Bydd y rhestr fer ar gyfer Gwobrau Tir na n-Og yn cael ei chyhoeddi ym mis Mawrth 2021 ond dyma’r 10 llyfr Cymraeg a Saesneg oedd yn haeddu lle ar y rhestr yn 2020.
Dyma’r llyfrau oedd ar y rhestr fer ar gyfer Gwobrau Tir na n-Og 2020 ac roedd y beirniaid yn llawn canmoliaeth.
Rhestr Fer Gymraeg (Cynradd)
• Y Ddinas Uchel – Huw Aaron (Atebol 2019). Mae Petra’n byw mewn dinas o dyrau a phawb yn treulio pob dydd yn eu codi’n uwch ac yn uwch. Llyfr stori-a-llun am fateroliaeth cymdeithas gyda neges gadarnhaol wedi ei chyfleu mewn ffordd dyner, lawn hiwmor.
• Genod Gwych a Merched Medrus – Medi Jones-Jackson (Y Lolfa 2019). Llyfr lliwgar am 14 o fenywod ysbrydoledig o bob rhan o Gymru gan gynnwys Tori James, Laura Ashley, Eileen Beasley, Amy Dillwyn a Haley Gomez. Llyfr llawn hwyl, ffeithiau, posau a gweithgareddau.
• Pobol Drws Nesaf – Manon Steffan Ros a Jac Jones (Y Lolfa 2019). Llyfr stori-a-llun sy’n ein hannog i beidio â beirniadu rhywun sy’n ymddwyn ac yn edrych yn wahanol i ni, ac yn dangos bod rhaid parchu pawb.
Rhestr Fer Gymraeg (Uwchradd)
• Byw yn fy Nghroen – Gol. Sioned Erin Hughes (Y Lolfa 2019). Profiadau dirdynnol deuddeg o bobl ifanc sydd wedi gorfod brwydro gyda salwch a chyflyrau hirdymor, gan gynnwys afiechydon meddyliol a chorfforol fel cancr, nam ar y golwg, OCD, iselder a gorbryder.
• Tom – Cynan Llwyd (Y Lolfa 2019). Nofel i oedolion ifanc am Tom, bachgen 15 oed sy’n byw mewn fflat gyda’i fam ac yn gyfeillgar gyda chymydog 81 oed. Nofel ddirdynnol sy’n ymdrin â bwlio, gwrthdaro, mewnfudwyr, trais a salwch.
• Madi – Dewi Wyn Williams (Atebol 2019). Stori gref am ferch yn ei harddegau sy’n byw gydag anorecsia a bwlimia ac sy’n ceisio cuddio’r cyflwr.
Rhestr Fer Saesneg
• The Secret Dragon – Ed Clarke (Puffin 2019). Antur hudolus yn cyfuno gwyddoniaeth, dreigiau a chyfeillgarwch wedi’i lleoli ar arfordir Cymru.
• Max Kowalski Didn’t Mean It – Susie Day (Puffin 2019). Stori gyfoes am deuluoedd, am fod yn fachgen ac am ymdopi â cholled; llyfr llawn cydymdeimlad wedi’i osod yn Eryri.
• Storm Hound – Claire Fayers (Macmillan Children’s Books 2019). Antur ffantasi wedi’i gosod ym mynyddoedd Cymru, yn cyfuno chwedloniaeth Nordig a Chymreig.
Mae’r llyfrau i gyd ar gael drwy eich siop lyfrau neu eich llyfrgell leol.