Cwestiynau Cyffredinol i Awduron

Rwy'n awdur. Oes modd i mi gael grant gan y Cyngor Llyfrau?

Mae grantiau ar gael i awduron, ond trwy gyhoeddwr yn unig y gellir gwneud cais. Am wybodaeth am y Grantiau Cyhoeddi cliciwch ar ‘Grantiau‘ uchod ac ewch i ‘Gwybodaeth i Awduron‘.

Rwyf wedi sgrifennu llyfr. Ble mae modd cael cyngor ynglŷn â sut i'w gyhoeddi?

Bydd angen i chi ddod o hyd i gyhoeddwr, ond mae croeso i unrhyw awdur gysylltu â’r Adran Datblygu Cyhoeddi am gyngor ar hyn – gan gynnwys argymhellion ar gyfer cyhoeddwr ac awgrymiadau am sut i gyflwyno’ch gwaith iddynt.

Rwy'n awdur. Oes modd i’r Cyngor Llyfrau roi ffigurau gwerthiant fy llyfr/au i mi?

Na, mae’n rhaid i chi gysylltu â’ch cyhoeddwr. Mae’r cytundeb sydd rhwng y Ganolfan Ddosbarthu a chyhoeddwyr unigol yn gwahardd rhoi gwybodaeth am werthiant i unrhyw un heblaw’r cyhoeddwr.

Rwy'n awdur. Oes modd i’r Cyngor Llyfrau ofalu fy mod yn derbyn breindal yn rheolaidd a phrydlon?

Dylai eich cytundeb â’ch cyhoeddwr osod allan y taliadau perthnasol a’r amserlen o ran derbyn taliadau. Os nad yw’r cytundeb yn cael ei anrhydeddu, dylech gysylltu â’ch cyhoeddwr yn ddiymdroi. Gall Adran Grantiau’r Cyngor Llyfrau ymyrryd ar eich rhan, os yw’r llyfr wedi cael grant, ond dim ond os ydych wedi methu cael ateb boddhaol gan eich cyhoeddwr.

Rwyf am fod yn gyhoeddwr. Sut gall y Cyngor Llyfrau fy helpu?

Mae’r Cyngor Llyfrau yn frwd iawn i glywed gan unrhyw un sydd am fod yn gyhoeddwr ac mae cyngor ar gael gan sawl Adran. Byddai’n braf clywed am syniadau i gyhoeddi llyfrau awduron eraill – nid rhai’r cyhoeddwr ei hun – a hefyd fod syniad am ddau neu dri neu ragor o deitlau. Mae yna lyfrau a mathau o lyfrau sydd heb eu cyhoeddi yn Gymraeg eto – ac efallai mai chi yw’r un i wneud hynny. Does dim angen argraffdy a stordy mawr – dim ond syniadau a diddordeb mewn cyhoeddi. Cysylltwch â’r Adran Datblygu Cyhoeddi yn y lle cyntaf trwy glicio ar ‘Cysylltu’ uchod ac fe all yr Adran eich cyfeirio at Adrannau eraill yn ôl y galw.

Fe hoffwn agor siop lyfrau. Sut gall y Cyngor Llyfrau fy helpu?

Cysylltwch â Rheolwr y Ganolfan Ddosbarthu a/neu â’r Adran Gorfforaethol trwy glicio ar ‘Cysylltu’ uchod.

Sut mae modd i mi ddod yn Gyfaill i’r Cyngor Llyfrau?

Cliciwch yma i lawrlwytho ffurflen ymaelodi neu cysylltwch ag:

Ysgrifennydd y Cyfeillion, Cyngor Llyfrau Cymru, Castell Brychan, Aberystwyth, Ceredigion SY23 2JB

Ffôn: 01970 624151

Ffacs: 01970 625385 E-bost: castellbrychan@llyfrau.cymru

Rwyf am brynu llyfr ac yn cael anhawster i ddod o hyd iddo yn fy siop leol. Beth ddylwn i ei wneud?

