Season’s Greetings
The Books Council will be closed from Thursday, 23 December 2021 until after the holidays and will return on Tuesday, 4 January 2022.
The Books Council will be closed from Thursday, 23 December 2021 until after the holidays and will return on Tuesday, 4 January 2022.
Mae Cyngor Llyfrau Cymru ar y cyd â Llenyddiaeth Cymru yn gwahodd ceisiadau gan awduron sydd â phrofiadau bywyd sy’n cael eu tangynrychioli, yn benodol o fewn y byd llenyddiaeth a chyhoeddi yn y Gymraeg, i ymgeisio am le ar gwrs preswyl yng Nghanolfan Ysgrifennu Tŷ Newydd.
Hwylusydd: Elgan Rhys
Siaradwyr gwadd/tiwtoriaid
ar gyfer gweithdai unigol: Cyd-awduron Y Pump, Nia Morais, Megan Hunter, Ciaran Fitzgerald, a mwy.
Dyddiadau:
Y cwrs: Dydd Llun 25 Ebrill – dydd Gwener 29 Ebrill 2022
Agor i geisiadau: Dydd Llun, 13 Rhagfyr 2022
Dyddiad cau ar gyfer ceisiadau: Dydd Gwener 11 Chwefror 2022
Dan arweiniad yr awdur, artist theatr a hwylusydd celfyddydol Elgan Rhys a llu o awduron gwadd, bydd y cwrs yn cynnig gweithdai, sgyrsiau a thrafodaethau i ddatblygu eich crefft ysgrifennu creadigol i blant hŷn 8-12 oed a phobl ifanc 12+ oed. Rydym yn croesawu ceisiadau gan awduron newydd sbon, ag awduron â pheth profiad eisoes. Bydd 12 lle ar gael.
Mae Elgan Rhys yn awdur, artist theatr a hwylusydd celfyddydol sy’n dod o Bwllheli ac yn byw yng Nghaerdydd ers degawd. Elgan yw Rheolwr a Golygydd Creadigol cyfres Y Pump (Y Lolfa, 2021) ac awdur Tim (gyda Tomos Jones), nofel gyntaf y gyfres. Mae ei waith ar gyfer y theatr yn cynnwys Llyfr Glas Nebo (cyfarwyddwr, 2020), Woof (awdur, 2019), Chwarae (awdur a pherfformiwr, 2019-20) a Mags (awdur, 2018-9), ac mae wedi bod yn artist cyswllt gyda’r Frân Wen a Theatr Iolo. Mae hefyd yn un o Fodelau Rôl Stonewall Cymru, ac mae’n gweithio ar brosiectau newydd ar gyfer theatr, ffilm a theledu ar hyn o bryd.
Beth yw bwriad y cwrs?
Mae llyfrau yn llesol, yn enwedig i blant a phobl ifanc wrth iddynt geisio deall a dysgu am y byd o’u cwmpas. Gall llyfrau da fod yn gwbl hudolus gan gludo’r darllenydd i fydoedd gwahanol drwy rym geiriau a dychymyg yn unig. Daw cymeriadau ffuglennol yn ffrindiau da i’r darllenwyr am sbel, gan gynnig cysur, ysbrydoliaeth ac arweiniad mewn bywyd. Yn ôl adroddiad diweddar gan y National Literacy Trust, nododd 3 o bob 5 plentyn fod darllen yn gwneud iddynt deimlo yn hapusach, gyda hanner y plant yn nodi fod darllen yn eu galluogi i freuddwydio am y dyfodol. Ond beth all ddigwydd os nad yw plentyn yn adnabod eu hunain a’u teuluoedd yn y llyfrau sydd ar gael?
Bydd y cwrs hwn yn gam ymarferol er mwyn sicrhau fod llyfrau Cymraeg i blant a phobl ifanc yn berthnasol i pob plentyn yng Nghymru. Drwy gynnig hyfforddiant i awduron â phrofiadau byw perthnasol, y gobaith yw cyhoeddi mwy o lyfrau fydd yn cynnwys straeon ysbrydoledig am gymeriadau o amryw o gefndiroedd ethnig, cymeriadau sydd yn byw ag anableddau, a phortreadau o deuluoedd sydd yn cynnwys aelodau LHDTC+. Bydd llyfrau amrywiol hefyd yn sicrhau fod plant Cymru gyfan yn cael eu cyflwyno i’r amrywiaeth bendigedig o gymunedau a chefndiroedd teuluoedd sydd yn bodoli, gan anelu i greu cenedlaethau mwy caredig ac eangfrydig i’r dyfodol.
Bydd y cwrs yma yn dwyn ynghyd unigolion o liw (o gefndiroedd Du, Asiaidd neu leiafrif ethnig arall); unigolion sydd yn byw ag anableddau neu salwch (meddyliol neu gorfforol); unigolion sy’n uniaethu fel LHDTC+; neu unigolion fydd yn gallu esbonio yn eu geiriau eu hunain sut all eu profiadau bywyd unigryw gyfrannu tuag at ein hamcan o greu diwylliant llenyddol mwy cynhwysol ac amrywiol er budd ein darllenwyr ifanc. Nid oes angen profiad blaenorol o ysgrifennu cyn ymgeisio am le ar y cwrs hwn, na Chymraeg perffaith! – dim ond yr awydd i greu straeon ardderchog a’r potensial i greu gwaith o safon fydd yn cyfareddu plant a phobl ifanc.
Beth fydd yn digwydd ar y cwrs?
Gan gychwyn ar y prynhawn dydd Llun, bydd y criw o awduron a’r tiwtor yn cychwyn y cwrs drwy drafod eu hoff lyfrau amrywiol i blant hŷn a phobl ifanc. Gan archwilio’r elfennau gorau o’r llyfrau dan sylw, byddwn yn gosod seiliau ar gyfer datblygu gwaith gwych ein hunain yn ystod yr wythnos.
Drwy weithdai grŵp, sgyrsiau un-i-un, darlleniadau a sgyrsiau gan awduron gwadd ac unigolion o’r diwydiannau creadigol, bydd y cwrs yn rhoi arweiniad ar sut i adeiladu ar eich crefft ysgrifennu creadigol er mwyn creu straeon i blant hŷn (8-12) a phobl ifanc (12+).
Ar ôl y cwrs, bydd Llenyddiaeth Cymru a Chyngor Llyfrau Cymru yn annog y rhwydwaith newydd o awduron i gadw mewn cysylltiad drwy gyfarfodydd digidol i drafod syniadau, heriau ac i rannu gwaith ar y gweill. Bydd cyfleoedd pellach i ddatblygu yn cael eu rhannu yn gyson er mwyn sicrhau fod yr awduron yn parhau i ysgrifennu yn yr hir dymor, a hyd yn oed mynd ymlaen i gyhoeddi eu gwaith.
Cewch ragor o wybodaeth a ffurflen ymgeisio ar wefan Llenyddiaeth Cymru
Dyddiad cau ar gyfer ymgeisio: 5.00pm, dydd Gwener, 11 Chwerfror 2022