Caru Darllen Ysgolion

Sbarduno cariad at ddarllen

Fel rhan o raglen Caru Darllen Ysgolion, bydd pob disgybl rhwng 3 ac 16 oed mewn ysgolion gwladol yng Nghymru yn derbyn eu llyfr eu hunain am ddim i’w gadw.

Os ydych chi mewn ysgol gynradd, byddwch, chi’n gallu dewis llyfr yn yr ysgol.

Bydd disgyblion 11 i 16 oed mewn ysgolion uwchradd gwladol yn derbyn tocyn llyfr arbennig Caru Darllen Ysgolion i’w gyfnewid am lyfr o’u dewis nhw. Fe anfonwyd tocynnau i ysgolion cyn diwedd tymor yr haf. Gall ysgolion weithio gyda’u siop lyfrau leol i drefnu stondin dros dro, i drefnu i ddanfon llyfrau neu i gymryd archebion yn yr ysgol dros yr wythnosau nesaf. Bydd y trefniadau’n amrywio, felly gwnewch yn siŵr eich bod yn cysylltu â’ch ysgol eich hun.

Os ydych chi’n aros am eich llyfr newydd, neu os ydych chi wedi ei gael ac yn chwilio am syniadau ar beth i’w ddarllen nesaf, rydych chi wedi dod i’r lle iawn!

Cliciwch isod am rai rhestrau darllen i ysbrydoli eich dewis nesaf.

Cefnogir rhaglen Caru Darllen Ysgolion gan Llywodraeth Cymru.

BLOGIAU - DWI'N CARU DARLLEN!

canllawiau'r pecyn – CYNRADD

Rhestrau Darllen

YSGOLION CYNRADD

YSGOLION UWCHRADD