Llandaf.

Mae’r gwobrau yn dathlu’r gorau o straeon o Gymru a straeon am Gymru a gyhoeddwyd yn 2025.

Gwobrau Tir na n-Og yw’r gwobrau hynaf ar gyfer llenyddiaeth plant a phobl ifanc yng Nghymru, ac maent yn dathlu eu hanner canmlwyddiant yn 2026. Caiff y gwobrau eu trefnu’n flynyddol gan Gyngor Llyfrau Cymru a’u cefnogi gan CILIP Cymru Wales. Maent yn dathlu dawn a chreadigrwydd awduron a darlunwyr sydd naill ai’n creu gweithiau gwreiddiol yn Gymraeg, neu’n ysgrifennu am themâu neu gefndiroedd Cymreig dilys drwy gyfrwng y Saesneg.

Mae tri chategori i’r gwobrau: Llyfrau Cymraeg Cynradd (4–11 oed), Llyfrau Cymraeg Uwchradd (11–18 oed) a’r Llyfr Saesneg gyda chefndir Cymreig dilys ar gyfer cynradd neu uwchradd (4–18 oed).

Dyma’r cyfrolau sydd wedi cyrredd y rhestr fer yn y categori Saesneg eleni:

  • Major and Mynah: Project Puffin gan Karen Owen, darluniwyd gan Louise Forshaw (Firefly)

Mae SPUD – sef y ‘Super Perceptive Undercover Detectives’ – ar eu gwyliau, ond maen nhw’n cael eu hunain mewn ras i ddatrys dirgelwch newydd! Pan maen nhw’n darganfod palod wedi’u gorchuddio mewn olew gwastraff sydd wedi’i ollwng i’r môr, rhaid iddyn nhw ganfod pwy sydd ar fai. A allan nhw ddatrys y dirgelwch cyn i ragor o ddifrod gael ei achosi i fywyd môr gwerthfawr ac i arfordir Cymru?

  • The Wicked Lies of Habren Faire gan Anna Fiteni (Electric Monkey)

I Sabrina Parry, mae’r byd yn galed, yn greulon ac yn ymarferol. Gyda’i thad yn y carchar, ei amcanion mewn bywyd yw: 1. dal ati i gadw ei swydd, 2. brathu ei thafod, a 3. trefnu bod ei chwaer, Ceridwen, yn dod o hyd i ŵr sy’n ddigon cyfoethog i ofalu amdani. Ond yna mae Ceridwen yn diflannu i’r goedwig dywyll gan adael dim ond modrwy haearn ar ei hôl, ac mae Sabrina yn cael ei thynnu mewn i henfyd o dylwyth teg a bwystfilod. Mae’r byd hwnnw’n hardd ond mae hefyd ar ddarfod …

  • 10 Fascinating Stories from Welsh History (that you’ll want to talk about) gan Siân Lewis a Charlotte Williams, darluniwyd gan Kyle Legall (Rily)

Mae 10 Fascinating Stories yn mynd â darllenwyr ifanc ar daith gyffrous drwy hanes Cymru, gan ddatgelu’r rhyfeddol a’r annisgwyl. Gyda phob stori, darganfyddwch linell amser, map a darluniau lliwgar sy’n dod â’r gorffennol yn fyw. Dewch i gwrdd ag arwyr Cymru a phobl gyffredin y bu eu gweithredoedd yn helpu i lunio ein Cymru ni heddiw, a’r byd ehangach hefyd.

Bob blwyddyn, mae paneli annibynnol yn creu rhestrau byrion ac yn dewis yr enillwyr ar gyfer y gwobrau Cymraeg a Saesneg. Y beirniaid ar y panel Saesneg eleni oedd Karen Gemma Brewer (Cadeirydd), Kate Wynne, Ben James a Molly Tidy.

Dywedodd Helgard Krause, Prif Weithredwr Cyngor Llyfrau Cymru: “Mae’n bleser pur cyhoeddi rhestrau byrion o ansawdd mor uchel yn y flwyddyn arbennig hon. Ar ôl hanner canrif mae Gwobrau TNNO yn parhau i ddathlu’r gorau o lyfrau i blant a phobl ifanc, ac mae’r llyfrau sydd wedi cyrraedd y brig unwaith eto eleni yn haeddu eu lle. Llongyfarchiadau mawr i’r holl awduron, darlunwyr a’r cyhoeddwyr – rydw i’n edrych ymlaen yn arw at weld pwy fydd yn cipio’r gwobrau yn yr haf!”

