Athrawon Caru Darllen

Beth yw Athrawon Caru Darllen?
Mae’r prosiect hwn yn ymwneud yn bennaf â meithrin cariad at ddarllen ymhlith athrawon, fel y gallant deimlo yn hyderus wrth ysbrydoli eu disgyblion i wneud yr un peth.

Mae’r cynllun peilot hwn ar agor i athrawon o gyfnod allweddol 2, ond gan fod y llyfrau ar y rhestr drafod yn addas ar gyfer blynyddoedd 5 a 6, byddwn yn rhoi blaenoriaeth i athrawon sydd yn dysgu yr oedran hwn.

Ar hyn o bryd, mae’r peilot hwn yn agored i ysgolion cyfrwng Cymraeg yn unig, gan fod darpariaeth ar gyfer ysgolion cyfrwng Saesneg eisoes yn bodoli dan cynllun RTRP – (https://www.cheltenhamfestivals.com/rtrp ).

Manteision y Cynllun
Tra’n cefnogi’r amcanion sydd wrth galon Cwricwlwm i Gymru, bydd Athrawon Caru Darllen yn galluogi ac yn annog ysgolion i gofleidio ethos ysgol gyfan sy’n gosod darllen er pleser yn graidd iddo. Oherwydd, fel y nodir yn y Maes Dysgu a Phrofiad Ieithoedd, Llythrennedd a Chyfathrebu, ‘…mae’r profiadau llenyddol a gynigir yn anelu at danio dychymyg a chreadigedd dysgwyr a helpu i feithrin cariad gydol oes at lenyddiaeth.’[1]

Credwn yn gryf ei bod yn bwysig darparu cyfleoedd i athrawon ymgysylltu, mwynhau ac archwilio manteision darllen er pleser fel unigolion a datblygu eu sgiliau empathi eu hunain, tanio eu dychymyg, a gweld eu profiad bywyd yn cael ei adlewyrchu yn ôl iddynt.

Sut mae’n gweithio?
Bydd y peilot hwn yn sefydlu 3 Grŵp Darllen Athrawon rhanbarthol, gyda’r prif nod o alluogi athrawon i ddatblygu eu sgiliau a’u hyder ymhellach i drafod a mwynhau llenyddiaeth – gan eu hysbrydoli i fwynhau darllen a thrafod llenyddiaeth yn y dosbarth.

Bydd yn ofynnol i’r athrawon/ysgolion hynny sy’n dymuno cymryd rhan yn y prosiect hwn ymrwymo i wreiddio darllen er pleser yn eu hamserlenni wythnosol. Er enghraifft, bydd angen iddynt ddangos eu bod wedi cynnal sesiynau darllen ar y cyd rheolaidd oddeutu 20-30 munud o hyd ar destunau dethol gyda disgyblion.

Bydd 4 sesiwn grŵp darllen ym mhob rhanbarth yn ystod blwyddyn academaidd 2023/24 er mwyn trafod y llyfrau. Bydd hwylusydd yn arwain y sesiynau ac yn annog cyfranogiad gan yr holl aelodau. Bydd costau cyflenwi ar gael er mwyn rhyddhau’r athrawon o’r ysgol, er mwyn galluogi’r sesiynnau i ddigwydd o fewn oriau gwaith arferol yn yr wythnos.

Bydd pob ysgol sy’n cymryd rhan yn y grŵp darllen yn derbyn pecyn o lyfrau wedi’u dethol yn ofalus, yn amrywio o lyfrau ffuglen, llyfrau ffeithiol, barddoniaeth, nofelau graffig.

Dyddiad cau i gofrestru eich diddordeb: 8 MEDI 2023

HOLIADUR AR GYFER COFRESTRUYMA

 

[1] Cwricwlwm i Gymru, Maes Dysgu a Phrofiad: Ieithoedd, Llythrennedd a Chyfathrebu, Llywodraeth Cymru (2020). https://hwb.gov.wales/cwricwlwm-i-gymru/ieithoedd-llythrennedd-a-chyfathrebu/datganiadau-o-r-hyn-sy-n-bwysig/