Mae’r grantiau hyn yn cefnogi ystod eang o lyfrau a chylchgronau Cymraeg eu hiaith, i oedolion a phlant, gan gynnwys deunydd hamdden a theitlau llenyddol. Nid ydym yn ariannu gwerslyfrau na deunyddiau addysgol cyffelyb. Mae grantiau ar gael hefyd i gyhoeddwyr tuag at gomisiynu awduron, darlunwyr, ffotograffwyr a dylunwyr, cyflogi golygyddion creadigol, a thuag at rai cynlluniau marchnata.
Y grantiau sydd ar gael ar gyfer deunydd Cymraeg
Dyma fanylion y grantiau sydd ar gael ar gyfer cyhoeddi deunydd yn y Gymraeg.
Grantiau Llyfrau Unigol
Mae’r rhain yn grantiau i gefnogi cyhoeddwyr i gynhyrchu llyfrau a allai fod o natur mwy arbenigol ac yn gyfyngedig yn eu hapêl, gan gynnwys llyfrau ffeithiol a ffuglen, a gweithiau llenyddol, i oedolion a phlant. Gall cyhoeddwyr llai ddefnyddio’r grant hwn yn ogystal, i gyhoeddi llyfrau mwy prif ffrwd.
Grantiau Rhaglen
Cyllideb floc i’r prif gyhoeddwyr, yr ymgeisir amdani bob pum mlynedd, i gynorthwyo gyda chynhyrchu rhaglen amrywiol a phoblogaidd o o leiaf 8 llyfr (un ai i blant neu i oedolion). Rhaid i gyhoeddwr fod â gweinyddiaeth gadarn a phrofiad helaeth, ac wedi bod yn derbyn y Grantiau Llyfrau Unigol cyn y gallai ymgeisio i fod yn Gyhoeddwr Grant Rhaglen. Bydd y rownd gyllido nesaf ar gyfer y cyfnod 2028–2033, a bydd y broses o ymgeisio yn digwydd yn ystod 2026–27.
Grantiau i Awduron
Cyhoeddwyr sy’n ymgeisio am y grantiau hyn i’w galluogi i gynnig comisiynau a thaliadau cystadleuol i awduron am weithiau ag iddynt apêl eang, i oedolion a phobl ifanc. Mae dau fath o grant ar gael – Grant Awdur A a Grant Awdur B. Nid yw’r grantiau hyn yn cael eu dyfarnu’n uniongyrchol i awduron.
Canllawiau Grant Awdur A (PDF)
Canllawiau Grant Awdur B (PDF)
Grantiau ar gyfer Darlunio, Ffotograffiaeth a Dylunio
Cyhoeddwyr sy’n ymgeisio am y Grant Gweledol i’w galluogi i gynnig comisiynau a thaliadau cystadleuol i ddarlunwyr, dylunwyr a ffotograffwyr i greu gwaith gwreiddiol ar gyfer llyfrau darluniadol i oedolion ac i blant. Mae dau gynllun ar gael o dan y Grant Gweledol: Cynllun A a Chynllun B. Nid yw’r grantiau hyn yn cael eu dyfarnu’n uniongyrchol i ddarlunwyr, ffotograffwyr na dylunwyr.
Grantiau Cefnogi Swyddi
Gall cyhoeddwyr cydnabyddedig ymgeisio am y grant hwn tuag at y gost o gyflogi golygyddion creadigol. Mae’r broses dendro ar gyfer y grantiau hyn yn dilyn yr un amserlen ac yn rhedeg ochr yn ochr â Grantiau Rhaglen (uchod).
Grantiau Marchnata
Grantiau i gyhoeddwyr i noddi gweithgareddau marchnata a chynyddu gwerthiant llyfrau a dderbyniodd grant cyhoeddi. Mae dau grant ar gael: un ar gyfer Cyhoeddwyr Rhaglen ac un ar gyfer Cyhoeddwyr Unigol.
Canllawiau Grant Marchnata Cyhoeddwyr Rhaglen (PDF)
Canllawiau Grant Marchnata Cyhoeddwyr Unigol (PDF)
Cylchgronau
Dyfernir y grantiau hyn trwy broses dendro bob pedair blynedd. Amcan y cynllun yw sicrhau cyhoeddi amrywiaeth o gylchgronau Cymraeg bywiog ar gyfer plant, pobl ifanc ac oedolion, sy’n cynnwys ysgrifennu da, a lle bo hynny’n briodol, newyddiaduraeth safonol, adolygiadau a thrafodaethau ar nifer o bynciau amrywiol. Mae’r broses dendro ar gyfer y rownd cyllido nesaf (darpariaeth yn y cyfnod 2027–31) nawr ar agor.
Gwasanaeth Newyddion
Dyfernir y grant hwn bob pedair blynedd i gynnal gwasanaeth newyddion digidol drwy gyfrwng y Gymraeg. Dyfarnwyd y grant ar gyfer darpariaeth yn y cyfnod 2026-30 yn 2025.
Sut ydw i’n gwneud cais ar gyfer grant cyhoeddi deunydd Cymraeg?
I wneud cais am grant, mae angen i gyhoeddwyr gyflwyno cais i’r Is-bwyllgor Datblygu Cyhoeddi (Cymraeg) annibynnol sy’n cyfarfod chwe gwaith y flwyddyn i ystyried y ceisiadau a dderbyniwyd ac i ddyfarnu cyllid. Cyhoeddir dyddiadau cyfarfodydd a dyddiadau cau’r Is-bwyllgor ymlaen llaw.
Cyfarfodydd a dyddiadau cau yr Is-bwyllgorau Datblygu Cyhoeddi
Dysgwch fwy am ein his-bwyllgorau a sut mae nhw’n gweithio
Mae ffurflenni cais ar gael gan y Swyddog Datblygu Cyhoeddi Cymraeg grantiau.cymraeg@llyfrau.cymru (Agor ebost). Gwnewch yn siŵr eich bod wedi darllen ac wedi deall canllawiau ac amodau’r grant cyn cyflwyno eich cais. Os ydych yn ansicr ynglŷn ag unrhyw beth, cysylltwch gyda grantiau.cymraeg@llyfrau.cymru (Agor ebost).
Mae croeso i unrhyw un sydd am gael cyngor ynglŷn â’r drefn o ymgeisio am grantiau gysylltu â’r Adran Datblygu Cyhoeddi yn uniongyrchol, yn enwedig os ydych yn gyhoeddwr newydd sy’n ystyried mentro i’r maes.
Gallwch gysylltu â ni ar grantiau.cymraeg@llyfrau.cymru (Agor ebost) i drafod cyhoeddiadau Cymraeg neu english.grants@books.wales (Agor ebost) i drafod cyhoeddiadau Saesneg.
Noder nad ydym yn derbyn ceisiadau grant yn uniongyrchol gan unigolion. Os ydych yn awdur, yn ddarlunydd neu’n ddylunydd sy’n chwilio am gefnogaeth, mae angen i chi sicrhau cefnogaeth gan gyhoeddwr a fydd, yn eu tro, yn cyflwyno cais i’r Cyngor Llyfrau.
Pa gefnogaeth arall sydd ar gael i gyhoeddwyr?
Yma gallwch ddod o hyd i gefnogaeth arall sydd ar gael:
O bryd i’w gilydd rydym yn derbyn cyllid ychwanegol ar gyfer prosiectau unigol. Cewch fanylion cyfleoedd cyllid a thendrau newydd sy’n gysylltiedig â phrosiectau arbennig ar y dudalen Cyfleoedd Cyllid a Thendrau Newydd.