Gall eich siop leol archebu unrhyw lyfr sydd mewn print ar eich rhan oddi wrth ein Canolfan Ddosbarthu. Os nad yw hynny’n ymarferol, ewch i wefan y Cyngor Llyfrau www.gwales.com sy’n cynnig gwasanaeth archebu cyflym ac effeithiol. Rydym yn gwneud ein gorau i ddosbarthu ar y diwrnod gwaith canlynol, os yw’r llyfr mewn stoc.

A oes modd i mi archebu llyfr er bod gwefan Gwales yn dweud ei fod Allan o Brint?

Rhoddir y neges ‘Allan o Brint’ yn ymyl teitl ar wefan Gwales lle mae’r cyhoeddwr wedi ein hysbysu nad oes copïau ar ôl i’w prynu ac nad oes bwriad ganddynt i adargraffu. Nid oes diben gosod archeb am y rheiny. Awgrymwn, mewn achosion felly, eich bod yn dal i holi eich siop lyfrau leol rhag ofn fod ganddynt gopi ar ôl, yn benthyg copi o’ch llyfrgell leol, neu’n chwilio’r rhyngrwyd neu siopau llyfrau ail-law am gopi.

Ble allwn i gael cyngor am y deunydd sydd ar gael ar gyfer fy mhlentyn/ysgol?

Cysylltwch â’r Adran Llyfrau Plant a Hyrwyddo Darllen trwy glicio ar ‘Cysylltu‘ uchod. Mae gan yr Adran nifer o swyddogion sy’n hyddysg yn y maes.

Rwy'n ystyried hunan-gyhoeddi fy llyfr. A oes modd i'r Cyngor Llyfrau fy nghynorthwyo i gyrraedd y fasnach lyfrau yng Nghymru?

Os ydych yn awdur o Gymru neu os ydy’r llyfr o ddiddordeb Cymreig gallwn ystyried stocio’r llyfr yn ein Canolfan Ddosbarthu. Cysylltwch â’r Adran Gwerthu a Marchnata, yn ddelfrydol o leiaf dri mis cyn i’r llyfr ymddangos, gyda chymaint o wybodaeth lyfryddol ag sy’n bosibl gan gynnwys y rhif ISBN a JPEG o’r clawr. Telerau dosbarthu llyfrau hunangyhoeddwyr yw 55% o bris mân-werthu pob copi ar sail gwerthu a dychwelyd llawn; dylid cyflwyno 30 copi fel stoc gychwynnol a bydd yr anfonebau’n cael eu talu ar ôl 12 mis yn unig. Noder mai dosbarthwyr yn unig yw Cyngor Llyfrau Cymru, ac mai cyfrifoldeb yr awdur / cyhoeddwr yw hyrwyddo a marchnata’r llyfr.

Os ydych yn derbyn y telerau hyn, anfonwch at Lowri Davies, Swyddog Gwybodaeth, Cyngor Llyfrau Cymru, Parc Menter Glanyrafon, Aberystwyth Ceredigion SY23 3AQ. Yna, bydd yr Adran yn gwneud penderfyniad a fydd y Cyngor Llyfrau am stocio eich llyfr ai peidio.

Os bydd yr Adran yn penderfynu na fydd yn bosib stocio eich llyfr, bydd modd iddo gael ei restru ar wefan www.gwales.com, gan nodi ei fod ar gael gan y cyhoeddwr yn unig.

Beth os na allaf fforddio'r gostyngiad, neu os na fydd y Ganolfan Ddosbarthu'n dewis stocio fy llyfr?

Gall yr Adran Gwasanaethau Gwybodaeth gynnig rhestru’r llyfr yn rhad ac am ddim ar wefan www.gwales.com gan ychwanegu manylion cyswllt o’ch dewis chi at y disgrifiad. Byddai unrhyw un sy’n dymuno archebu wedyn yn cysylltu â chi’n uniongyrchol.

Rwy'n athro/athrawes ac eisiau gweld llyfrau ac adnoddau addysgol newydd.

