Ysgolion

Mae’r Cyngor Llyfrau yn gallu helpu athrawon a llyfrgellwyr i gadw eu bys ar y botwm a chael yr wybodaeth ddiweddaraf am lyfrau ac adnoddau Cymraeg a Chymreig y Cwricwlwm Cenedlaethol.

Pa wasanaeth a gynigir?

Swyddogion Maes

Mae’n swyddog maes fel rheol yn teithio trwy Gymru gyfan yn ymweld ag ysgolion cynradd ac uwchradd er mwyn rhoi arddangosfa o lyfrau a deunyddiau addysgol ac i gasglu archebion. Mae’r arddangosfeydd hyn yn rhoi cyfle gwych i athrawon bori yn y llyfrau yn ogystal â chael cyngor a chymorth gan swyddogion profiadol.

Gellir hefyd chwilio am wybodaeth am yr holl lyfrau sydd ar gael ar gronfa ddata’r Cyngor Llyfrau ar y we trwy edrych ar ein safle www.gwales.com ar liniadur y swyddog. Cesglir archebion ar-lein gan y swyddog ac fe’u prosesir trwy siop leol o ddewis yr ysgol, gan helpu i gefnogi’r diwydiant a’r gymdeithas leol.

Yn ogystal ag Ysgolion mae swyddogion hefyd yn ymweld â llyfrgelloedd a llyfrwerthwyr trwy Gymru gyfan. I drefnu ymweliad, cysylltwch â 01970 624455 neu e-bostiwch gwerthu@llyfrau.cymru

I drefnu ymweliad â’ch ysgol, cysylltwch â’r Swyddog Ysgolion:07909 233010 e-bost: shoned.davies@llyfrau.cymru

Mae’r Adran Llyfrau Plant a Hyrwyddo Darllen hefyd yn gweithio gydag ysgolion ac yn gallu rhoi cyngor ar lyfrau addas, teithiau awdur a digwyddiadau arbennig fel Diwrnod y Llyfr. Am wybodaeth bellach ac ysbrydoliaeth, ewch i’n tudalennau #CaruDarllen.