O Hedyn i Ddalen: Dathlu’r Cyngor Llyfrau yn 60

Clawr llyfr 'O Hedyn i Ddalen' yn olrhain 60 mlynedd o waith y Cyngor Llyfrau yn cefnogi'r diwydiant cyhoeddi a darllen yng Nghymru.

Cyhoeddir O Hedyn i Ddalen: Dathlu’r Cyngor Llyfrau yn 60 heddiw (dydd Llun 1 Tachwedd 2021) i nodi pen-blwydd y sefydliad.

Mae’r gyfrol hardd hon yn adrodd stori’r Cyngor Llyfrau dros 60 mlynedd, o’i wreiddiau yn y 1960au hyd at heddiw.

Golygwyd y gyfrol gan Gwen Davies, gyda thorluniau leino gwreiddiol gan yr artist Molly Brown. Fe’i cyflwynir er cof am Alun Creunant, Cyfarwyddwr cyntaf Cyngor Llyfrau Cymru.

Ceir yma gyfraniadau gan amrywiaeth o leisiau o fewn y diwydiant cyhoeddi, yn cynnwys yr Athro M. Wynn Thomas, Gwerfyl Pierce Jones, y llyfrgellydd Bethan Hughes, y llyfrwerthwr Eirian James, y golygydd Alun Jones a’r awdur Elgan Rhys.

Mae manylion pellach am ddathliadau 60 y Cyngor Llyfrau i’w cael ar ein tudalennau newyddion ac mae’r gyfrol glawr caled hardd ar gael nawr o’ch siop lyfrau leol.