Partneriaid

Cwrs ysgrifennu a darlunio i blant a drefnwyd ar y cyd gan y Cyngor Llyfrau a Llenyddiaeth Cymru ym mis Chwefror 2019.

Cefnogi’r diwydiant cyhoeddi a hyrwyddo darllen ar draws Cymru yw nod y Cyngor Llyfrau ac er mwyn cyflawni hynny, rydyn ni’n aml yn gweithio mewn partneriaeth gyda sefydliadau a chyrff eraill sy’n rhannu’n gweledigaeth. Dyma rai o’n prif bartneriaethau ond rydyn ni bob amser yn chwilio am ffyrdd newydd o gydweithio er mwyn cael y maen i’r wal. 

Llenyddiaeth

Mae’r Cyngor Llyfrau yn cydweithio yn agos gyda Llenyddiaeth Cymru ar amrywiaeth o  brosiectau gwahanol yn hyrwyddo llenyddiaeth, gan gynnwys:

  • Bardd Plant Cymru
  • Trefnu hyfforddiant i awduron a darlunwyr yn Nhŷ Newydd
  • Llyfr y Flwyddyn
  • Ffair Lyfrau Llundain
  • Ffair Lyfrau Frankfurt

Rydyn ni a Llenyddiaeth Cymru hefyd yn mynychu panelau grantiau ein gilydd. Tra fo’r Cyngor Llyfrau’n gyfrifol am gefnogi’r diwydiant cyhoeddi, Llenyddiaeth Cymru sy’n gyfrifol am gefnogi awduron felly mae cydweithio’n bwysig.

Rydym hefyd yn cydweithio a mudiadau llenyddol eraill i sicrhau fod digwyddiadau fel Diwrnod Barddoniaeth yn llwyddiant blynyddol. Rydym yn annog siopau llyfrau i gefnogi gwyliau llenyddol ar hyd a lled Cymru, ac yn estyn cefnogaeth ymarferol drwy’n Cynllun Ymestyn.

Addysg

Rydym yn cydweithio ag ysgolion, Cynghorau Sir a chonsortiwm addysg i sicrhau eu bod yn cael yr adnoddau gorau, a chefnogi’r siopau llyfrau lleol. Rydym hefyd yn cefnogi cyhoeddwyr adnoddau addysgiadol drwy sicrhau fod gwasanaethau’r Cyngor Llyfrau megis dylunio a golygu ar gael i bob un.

Rydym yn cydweithio yn agos gyda Adran Addysg Llywodraeth Cymru sy’n ariannu prosiectau hyrwyddo darllen yn cynnwys Stori Sydyn, Sialens Ddarllen yr Haf a Diwrnod y Llyfr. Heb y gefnogaeth ariannol yma, nid fyddai modd i ni gynnal y gweithgareddau yma sy’n creu cymaint o fwrlwm o gwmpas darllen.

Rydym hefyd yn cydweithio gyda llyfrgelloedd lleol i sicrhau fod Sialens Ddarllen yr Haf yn llwyddiant, ac yn gweinyddu’r rhaglen yng Nghymru ar ran y Reading Agency. Y nod yw sicrhau nad oes lleihad yng nghynnydd addysgiadol plant dros gyfnod yr haf.

Rydym yn cydweithio gyda World Book Day i sicrhau fod holl adnoddau Diwrnod y Llyfr ar gael yn ddwyieithog i’r holl ysgolion, siopau, llyfrgelloedd, ac unrhyw le arall sydd am gymryd rhan yn y bwrlwm.

Rydym yn cydweithio gyda Cynghorau Sir lleol sydd yn gweinyddu rowndiau cyntaf o’r Darllen Dros Gymru/ Bookslam cyn y daw’r timau i rowndiau terfynol yn Aberystwyth (gweler #Carudarllen, Cystadleuaethau Darllen).

 

Hyrwyddo’r Gymraeg

Mae hyrwyddo’r Gymraeg yn rhan greiddiol o waith y Cyngor Llyfrau, yn arbennig yn y grantiau a ddarperir i gylchgronau (megis Golwg, Barn, Barddas, Y Wawr, O’r Pedwar Gwynt, Cristion, Wcw, Cip, Lingo Newydd, Y Cymro, Mellten, Y Selar, Llafar Gwlad, Y Traethodydd, Fferm a Thyddyn) a gwefannau megis Golwg360, Lysh, Mam Cymru a Parellel Cymru.

Heb y grantiau ariannol, ni fyddai modd i gyhoeddwyr argraffu rhan helaeth o lyfrau Cymraeg, ac mae’r cymhorthdal yn angenrheidiol i sicrhau fod amrywiaeth o ddarpariaeth Gymraeg ar gael i ddarllenwyr. 

Rydym yn cydweithio gyda’r Ganolfan Dysgu Cymraeg Genedlaethol i gael rhaglen o lyfrau sydd yn addas i ddysgwyr, ac yn hawdd eu adnabod yn ôl gallu darllen y darllenydd. Rydym hefyd yn dosbarthu llyfrau dysgu Cymraeg ar ran y Ganolfan.

Rydym hefyd yn cefnogi’r Eisteddfod Genedlaethol a’r Urdd drwy gynnal digwyddiadau i gefnogi eu gwyliau, golygu a prawf ddarllen eu cyfansoddiadau, a chyfrannu’n ariannol drwy gael stondinau yn eu digwyddiadau.

Rydym yn cydweithio gyda chynhyrchwyr cynnwys i geisio sicrhau fod llyfrau a chylchgronau yn cael sylw digonol o fewn rhaglenni radio, teledu a phlatfformau eraill, ac amlygu cyfleoedd i hyrwyddo cynnwys.

Rydym yn cydweithio gyda Merched y Wawr drwy ddarparu grant i gylchgrawn y Wawr.

 

Busnes

Mae’r Cyngor Llyfrau yn cydweithio gyda Busnes Cymru i ddarparu cefnogaeth i’r amrywiol gyhoeddwr gan sicrhau eu bod yn cael hyfforddiant perthnasol.

Rydym hefyd yn helpu siopau drwy ariannu Cynllun Ymestyn, sydd yn caniatáu iddynt fynd i ddigwyddiadau allanol.

Rydym yn ceisio sicrhau fod cyfleoedd digonol i gyhoeddwyr werthu hawlfraint eu cynnyrch, drwy weithio yn strategol gyda Llywodraeth Cymru, Ffair Lyfrau Llundain ac eraill, i sicrhau fod y diwydiant yn cael yr effaith rhyngwladol.

Rydym wedi cydweithio â Phrifysgol Caerdydd i fesur effaith y Cyngor Llyfrau ar yr economi gan ddangos fod y gwaith yn cefnogi sector ehangach, ac mae modd i chi weld yr adroddiad llawn yn ein tudalennau Ymchwil.

 

Iechyd

Fe wyddom fod darllen yn llesol i’r meddwl, ac yn help i leihau unigrwydd, cryfhau empathi a gwella perthynas gyda eraill.

Mae’r Cyngor Llyfrau yn awyddus i weld llyfrau yn cynyddu ymwybyddiaeth am gyflyrau iechyd yn y ddwy iaith, ac yn cefnogi’r Reading Agency i sicrhau fod llyfrau ar gyflwr dementia a iechyd meddwl ar gael yn Gymraeg ac yn Saesneg.  Am fanylion pellach, ewch i’n tudalennau Darllen yn Well.