Nid oes cymorth ariannol uniongyrchol ar gael drwy’r Cyngor Llyfrau ar gyfer hunangyhoeddi ond mae ffynnonellau eraill o gefnogaeth ar gyfer datblygu awduron.
Dylai unrhyw awdur sy’n dymuno cyhoeddi eu gwaith eu hunain wneud hynny drwy gysylltu gyda chyhoeddwr.
Llenyddiaeth Cymru yw’r corff sy’n gyfrifol am ddatblygiad proffesiynol awduron yng Nghymru ac maen nhw’n cynnig ystod o gefnogaeth, yn cynnwys ysgoloriaeth, cyrsiau hyfforddiant a chynlluniau mentora.
Ffynhonnell defnyddiol arall am wybodaeth am y grantiau a’r gwobrau gwahanol sydd ar gael i awduron yw’r gymdeithas awduron.
Mae gwybodaeth i’w chael isod am sut gall y Cyngor Llyfrau gynorthwyo hunangyhoeddwyr o safbwynt dosbarthu.

Telerau Dosbarthu’r Cyngor Llyfrau
Os ydych wedi hunangyhoeddi llyfr ac yn chwilio am gymorth i ddosbarthu, dyma delerau Cyngor Llyfrau Cymru (CLlC):
- CLlC i gadw 55% o bris gwerthu pob copi ar delerau llawn gwerthu neu ddychwel.
- Rhaid sicrhau bod ISBN, barcode a’r pris wedi’u hargraffu ar y llyfr.
- Copi sampl (a chyfeiriad e-bost) i’w anfon i’r Adran Gorfforaethol, Cyngor Llyfrau Cymru, Parc Menter Glanyrafon, Aberystwyth, Ceredigion SY23 3AQ.
- Caiff y copi sampl ei ystyried a’i drafod (i weld a yw’n cyrraedd gofynion ansawdd ai peidio), a bydd penderfyniad yn cael ei wneud naill ai i stocio’r llyfr neu ei restru ar ein gwefan yn unig.
- Pe byddem yn penderfynu stocio eich llyfr, byddwn yn anfon atoch, ac yn rhoi gwybod faint o stoc dechreuol y bydd angen i chi ei anfon atom i Aberystwyth.
Os byddwn yn penderfynu peidio stocio eich llyfr, neu os nad ydych yn derbyn y telerau, byddem yn dal i allu rhestru’r teitl am ddim ar ein gwefan www.gwales.com. Byddai angen i ni gadw eich manylion er mwyn i gwsmeriaid allu ei brynu gennych chi yn uniongyrchol.
Noder mai gweithredu fel dosbarthwyr yn unig y mae’r Cyngor Llyfrau Cymru yma ac mai cyfrifoldeb yr awdur / cyhoeddwr yw hyrwyddo a marchnata’r llyfr.