Galwad agored i athrawon cynradd Cymraeg
Cyfle i ddatblygu’n broffesiynol yn rhad ac am ddim trwy gynllun Athrawon Caru Darllen
Mae Cyngor Llyfrau Cymru yn annog athrawon ysgolion cynradd Cymraeg ledled Cymru i elwa ar gyfle i ymuno â chynllun hyfforddiant a mentora arbennig wrth gofrestru ar gyfer cynllun Athrawon Caru Darllen ar gyfer blwyddyn addysgol 2025/26.
Mae’r cynllun yn berffaith ar gyfer athrawon cynradd, lle bynnag maen nhw yn eu gyrfa dysgu, i’w helpu i ddatblygu darpariaeth ddarllen yn y dosbarth, i ddathlu llyfrau a darllen er pleser, ac i ysbrydoli eu dysgwyr ifanc i ddarllen.
Felly os ydych chi’n athro sy’n gweithio gyda dysgwyr 8–11 oed mewn ysgol gynradd Gymraeg ac yn:
– chwilio am gefnogaeth i hyrwyddo darllen yn y dosbarth ac ysbrydoli dysgwyr
– hoff o gyfarfod athrawon eraill i gyfnewid syniadau a rhannu profiadau
– awyddus i gael cyfleoedd datblygu, hyfforddi ac adeiladu hyder ym maes llythrennedd a darllen
yna, cofrestrwch i fod yn rhan o’r cynllun cyn dydd Mawrth 15 Gorffennaf drwy’r linc yma https://www.surveymonkey.com/r/87JB9W7
Ymunwch â’n Panel Pobl Ifanc
Ydych chi rhwng 17 a 20 oed? Mae Cyngor Llyfrau Cymru yn chwilio am unigolion brwdfrydig i ymuno â’n Panel Pobl Ifanc – os ydych chi’n ddarllenydd brwd ai peidio. Os oes gennych chi farn i’w rhannu ac eisiau gwneud gwahaniaeth, byddem wrth ein bodd yn clywed gennych.
Fel aelod o’r panel, cewch gyfle i:
- Rannu eich profiadau darllen
- Edrych ar ffyrdd newydd o hyrwyddo darllen
- Helpu i ddyfarnu gwobr Clawr y Flwyddyn am Lyfrau i Blant a Phobl Ifanc
- Cael ciplowg gwerthfawr i’r diwydiant cyhoeddi
- Cymryd rhan mewn digwyddiadau cyffrous a drefnir gan Gyngor Llyfrau Cymru
- Amlygu themâu a meysydd y dylid eu cynnwys mewn llyfrau i’r dyfodol
Fformat y panel
Bydd y panel yn cyfarfod dair gwaith y flwyddyn: unwaith wyneb yn wyneb (lleoliad i’w gadarnhau) a dwywaith ar-lein.
Bydd aelodau’r panel yn derbyn £100 am bob cyfarfod.
Diddordeb? Cwblhewch y ffurflen gais erbyn 18 Gorffennaf 2025.
Ffurflen gais – Application form
I gael mwy o wybodaeth, cysylltwch â: plant@llyfrau.cymru
Sut brofiad ydi gweithio i’r Cyngor Llyfrau? Pa fath o waith sy’n mynd ymlaen? Gwyliwch y fideo i weld . . .
Cynllun Profi – Cyngor Llyfrau Cymru
Gwyliwch y ffilm fer hon ar YouTube i gael blas am waith y Cyngor Llyfrau –
Blas o Ein Stori – Lleisiau cyhoeddi heddiw – YouTube
GWAITH ACHLYSUROL
Mae’r Cyngor Llyfrau’n awyddus i greu rhestr o bobl a fyddai’n barod i ymgymryd â gwaith achlysurol o bryd i’w gilydd. Byddai’r gwaith yn cynnwys coladu a phacio taflenni yn bennaf. Bydd y gwaith wedi ei leoli yn Aberystwyth.
Os oes gennych ddiddordeb yn y gwaith, cysylltwch â’r Cyngor Llyfrau trwy e-bost at castellbrychan@llyfrau.cymru neu drwy lythyr. Bydd y rhestr yn cael ei chadw ar agor ac yn cael ei diwygio’n flynyddol.
Gwyliwch y ffilm fer hon ar YouTube i gael blas am waith y Cyngor Llyfrau –
Blas o Ein Stori – Lleisiau cyhoeddi heddiw – YouTube