Cwestiynau Cyffredinol i Gwsmeriaid

Fe hoffwn agor siop lyfrau. Sut gall y Cyngor Llyfrau fy helpu?

Cysylltwch â ni trwy e-bostio gwerthu@llyfrau.cymru neu ffonio 01970 624455.

Rwyf am brynu llyfr ac yn cael anhawster i ddod o hyd iddo yn fy siop leol. Beth ddylwn i ei wneud?

Gall eich siop leol archebu unrhyw lyfr sydd mewn print ar eich rhan oddi wrth ein Canolfan Ddosbarthu. Os nad yw hynny’n ymarferol, ewch i wefan y Cyngor Llyfrau www.gwales.com sy’n cynnig gwasanaeth archebu cyflym ac effeithiol. Rydym yn gwneud ein gorau i ddosbarthu o fewn 48 awr, os yw’r llyfr mewn stoc.

A oes modd i mi archebu llyfr er bod gwefan Gwales yn dweud ei fod Allan o Brint?

Rhoddir y neges ‘Allan o Brint’ yn ymyl teitl ar wefan Gwales lle mae’r cyhoeddwr wedi ein hysbysu nad oes copïau ar ôl i’w prynu ac nad oes bwriad ganddynt i adargraffu. Nid oes diben gosod archeb am y rheiny. Awgrymwn, mewn achosion felly, eich bod yn dal i holi eich siop lyfrau leol rhag ofn fod ganddynt gopi ar ôl, yn benthyg copi o’ch llyfrgell leol, neu’n chwilio’r rhyngrwyd neu siopau llyfrau ail-law am gopi.

A oes modd i ysgol brynu llyfrau dros y we trwy ddefnyddio gwales.com?

Mae modd prynu dros y we ond byddai’n rhaid talu’r pris llawn yn ogystal â chostau cludiant gyda cherdyn credyd. Dylid cysylltu â’ch siop lyfrau leol os am drafod gostyngiadau posibl neu gysylltu â’r Swyddog Ysgolion ar ysgolion@llyfrau.cymru.

Rwyf yn dymuno cynnal digwyddiad allanol neu fynychu sioe leol. A oes unrhyw gymorth tuag at fynychu?

Mae’r Cynllun Ymestyn yn cynorthwyo llyfrwerthwyr i fynychu digwyddiadau trwy Gymru gyfan, yn arbennig lle mae canran uchel o’r stondin yn ymwneud a gwerthu llyfrau. Am ragor o wybodaeth am y cynllun, cliciwch yma. Nid yw’r cynllun hwn yn cael ei ariannu o’r Grant Cyhoeddi, ac yn dod o arian preifat y Cyngor. Noder bod y Cynllun Ymestyn yn canolbwyntio ar helpu llyfrwerthwyr gyda chynlluniau digidol yn ystod 2020-21 wrth i gyfyngiadau Covid-19 atal cynnal digwyddiadau lleol a chenedlaethol.