Cyfeillion

Sefydlwyd y Cyfeillion ym 1995 i hyrwyddo gwaith y Cyngor Llyfrau a chefnogi’r diwydiant llyfrau yng Nghymru, yn y ddwy iaith.

Gall unrhyw un ymuno drwy dalu’r ffi ymaelodi ac, fel aelod, byddwch yn derbyn:

  • Tri phecyn gwybodaeth y flwyddyn
  • Cylchlythyr Y Cyfaill / The Friend – cylchgrawn bywiog a gyhoeddir yn arbennig ar gyfer y Cyfeillion
  • Gwahoddiad i gyfarfodydd yng nghwmni rhai o’n prif awduron
  • Tocyn mantais gwerth £2.50 ym mhob pecyn, i’w gyfnewid am lyfr o’ch dewis
  • Copïau o gatalogau llyfrau a gyhoeddir gan y Cyngor Llyfrau, yn ogystal â chatalogau a baratoir gan amryw o gyhoeddwyr yn rhestru eu llyfrau diweddaraf

Tâl Aelodaeth Blwyddyn – £15.00
Tâl Aelodaeth 10 Mlynedd – £125.00

Cliciwch yma i lawrlwytho ffurflen ymaelodi neu cysylltwch ag:

Ysgrifennydd y Cyfeillion
Cyngor Llyfrau Cymru
Castell Brychan
Aberystwyth
Ceredigion SY23 2JB
Ffôn: 01970 624151
Ffacs: 01970 625385
E-bost: castellbrychan@llyfrau.cymru

Swyddogion y Cyfeillion

Cadeirydd: Ion Thomas
Is-Gadeirydd: Bethan Gwanas
Ysgrifennydd: Ian Lloyd Hughes
Aelodau’r Pwyllgor Llywio:
Marian Delyth
Meinir Pierce Jones
Dyfrig Davies

Sefydlwyd Cyfeillion Cyngor Llyfrau Cymru ym 1995 ac mae’n mynd o nerth i nerth, gan gynnal cyfarfodydd blynyddol yng nghwmni rhai o’n llenorion amlycaf. Eisoes, bu Jan Morris, Emyr Humphreys a’r diweddar R. S. Thomas yn trafod eu gwaith a’r dylanwadau a fu ar eu cynnyrch llenyddol.

Cadeirydd cyntaf Cyfeillion y Cyngor Llyfrau oedd y diweddar Alun Creunant Davies, cyn-Gyfarwyddwr y Cyngor Llyfrau a fu farw yn 2005.

Llywyddion Anrhydeddus

Mae tri o brif lenorion Cymru wedi bod yn Llywyddion Anrhydeddus i Gyfeillion Cyngor Llyfrau Cymru, sef y diweddar Islwyn Ffowc Elis, y diweddar Emyr Humphreys a’r diweddar Jan Morris.

Gwnaeth y tri gyfraniad arbennig iawn i fyd llenyddiaeth Cymru gan mor amrywiol a gwahanol eu gyrfaoedd a’u cynnyrch. Fel nofelydd arloesol y meddylir am Islwyn Ffowc Elis yn bennaf, a gwyddom hefyd am ei gyfraniad pwysig fel beirniad llenyddol. Daeth Emyr Humphreys i amlygrwydd fel nofelydd ifanc gan ddatblygu hefyd yn fardd a dramodydd teledu. Fel awdur taith y derbyniodd Jan Morris sylw rhyngwladol, ond fe gyhoeddodd hefyd nifer o lyfrau’n ymwneud yn benodol â Chymru.

Fe wnaeth y tri Llywydd Anrhydeddus gofnodi eu diolch a’u gwerthfawrogiad adeg derbyn yr anrhydedd:

Islwyn Ffowc Elis

‘Un o’r storïau mwyaf cyffrous yn hanes ein diwylliant yw datblygiad Cyngor Llyfrau Cymru. Ac yn awr mae gan y Cyngor gorff niferus o Gyfeillion i’w gynnal a’i gefnogi. Braint fawr i unrhyw un yw cael bod yn un o lywyddion y Cyfeillion hyn.’
Islwyn Ffowc Elis

Emyr Humphreys

‘Yn yr oes hon o ddatblygiadau technolegol a chysylltiadau byd-eang mae’r llyfr yn parhau yn gyfrwng hollbwysig. Y mae’n dda gweld felly bod gennym y Cyngor Llyfrau i hybu llyfrau o Gymru.’
Emyr Humphreys

Jan Morris

‘Mae bodolaeth y Cyngor Llyfrau nid yn unig yn bwysig o safbwynt cyhoeddi llyfrau yn y ddwy iaith yng Nghymru, ond y mae’n ddatganiad bod y genedl yn rhoi bri ar un o’r elfennau pwysicaf, y gair ysgrifenedig.’

Y Cyfeillion ar Waith

Caiff y Cyfeillion eu cynrychioli ar brif gorff rheoli’r Cyngor, gan gael cyfle i drosglwyddo barn a dyheadau’r aelodau.

Bydd unrhyw roddion neu gyfraniadau a dderbynnir gan y Cyfeillion yn cael eu defnyddio i hyrwyddo gwaith y Cyngor Llyfrau.