Darllen yn Well

Cloriau pump o lyfrau a gyhoeddwyd yn 2020 fel rhan o'r gyfres Darllen yn Well - Llyfrau ar Bresgripsiwn ar gyfer iechyd meddwl

Caiff cynllun Darllen yn Well Llyfrau ar Bresgripsiwn ei arwain gan The Reading Agency a’r nod yw cynorthwyo pobl i ddeall a rheoli eu hiechyd a’u lles drwy gyfrwng deunydd darllen defnyddiol.

Mae’r llyfrau i gyd wedi’u cymeradwyo gan arbenigwyr iechyd, yn ogystal â phobl sy’n byw gyda’r cyflyrau a gwmpesir a’u perthnasau a’u gofalwyr.

Gall gweithwyr iechyd proffesiynol argymell y llyfrau, neu gallwch chi fynd i’ch llyfrgell leol a benthyg llyfr eich hun.

Yng Nghymru, mae’r Cyngor Llyfrau yn gweithio gyda The Reading Agency i sicrhau bod teitlau ar y rhestrau ar gael yn Gymraeg, ac mae Llywodraeth Cymru yn cefnogi The Reading Agency i ddarparu Darllen yn Well ymhob un o’r 22 o awdurdodau llyfrgell yng Nghymru.

Cafodd teitlau Cymraeg eu cyhoeddi fel rhan o’r cynllun Darllen yn Well ar gyfer dementia yn 2018, Darllen yn Well ar gyfer iechyd meddwl yn 2019 a Darllen yn Well ar gyfer plant yn 2020. 

Darllen yn Well Llyfrau ar Bresgripsiwn i blant

Mae Darllen yn Well Llyfrau ar Bresgripsiwn i blant yn darparu darllen defnyddiol i gefnogi iechyd meddwl a lles plant. Mae’r llyfrau’n darparu gwybodaeth, straeon a chyngor gyda sicrwydd ansawdd. Mae llyfrau wedi cael eu dewis a’u hargymell gan weithwyr iechyd proffesiynol blaenllaw a’u cynhyrchu ar y cyd gyda phlant a theuluoedd

Darllen yn Well Llyfrau ar Bresgripsiwn ar gyfer iechyd meddwl

Mae Darllen yn Well ar gyfer iechyd meddwl yn darparu gwybodaeth a chymorth defnyddiol ar gyfer rheoli cyflyrau iechyd meddwl cyffredin, neu ddelio â theimladau a phrofiadau anodd. Mae rhai llyfrau hefyd yn cynnwys straeon personol gan bobl sy’n byw gyda rhywun ag anghenion iechyd meddwl neu’n gofalu amdano.

Darllen yn Well Llyfrau ar Bresgripsiwn ar gyfer dementia

Mae’r llyfrau’n darparu gwybodaeth a chyngor i bobl sy’n byw gyda dementia, cefnogaeth i fyw’n well, cyngor i berthnasau a gofalwyr, yn ogystal â ffuglen, cofiannau a llyfrau ffotograffau a ddefnyddir mewn therapi hel atgofion. Fe’u cymeradwyir gan weithwyr iechyd proffesiynol a gellir dod o hyd iddynt yn y llyfrgell leol.

Mae manylion pellach i’w cael ar wefan The Reading Agency 

Logo Darllen yn Well - Reading Well
Logo Darllen yn Well - Reading Well