Cwestiynau Cyffredinol

Ydi’r Cyngor Llyfrau yn rhan o Lywodraeth Cymru?

Elusen yw’r Cyngor Llyfrau ac nid ydym yn rhan o Lywodraeth Cymru. Rydym yn derbyn cyfran o’n hincwm gan Lywodraeth Cymru, yn seiliedig ar lythyr dyfarnu blynyddol sydd yn gosod targedau ac amcanion clir. Daw gweddill incwm y Cyngor o ffynonellau masnachol ac incwm prosiect.

Pwy sy'n rhedeg y Cyngor Llyfrau?

Fel elusen, mae’r Cyngor yn atebol i’w Ymddiriedolwyr sy’n cael eu dewis yn unol a chyfansoddiad y sefydliad. Mae croeso i unrhyw wneud cais i fod yn ymddiriedolwr. Mae manylion pellach am y broses ac am ein strwythurau llywodraethiant yn fwy cyffredinol i’w cael yn yr adran Pwyllgorau.

Sut mae modd i mi ddod yn Gyfaill i’r Cyngor Llyfrau?

Cliciwch yma i lawrlwytho ffurflen ymaelodi neu cysylltwch ag:

Ysgrifennydd y Cyfeillion, Cyngor Llyfrau Cymru, Castell Brychan, Aberystwyth, Ceredigion SY23 2JB

Ffôn: 01970 624151
Ffacs: 01970 625385
E-bost: castellbrychan@llyfrau.cymru

Mae gen i gais Rhyddid Gwybodaeth. A oes angen i’r Cyngor Llyfrau ei ateb?

Nid yw’r Cyngor Llyfrau yn gorff sydd yn gorfod ateb cwestiynau Rhyddid Gwybodaeth, ond fe wnawn bob ymdrech i ateb unrhyw gwestiynau rhesymol. Mae gwybodaeth ariannol trylwyr ar gael yn ein cyfrifon blynyddol (gweler Dogfennau Corfforaethol) ac mae cofnodion y cyfarfodydd ar gael ar ein gwefan.

Rwy’n ohebydd newyddion. Gyda pwy ddylwn i gysylltu yn y Cyngor Llyfrau?

Cysylltwch yn gyntaf gydag Ysgrifenyddes y Prif Weithredwr drwy ebostio castellbrychan@llyfrau.cymru. Cyfeiriwch unrhyw ymholiadau ysgrifenedig at Cyngor Llyfrau Cymru, Castell Brychan, Aberystwyth, Ceredigion SY23 2JB

Ffôn: 01970 624151
E-bost: castellbrychan@llyfrau.cymru

 

Mae gen i brosiect yn ymwneud â llyfrau a chylchgronau allai fod o ddiddordeb i’r Cyngor Llyfrau. Gyda phwy ddylwn i gysylltu?

Mae gan y Cyngor Llyfrau ddiddordeb mewn unrhyw brosiect sy’n hyrwyddo cyhoeddi llyfrau a chylchgronau o Gymru. Cysylltwch yn y lle cyntaf gyda’n Adran Hyrwyddo Darllen am sgwrs bellach. 

Rwyf eisiau gwneud profiad gwaith o fewn y Cyngor Llyfrau. Ydych chi yn derbyn ceisiadau a gyda phwy ddylwn i gysylltu?

Mae’r Cyngor Llyfrau yn ystyried ceisiadau gan myfyrwyr dros 16 mlwydd oed ac fe fyddwn yn ceisio rhoi cyfleoedd i gymaint o fyfyrwyr a phosibl, ond mae amseroedd o’r flwyddyn lle na bydd hyn yn bosibl. Cysylltwch â Phennaeth yr Adran Cyllid a Llywodraethiant am fwy o fanylion – mererid.boswell@llyfrau.cymru.

Rwy’n chwilio am swydd dros dro. Oes gwerth i mi anfon fy CV atoch rhag ofn y bydd swyddi addas?

Nid ydym yn cynnal bas data o ymgeiswyr, ac fe fydd unrhyw gyfleoedd o fewn y Cyngor Llyfrau yn cael eu hysbysebu ar ein gwefan felly cadwch olwg ar y tudalennau yma a’n sianeli cyfryngau cymdeithasol. Os ydych yn ddylunydd, golygydd neu’n gyfieithydd llawrydd, mae’n bosibl y bydd gennym waith achlysurol o bryd i’w gilydd ac mae croeso i chi anfon eich manylion at Bennaeth yr Adran Cyllid a Llywodraethiant – mererid.boswell@llyfrau.cymru.