Cwestiynau Cyffredinol i’r Gymuned

Ble allwn i gael cyngor am y deunydd sydd ar gael ar gyfer fy mhlentyn/ysgol?

Cysylltwch â’r Adran Llyfrau Plant a Hyrwyddo Darllen trwy glicio ar ‘Cysylltu‘ uchod. Mae gan yr Adran nifer o swyddogion sy’n hyddysg yn y maes.

Rwy'n athro/athrawes ac eisiau gweld llyfrau ac adnoddau addysgol newydd.

Mae gan y Cyngor Llyfrau dim o swyddogion ysgol a all ymweld â’ch ysgol i ddangos y deunyddiau i chi a’ch cynghori ar eich dewis. Cysylltwch â’r Adran Llyfrau Plant a Hyrwyddo Darllen trwy glicio ar ‘Cysylltu‘ uchod.

Beth yw dyddiad Diwrnod y Llyfr y flwyddyn nesaf?

Cynhelir Diwrnod y Llyfr ar y dydd Iau cyntaf ym mis Mawrth bob blwyddyn.

Ar ba ddyddiad y cynhelir Diwrnod T Llew Jones?

Os nad yw’n disgyn ar benwythnos, 11 Hydref yw dyddiad Diwrnod T. Llew, sef dyddiad ei ben-blwydd.

Sut mae cymryd rhan yng Nghystadleuaeth Darllen Dros Gymru?

Mae manylion am Darllen Dros Gymru a sut i gymryd rhan i’w cael ar ein gwefan neu cysylltwch gyda’n Hadran Llyfrau Plant a Hyrwyddo Darllen drwy e-bostio cllc.plant@llyfrau.cymru.