Datgelwyd y rhestr fer gan Richard Parks a phlant o ysgol gynradd Dinas Llandaf ar gyfrif Instagram Gwobrau Tir Na n-Og @gwobrautirnanogawards (agor mewn ffenest newydd)

Datgelwyd rhestr fer y categori Cymraeg Cynradd nos Fawrth 17 Mawrth ar Heno S4C. Bydd cyhoeddiad rhestr fer y categori Cymraeg Uwchradd nos Iau 19 Mawrth ar Heno S4C.

Cyhoeddir enillydd gwobr y categori Saesneg yn ystod cynhadledd CILIP Cymru ar 9 Mai, ac enillwyr gwobrau’r categorïau Cymraeg Cynradd ac Uwchradd ar 28 Mai yn Eisteddfod yr Urdd Ynys Môn.

Eleni, bydd cyfle unwaith eto i blant a phobl ifanc ddewis enillwyr categori arbennig, sef Gwobr Dewis y Darllenwyr: tlws arbennig i lyfrau a ddewisir gan blant a phobl ifanc sy’n cymryd rhan yng nghynllun cysgodi Tir na n-Og. Gall ysgolion, llyfrgelloedd a grwpiau darllen eraill gofrestru i gymryd rhan yn y cynllun a bod yn feirniaid answyddogol i ddewis enillwyr o blith y rhestr fer, gan ddefnyddio’r pecyn cysgodi arbennig. Cewch fanylion ar sut i gofrestru ar wefan y Cyngor Llyfrau, Gwobrau Tir na n-Og | Cyngor Llyfrau Cymru

Bydd llyfrgelloedd a siopau llyfrau yn cynnal Helfeydd Trysor Tir na n-Og yn ystod gwyliau’r Pasg gyda chyfle i blant rhwng 4 ac 11 oed gymryd rhan. Gofynnwch i’ch llyfrgell neu eich siop lyfrau leol am fanylion.

Mae cyfle hefyd i ddarllenwyr o bob oedran ymuno â Her Ddarllen Tir na n-Og eleni, a mwynhau cyfres o heriau hwyliog i fynd â nhw ar antur ddarllen i’w chofio. Mae fersiynau gwahanol ar gael i blant, pobl ifanc ac i oedolion, gyda digon o ddewis o heriau i chi rannu gyda theulu neu ffrindiau. Mae taflenni’r Her Ddarllen ar gael i’w casglu o’ch siop lyfrau neu lyfrgell leol, neu i’w lawrlwytho o wefan Cyngor Llyfrau Cymru: Gwobrau Tir na n-Og | Cyngor Llyfrau Cymru. Mae’r Cyngor Llyfrau yn ddiolchgar iawn i Wasg Gomer am ei chefnogaeth hael yn argraffu’r taflenni heriau darllen.

Mae’r Cyngor Llyfrau yn ddiolchgar iawn i’n Llysgenhadon a chefnogwyr hael Gwobrau Tir na n-Og 2026:

Llysgenhadon: Richard Parks, Elain Llwyd a Ffion Llwyd.

Noddwyr:

  • CILIP Cymru, ein noddwr hir sefydlog ar gyfer y gwobrau

  • BCCIT
  • Folly Farm
  • Gwasg Gomer
  • Halen Môn
  • Welshpool Printing Group

Cewch fwy o wybodaeth am y gwobrau a’r llyfrau ar y rhestrau byrion ar wefan y Cyngor Llyfrau, llyfrau.cymru

 Yn cefnogi’r Flwyddyn Genedlaethol o Ddarllen: Ymgolli / Go All In (Agor mewn ffenest newydd)Flwyddyn Genedlaethol o Ddarllen: Ymgolli / Go All In, mae Gwobrau a Her Ddarllen Tir na n-Og yn rhan o raglen ehangach o weithgareddau dathlu darllen ledled y DU. Prif nod ymgyrch ‘Ymgolli’ yw ysbrydoli pobl i fagu cariad at ddarllen gydol oes trwy ymgolli mewn llyfr a mwynhau darllen.