Amodau a Thelerau

Mae gwefan www.llyfrau.cymru yn eiddo, ac yn cael ei gweinyddu gan:

Cyngor Llyfrau Cymru
Castell Brychan
Aberystwyth
Ceredigion
Cymru
SY23 2JB
Ffôn: 01970 624151
Ffacs: 01970 625385
E-bost: castellbrychan@llyfrau.cymru
Rhif Cofrestru TAW: GB123 0426 23
Rhif Elusen: 1192269

HAWLFRAINT
1. Y mae hawlfraint pob dyluniad, testun a gwaith graffig a berthyn i’r wefan, ynghyd ag unrhyw ddetholiad neu drefniant ohonynt, a phob crynhoad ar sail meddalwedd, cod ffynhonnell weledol, meddalwedd (gan gynnwys applets) a phob deunydd arall ar wefan gwales.com, yn eiddo i Gyngor Llyfrau Cymru neu’r sawl a gyflenwodd y cynnwys a’r dechnoleg iddynt. CEDWIR POB HAWL.

2. Rhoir caniatâd i gopïo’n electronig ac argraffu ar gopi caled rannau o’r wefan hon i’r unig ddiben o osod archeb drwy gwales.com neu ynteu ddefnyddio’r wefan hon fel adnodd siopa. Gwaherddir yn llwyr ddefnyddio mewn unrhyw ffordd arall ddeunyddiau’r wefan, gan gynnwys dyblygu i ddibenion heblaw y rhai a nodir uchod, addasu, dosbarthu, neu ailgyhoeddi, heb ganiatâd ysgrifenedig ymlaen llaw gan Gyngor Llyfrau Cymru/gwales.com.

3. I’R GRADDAU LLAWNAF A GANIATEIR GAN Y GYFRAITH, Y MAE CYNGOR LLYFRAU CYMRU YN DARPARU’R WEFAN HON A’I CHYNNWYS AR SAIL ‘FEL AG Y MAE’ AC NI WNA UNRHYW HONIADAU NA RHOI GWARANTAU O UNRHYW FATH (GWEDIR POB CYFRIFOLDEB YN BENODOL) YNG NGHYSWLLT Y WEFAN NEU EI DEUNYDDIAU GAN GYNNWYS, HEB GYFYNGIAD, WARANTAU MARCHNADWYAETH AC ADDASRWYDD AR GYFER DIBEN ARBENNIG. AT HYN, NID YW CYNGOR LLYFRAU CYMRU/ GWALES.COM YN HONNI NAC YN GWARANTU BOD YR WYBODAETH A GEIR DRWY’R WEFAN HON YN GYWIR, YN GYFLAWN NAC YN GYFREDOL. GALL GWYBODAETH AM BRISIAU AC ARGAELEDD NEWID YN DDIRYBUDD.

4. Mae Cyngor Llyfrau Cymru yn darparu’r wybodaeth a geir ar cllc.org gyda phob ewyllys da. Gwneir pob ymdrech i sicrhau y cynhwysir yr wybodaeth ddiweddaraf ond ni ddelir Cyngor Llyfrau Cymru yn gyfrifol os ceir wedyn fod yr wybodaeth yn anghywir. Pan fynegir barn, fel a geir ar daflenni gwybodaeth ymlaen llaw a arddangosir fel ychwanegiadau ar gwales.com, nid barn Cyngor Llyfrau Cymru mohoni o anghenraid, ac ni ddylid ei dehongli fel y cyfryw.

5. Ni fydd Cyngor Llyfrau Cymru yn gyfrifol mewn unrhyw ffordd am golli enillion neu elw nac am unrhyw golled o gwbl, pe digwyddai toriad yn y gwasanaeth a ddarperir gan Gyngor Llyfrau Cymru drwy llyfrau.cymru neu gwales.com.

6. Ac eithrio fel y datgenir yn benodol ar y wefan, i’r graddau llawnaf a ganiateir gan y gyfraith, ni fydd Cyngor Llyfrau Cymru, ei aelodau, ei gynrychiolwyr, ei Gyfarwyddwr na’i staff yn gyfrifol am unrhyw iawndal yn deillio o ddefnyddio neu yng nghyswllt defnyddio’r wefan. Y mae hwn yn gyfyngiad cynhwysfawr ar gyfrifoldeb sy’n berthnasol i iawndal o unrhyw fath, heb gyfyngiad, boed uniongyrchol, anuniongyrchol neu ganlyniadol, colli data, incwm neu elw, colli eiddo neu niwed iddo, a hawliadau trydedd blaid.

ARCHEBU
7. Bydd cwsmeriaid sy’n gosod archeb ar gwales.com yn cael eu trosglwyddo i weinydd diogel lle caiff eu harchebion eu storio ar gyfer eu prosesu.

8. Bydd gwales.com yn pennu costau cludiant ar raddfa safonol o £2.95 y parsel ar gyfer cwsmeriaid yn y DG ac yn unol â’r gost ar gyfer cwsmeriaid tramor.

Y DDEDDF
9. Rheolir eich defnydd o’r wefan hon ynghyd ag unrhyw gynnyrch a brynir gennych ar wefan gwales.com gan gyfraith Cymru a Lloegr a bernir bod y defnydd hwn wedi digwydd yn y Deyrnas Unedig.