Ein Gwaith

 

Mae’r Cyngor Llyfrau yn elusen genedlaethol sy’n cefnogi’r diwydiant cyhoeddi yng Nghymru ac yn hyrwyddo darllen er pleser.

Rydym yn cyfrannu at ffynniant y diwydiannau creadigol yn ogystal ag at yr economi sylfaen drwy gynnal swyddi yn y sector llyfrau, creu cynnwys masnachol a defnyddio cadwyni cyflenwi.   

Dan arweiniad ein Prif Weithredwr Helgard Krause, mae gennym o ddeutu 40 o staff yn gyfrifol am ystod o swyddogaethau yn cynnwys:

Cefnogi’r sector llyfrau

  • Darparu gwasanaeth cyfanwerthu llyfrau a deunydd perthnasol ar ran cyhoeddwyr, gweisg a llyfrwerthwyr Cymru.
  • Darparu gwasanaeth golygu a dylunio prydlon ac o safon uchel i gyhoeddwyr Cymru.
  • Dosbarthu Grantiau Cyhoeddi i hybu cyhoeddi llyfrau a chylchgronau i blant ac oedolion yn y Gymraeg a’r Saesneg ynghyd â gwasanaethau newyddion arlein.
  • Cefnogi ymdrechion cyhoeddwyr i hybu teitlau unigol.
  • Trefnu cyrsiau hyfforddiant i gyhoeddwyr ar gyfer y sector llyfrau er mwyn datblygu sgiliau, cynnal safonau proffesiynol a rhannu arferion gorau masnach lyfrau ryngwladol. 
  • Gweinyddu grantiau i lyfrwerthwyr ar gyfer cynlluniau ymestyn
  • Eirioli ar ran y sector mewn trafodaethau ar lefel cenedlaethol a rhyngwladol.

Hyrwyddo darllen er pleser

  • Trefnu cynlluniau a gweithgareddau i hybu diddordeb mewn llyfrau a darllen.
  • Darparu gwybodaeth am lyfrau a deunydd perthnasol arall trwy gyhoeddi rhestrau, taflenni, catalogau a chylchgronau.
  • Hybu diddordeb mewn llyfrau plant trwy gyfrwng arddangosfeydd a thrwy raglen lawn o ddigwyddiadau.
  • Trefnu gwasanaethau i lyfrwerthwyr, llyfrgelloedd ac ysgolion.
  • Hyrwyddo gwybodaeth am awduron a’u gwaith yng Nghymru a thu hwnt

Castell Brychan yn Aberystwyth yw pencadlys y Cyngor Llyfrau. Mae’n Canolfan Ddosbarthu a’i warws enfawr o lyfrau wedi’u lleoli ym Mharc Menter Glanyrafon ar gyrion y dref.