Welsh-language £1 Books

Cloriau'r pedwar llyfr £1 Cymraeg sydd ar gael ar gyfer Diwrnod y Llyfr 2021

Diolch i National Book Tokens ac i lu o gyhoeddwyr a llyfrwerthwyr hyfryd, mae Diwrnod y Llyfr, mewn partneriaeth ag ysgolion a meithrinfeydd ledled y wlad, yn dosbarthu tocyn llyfr Diwrnod y Llyfr £1 i blant a phobl ifanc. Gellir cyfnewid y tocyn naill ai am un o lyfrau £1 Diwrnod y Llyfr neu ei ddefnyddio tuag at brynu llyfr arall.

Mae llyfrau £1 Diwrnod y Llyfr yn rhodd gan lyfrwerthwyr, sy’n ariannu cost y tocyn llyfrau £1 yn llawn.

Mae’r llyfrau £1 hefyd ar gael mewn braille, print bras a sain trwy yr RNIB. Bydd tocynnau llyfr £1 Diwrnod Llyfr yn ddilys o ddydd Iau 18 Chwefror tan ddydd Sul 28 Mawrth 2021 ac eleni bydd y llyfrwerthwyr sy’n cymryd rhan yn anrhydeddu’r tocynnau y tu hwnt i 28 Mawrth tra bydd y stoc o lyfrau £1 yn parhau.

Cysylltwch â’ch llyfrwerthwr lleol i wirio a ydyn nhw’n gallu cynnig £1 oddi ar deitlau eraill. Mae’r telerau ac amodau llawn ar wefan elusen Diwrnod y Llyfr.

Ha Ha Cnec! Jôcs Twp a Lluniau Twpach (Broga) gan yr awdur, darlunydd a chartwnydd Huw Aaron yw’r llyfr £1 Cymraeg newydd ar gyfer 2021 ac mae ar gael nawr drwy siopau llyfrau Cymru.

Mae tri llyfr Cymraeg arall ar gael am £1 eleni sef Stori Cymru Iaith a Gwaith (Gwasg Carreg Gwalch) gan Myrddin ap Dafydd, Na, Nel! (Y Lolfa) Gan Meleri Wyn James a Darllen gyda Cyw (Y Lolfa) gan Anni Llŷn.

Er bod drysau siopau llyfrau ynghau am y tro, maen nhw dal ar agor am fusnes ar-lein a thros y ffon gan gynnig gwasanaeth clicio-a-chasglu neu ddanfon drwy’r post. Mae manylion holl siopau llyfrau annibynnol Cymru i’w cael ar wefan y Cyngor Llyfrau.