Gwasanaethau i Siopau

Mae siopau llyfrau annibynnol yn gwneud cyfraniad pwysig i economi Cymru ac i’w cymunedau lleol, ac fel Cyngor Llyfrau rydym ni yma i’w cefnogi ar hyd y daith. Caiff y gwaith yma ei arwain gan ein Adran Gwerthu a Gwybodaeth sydd wedi’i lleoli yn ein Canolfan Ddosbarthu ym Mharc Menter Glanyrafon ar gyrion Aberystwyth.

Swyddogion gwerthu

Mae gennym dîm o swyddogion gwerthu yn gwasanaethu Cymru gyfan ac yn ymweld pan fo amgylchiadau’n caniatau â siopau yn ogystal ag ysgolion a llyfrgelloedd.

Maen nhw’n gallu cymryd archebion, trefnu bod gan siopau ddeunydd hyrwyddo ar gyfer teitlau penodol, trafod pa lyfrau sy’n gwerthu orau, rhannu gwybodaeth am lyfrau newydd sydd ar fin eu cyhoeddi a mwy.

Os ydych chi’n berchennog siop ac eisiau gwybod pwy eich swyddog gwerthu, cysylltwch gyda’n Hadran Gwerthu a Gwybodaeth.

Archebion

Caiff archebion gan siopau llyfrau eu prosesu drwy ein Canolfan Ddosbarthu yn Aberystwyth.

Ar unrhyw adeg, mae o ddeutu hanner miliwn o lyfrau o Gymru mewn stoc yn warws y Ganolfan ac mae manylion yr holl deitlau gwahanol i’w cael ar www.gwales.com. Rydym hefyd yn anfon e-bost rheolaidd at lyfrwerthwyr yn eu hysbysu o’r llyfrau diweddaraf o’r wasg yng Nghymru.

Mae gan y Cyngor gysylltiadau hefyd â dosbarthwyr llyfrau ym Mhrydain i sicrhau bod llyfrau o Gymru ar gael ar draws y byd.

Dosbarthu

Rydym yn cynnig gwasanaeth dosbarthu diwrnod-wedyn i siopau llyfrau sy’n archebu cyn hanner dydd (Llun-Gwener). Nid oes tâl cludiant yn cael ei godi ar gyfer archebion sy’n werth mwy na £66.66 net.

Mae’r Ganolfan Ddosbarthu yn hunangynhaliol, ac nid yw’n derbyn unrhyw nawdd tuag at ei chynnal trwy’r pwrs cyhoeddus.

Os am agor cyfrif busnes, cysylltwch â’n Hadran Gwerthu a Gwybodaeth.

Cynllun ymestyn

Mae cefnogaeth ariannol ar gael ar gyfer llyfrwerthwyr sydd am drefnu stondin lyfrau mewn amrywiol ddigwyddiadau drwy Gymru – o
ffeiriau ysgol i’r Sioe Fawr a’r Eisteddfod Genedlaethol.

Yr Adran Gwerthu a Gwybodaeth sy’n gweinyddu’r Cynllun Ymestyn. Mae ei staff hefyd yn ymwneud â’r trefniadau ar gyfer stondinau mewn digwyddiadau fel Gŵyl y Gelli, y Sioe Fawr a’r Eisteddfod Genedlaethol.

Cynllun comisiwn gwales.com

Pan fydd unigolion yn prynu llyfrau drwy gwales.com, mae modd iddyn nhw enwebu siop lyfrau annibynnol i dderbyn comisiwn ar y gwerthiant. Bydd y comisiwn yn cael ei dalu i’r llyfrwerthwyr ar ddiwedd y flwyddyn ariannol gan Adran Gyllid y Cyngor Llyfrau.

Mae’r holl lyfrau ar www.gwales.com ar gael trwy’r siopau llyfrau, neu i’w prynu ar-lein.

Cynllun comisiwn ffolio.cymru

Pan fydd unigolion yn prynu e-lyfr drwy ffolio.cymru, mae modd iddyn nhw enwebu siop lyfrau annibynnol i dderbyn comisiwn ar y gwerthiant. Bydd y comisiwn yn cael ei cael ei drosglwyddo i gyfrif y siop lyfrau dan sylw mewn un taliad sengl ar ddiwedd pob chwarter, a bydd y llyfrwerthwr yn derbyn adroddiad misol yn nodi’r gwerthiant gan Adran Gyllid y Cyngor, yn ogystal ag ebost unigol drwy wefan ffolio.

Manylion cyswllt

Am ragor o wybodaeth cysylltwch â:

Adran Gwerthu a Gwybodaeth Cyngor Llyfrau Cymru
Ffôn: 01970 624455
E-bost: cllc.gwerthu@llyfrau.cymru