Mae gan y Cyngor Llyfrau dim o swyddogion ysgol a all ymweld â’ch ysgol i ddangos y deunyddiau i chi a’ch cynghori ar eich dewis. Cysylltwch â’r Adran Llyfrau Plant a Hyrwyddo Darllen trwy glicio ar ‘Cysylltu‘ uchod.

Beth yw dyddiad Diwrnod y Llyfr y flwyddyn nesaf?

Cynhelir Diwrnod y Llyfr ar y dydd Iau cyntaf ym mis Mawrth bob blwyddyn.

Ar ba ddyddiad y cynhelir Diwrnod T Llew Jones?

Os nad yw’n disgyn ar benwythnos, 11 Hydref yw dyddiad Diwrnod T. Llew, sef dyddiad ei ben-blwydd.

A oes modd i ysgol brynu llyfrau dros y we trwy ddefnyddio gwales.com?

Mae modd prynu dros y we ond byddai’n rhaid talu’r pris llawn yn ogystal a chostau cludiant gyda cherdyn credyd. Dylid cysylltu â’ch siop lyfrau leol os am drafod gostyngiadau posibl neu gysylltu â’r Adran Llyfrau Plant a Hyrwyddo Darllen trwy glicio ar ‘Cysylltu‘ uchod.

Rwy'n awdur. Sut all y Cyngor Llyfrau farchnata fy llyfr?

Os ydy Canolfan Ddosbarthu Cyngor Llyfrau Cymru’n stocio’ch llyfr bydd angen i’ch cyhoeddwr drafod gyda’r Adran Gwerthu a Marchnata i weld a oes rhai o’n cynlluniau marchnata generig yn berthnasol i’r llyfr. Bydd Tîm Gwerthu’r Cyngor yn cario sampl o’r llyfr ac yn annog llyfrwerthwyr sydd â chyfrif yn ein Canolfan Ddosbarthu i’w archebu. Cyfrifoldeb y cyhoeddwr, fodd bynnag, yw marchnata’r llyfr trwy’r cyfryngau, dosbarthu copïau adolygu, hysbysebu’r llyfr a chynhyrchu deunydd hyrwyddo.

Rwy'n awdur sydd wedi cyhoeddi ei lyfr ei hun. Ydy'r uchod yn berthnasol i mi?

Fel cyhoeddwr y llyfr, mae’r uchod yn berthnasol os ydy’r Ganolfan Ddosbarthu’n stocio’r llyfr.

Ydy’r Cyngor Llyfrau yn darparu gwasanaeth golygu neu brawfddarllen i awduron?

Nid yw’r Cyngor Llyfrau yn cynnig gwasanaeth golygu a phrawfddarllen i awduron unigol, ond mae’r Adran Olygyddol yn cynnig y gwasanaethau hyn i gyhoeddwyr Cymru. Felly, efallai yr hoffech gyflwyno eich llyfr i un neu fwy o’r cyhoeddwyr a restrir ar wefan y Fasnach Lyfrau Ar-lein, a fyddai’n trefnu’r gwasanaeth golygu a phrawfddarllen ar eich rhan, os derbynnir eich gwaith i’w gyhoeddi. Ar y wefan hefyd ceir rhestr o olygyddion llawrydd sy’n gweithio yng Nghymru, ynghyd â manylion eu profiad perthnasol. Os byddwch yn penderfynu bwrw ati i hunan-gyhoeddi, gallai’r rhestr hon fod yn ddefnyddiol wrth i chi chwilio am rywun i olygu a phrawfddarllen eich gwaith.

Ydy’r Cyngor Llyfrau yn darparu gwasanaeth beirniadu teipysgrifau i awduron?

Nac ydy. Efallai y byddai’n well gan awduron gysylltu â’r cyhoeddwyr yn uniongyrchol, ac ar wefan y Fasnach Lyfrau Ar-lein mae rhestr o gyhoeddwyr Cymru.