Gwales

Logo gwefan llyfrau arlein gwales.com

O nofelau ditectif i fywgraffiadau a llyfrau llun a stori, mae gwasanaeth gwales.com yn cynnig ystod eang o ddewis i ddarllenwyr o Gymru a thu hwnt.

Mae dros 11,000 o deitlau gwahanol ar gael i’w harchebu arlein – yn llyfrau Cymraeg neu’n llyfrau Saesneg o ddiddordeb Cymreig, yn ogystal â bron i 2,000 o e-lyfrau.

Cofiwch hefyd fod modd prynu pob un o’r teitlau sydd ar wefan gwales.com drwy eich siop lyfrau lleol ar y stryd fawr.

Os ydych chi’n dewis prynu’n uniongyrchol drwy gwales.com, mae dal yn bosib i chi gefnogi siopau llyfrau annibynnol Cymru. Wrth gyrraedd y man talu, gallwch enwebu siop lyfrau leol o’ch dewis chi i dderbyn comisiwn ar y gwerthiant.

I helpu chi i ddewis y llyfr iawn i chi, mae dros 6,000 o adolygiadau ar wefan gwales.com ynghyd â rhestrau darllen wedi’u curadu gan staff y Cyngor Llyfrau. Mae’r rhestrau yma’n cynnwys cyfrolau i blant o oedrannau gwahanol, adnoddau addysg, cyfresi i ddysgwyr, iechyd meddwl, chwaraeon, llyfrau’r mis a mwy.