Ein Hamcanion

Cefnogi’r diwydiant cyhoeddi yng Nghymru a hyrwyddo darllen er pleser yw cenhadaeth y Cyngor Llyfrau, ac mae’n prif amcanion a’n swyddogaethau craidd yn adlewyrchu hyn.

Mae’n Cyfansoddiad yn gosod yn glir amcanion y sefydliad, sef hybu, cefnogi a datblygu gwerthfawrogiad a diddordeb y cyhoedd mewn llenyddiaeth.

  • Cefnogi a chynorthwyo awduron ac addaswyr drwy roi grantiau a thrwy ddulliau eraill.

  • Cefnogi, hybu a chynorthwyo cynhyrchu a dosbarthu llyfrau a deunyddiaeth llenyddol ac artistig eraill, ym mha ffurf bynnag y’u cofnodwyd (boed trwy ddulliau sy’n hysbys neu trwy ddulliau sydd hyd yn hyn yn anhysbys), yn nwy iaith swyddogol Cymru, y Gymraeg a’r Saesneg, neu’n ymwneud â Chymru.

  • Trefnu a chynnal arddangosfeydd o’r cyfryw lyfrau a deunyddiau eraill.

  • Cefnogi a hybu cyhoeddi’r cyfryw lyfrau a deunyddiau eraill yng Nghymru.

Mae’r Cyfansoddiad yn sail i’n gwaith bob dydd a’r swyddogaethau craidd sy’n gwbl hanfodol er mwyn sicrhau ein bod yn cyflawni’n hamcanion.

  1. Hybu’r diwydiant cyhoeddi yng Nghymru yn ei holl agweddau trwy ddarparu rhychwant o wasanaethau a thrwy gydgysylltu buddiannau awduron, cyhoeddwyr, llyfrwerthwyr a llyfrgelloedd.
  2. Dosbarthu grantiau i gynorthwyo cyhoeddi deunydd o ansawdd yn y Gymraeg a’r Saesneg gan sicrhau bod y cynnyrch ar gael yn eang.
  3. Cynorthwyo a chefnogi awduron trwy ddarparu gwasanaethau a thrwy ddyfarnu grantiau/comisiynau a sianelir trwy gyhoeddwyr.
  4. Hybu diddordeb mewn llyfrau Cymraeg a llyfrau Saesneg o ddiddordeb i Gymru, ynghyd â deunydd cyffelyb arall, trwy ddarparu gwybodaeth a thrwy raglen lawn o weithgarwch.