Ein Hanes

Cyngor Llyfrau Cymru

^
1961

Sefydlu’r Cyngor

Y Cymdeithasau Llyfrau Cymraeg sirol yn uno i ffurfio corff cenedlaethol newydd, Cyngor Llyfrau Cymraeg, gyda chefnogaeth ariannol awdurdodau lleol.

^
1965

Pennaeth #1

Penodi Alun Creunant Davies yn bennaeth ar y corff newydd (1965–87).

^
1970 ymlaen

Gwasanaethau Arbenigol

Sefydlu adrannau dan nawdd Cyngor y Celfyddydau i gynnig gwasanaethau arbenigol i gyhoeddwyr ym meysydd golygu, dylunio, cyhoeddusrwydd a marchnata.

^
1979

Llyfrau a Chylchgronau Plant

Derbyn cyfrifoldeb am ddosbarthu grant newydd i hyrwyddo cyhoeddi llyfrau a chylchgronau Cymraeg i blant. Ddwy flynedd yn ddiweddarach trosglwyddwyd Grant y Llywodraeth ar gyfer llyfrau Cymraeg i oedolion i’r Cyngor Llyfrau.

^
1981

Pencadlys Newydd

Prynu Castell Brychan yn Aberystwyth yn bencadlys gweinyddol

^
1982

Canolfan Ddosbarthu

Codi adeilad newydd pwrpasol ar Ystad Glanyrafon, Llanbadarn, Aberystwyth, ar gyfer dosbarthu llyfrau oedd yn rhan bwysig o waith y Cyngor ers y dyddiau cynnar

^
1987

Pennaeth #2

Penodi Gwerfyl Pierce Jones yn Gyfarwyddwr (1987-2009)

^
1990

Gwobrau Llyfrau

Trosglwyddo’r cyfrifoldeb am Ganolfan Llenyddiaeth Plant Cymru i’r Cyngor Llyfrau. Daeth Gwobrau Tir na n-Og, a sefydlwyd yn 1976, a Thlws Mary Vaughan Jones yn rhan o gyfrifoldebau newydd Adran Llyfrau Plant y Cyngor Llyfrau.

^
1995

Newid Enw

Cyngor Llyfrau Cymru yn dod yn deitl swyddogol y sefydliad, gan ddisodli Cyngor Llyfrau Cymraeg fel enw.

^
1995

Sefydlu’r Cyfeillion

Nod y Cyfeillion yw hyrwyddo gwaith y Cyngor Llyfrau a chefnogi’r diwydiant llyfrau yng Nghymru, yn y ddwy iaith. 

^
1996

System TG Vista

Cyflwyno meddalwedd newydd i reoli systemau cyhoeddi a dosbarthu

^
1998

Blwyddyn Darllen

Y Cyngor yn derbyn gwahoddiad i gydlynu’r gweithgarwch yng Nghymru. yn 1998 ac eto yn 2008.

^
2002

Dod o dan y Llywodraeth

Gosod y Cyngor ar sylfeini ariannol cadarnach gyda Llywodraeth y Cynulliad (Llywodraeth Cymru bellach) yn derbyn y prif gyfrifoldeb am ei ariannu.

^
2003

Grantiau Saesneg

Trosglwyddo holl gyfrifoldebau Cyngor y Celfyddydau ym maes cyhoeddi i’r Cyngor Llyfrau. Y Cyngor Llyfrau bellach yn rhoi grantiau i lyfrau a chylchgronau Saesneg yn ogystal â rhai Cymraeg.

^
2005

Lansio Gwales

Lansio siop lyfrau ar-lein gwales.com gan alluogi’r cyhoedd i archebu holl gynnyrch cyhoeddwyr Cymru a chyhoeddiadau o ddiddordeb Cymreig o un lle.

^
2006

Lansio Library of Wales

Lansio teitlau cyntaf y gyfres Library of Wales. Roedd hwn yn un o nifer o gynlluniau i ddatblygu Ysgrifennu Saesneg yng Nghymru, diolch i’r gefnogaeth ychwanegol a ddaeth yn sgil adroddiad gan Bwyllgor Diwylliant y Cynulliad yn 2004.

^
2009

Pennaeth #3

Elwyn Jones yn olynu Gwerfyl Pierce Jones fel Cyfarwyddwr a Phrif Weithredwr (2009–17).

 

^
2011

Dathlu’r 50

Nodi pen-blwydd y Cyngor Llyfrau yn hanner cant

^
2017

Pennaeth #4

Penodi Helgard Krause yn Brif Weithredwr (2017- )

^
2021

Lansio ffolio

^
2021

Dathlu’r 60

Lansio gwefan newydd ffolio.cymru yn hyrwyddo e-lyfrau Cymraeg a Saesneg o Gymru

Y Cyngor Llyfrau yn dathlu 60 mlynedd o gefnogi’r diwydiant cyhoeddi a dathlu darllen gydag wythnos o weithgareddau o 1–5 Tachwedd 2021, yn cynnwys cyhoeddi cyfrol newydd am ei hanes O Hedyn i Ddalen: Dathlu’r Cyngor Llyfrau yn 60.

Clawr llyfr 'O Hedyn i Ddalen' yn olrhain 60 mlynedd o waith y Cyngor Llyfrau yn cefnogi'r diwydiant cyhoeddi a darllen yng Nghymru.