Gwobrau

Gwobrau

by | Maw 24, 2019

Dyma gyfle i ddathlu safon eithriadol ym maes llenyddiaeth plant a phobl ifanc, ac i annog darllen a mwynhau llyfrau da.

  • Cyflwynir Gwobrau Tir na n-Og yn flynyddol i anrhydeddu gwaith awduron a darlunwyr llyfrau plant, a hynny mewn tri chategori, sef teitl cynradd Cymraeg, teitl uwchradd Cymraeg a theitl Saesneg gorau’r flwyddyn â chefndir Cymreig dilys.
  • Cyflwynir Tlws Mary Vaughan Jones bob tair blynedd er cof am gyfraniad sylweddol ac unigryw Mary Vaughan Jones, un o gymwynaswyr llenyddiaeth plant yng Nghymru.
  • Anrhydeddir unigolyn a wnaeth gyfraniad arbennig i faes llenyddiaeth plant yng Nghymru dros gyfnod o flynyddoedd.
Logo Gwobrau Tir na n-Og