Teithiau Awdur

Fel rhan o’n gwaith yn hyrwyddo darllen, rydym yn trefnu teithiau awdur yn rheolaidd ar gyfer digwyddiadau arbennig fel Diwrnod y Llyfr a Sialens Ddarllen yr Haf neu ymgyrchoedd eraill sy’n hybu darllen ymhlith plant a phobl ifanc.

Mae hefyd yn bosib i ysgolion neu lyfrgelloedd fynd ati’n annibynnol i drefnu ymweliad gan awduron neu ddarlunwyr. Mae eu clywed yn siarad am eu profiadau a’u gwaith yn gallu bod yn ffordd wych o arwain disgyblion tuag at fyd straeon a darllen – a’u hysbrydoli i roi cynnig ar ysgrifennu eu straeon eu hunain. 

Sut mae mynd ati i drefnu daith o’r fath? Mae cyfarwyddiadau manwl i’w cael isod…

 

Taith awdur wedi'i threfnu gan Gyngor Llyfrau Cymru yn dangos Eloise Williams, Children's Laureate Wales, gyda chriw o blant ysgol

Trefnu ymweliad gan awdur neu ddarlunydd 

Os ydych chi’n hoffi’r syniad o drefnu ymweliad gan awdur neu ddarlunydd i’ch ysgol neu’ch llyfrgell chi ond yn ansicr am sut i fynd ati, peidiwch â phoeni. Mae’r cyfarwyddiadau isod yn egluro’n syml sut mae cynllunio ymweliad gan awdur, beth i’w wneud ar y diwrnod, a sut i helpu’ch myfyrwyr wneud y gorau o’r profiad.

Cysylltu ag awdur neu gyhoeddwr

Gallwch chwilio ar-lein am awduron neu ymweld â gwefannau cyhoeddwyr. Mae staff yn ein Hadran Plant a Hyrwyddo Darllen hefyd wrth law i roi cyngor os oes angen ar 01970 624151 neu cllc.plant@llyfrau.cymru.

Wrth gysylltu ag awdur neu gyhoeddwr i drefnu ymweliad gan awdur, rhowch gymaint o’r wybodaeth ganlynol â phosibl:

  • Manylion cyswllt llawn eich ysgol, gan gynnwys cyfeiriad post, enw’r cyswllt, cyfeiriad e-bost a rhif ffôn.
  • Enw’r awdur(on) sy’n ennyn eich diddordeb.
  • Y grŵp oedran yr hoffech i’r awdur siarad â nhw.
  • Nifer y plant a fydd yn bresennol.
  • Nifer y sesiynau yr hoffech i’r awdur eu cynnal (fel rheol, fydd awduron ddim yn gwneud mwy na thair sesiwn mewn diwrnod ar y mwyaf – bydd angen trafod y manylion gyda’r awdur unigol).
  • Y math o ddigwyddiad yr hoffech i’r awdur ei wneud. Er enghraifft, gweithdy neu sgwrs.
  • Lleoliad y digwyddiad (neuadd ysgol, llyfrgell neu ystafell ddosbarth).
  • Ffi yr awdur.

Ymgeisio am gefnogaeth ariannol

Mae Llenyddiaeth Cymru yn cynnig cefnogaeth ariannol o hyd at 50% tuag at ffioedd ymweld yr awduron. Mae’r broses ymgeisio yn syml, yn rhwydd ac yn gyflym.

Byddwch yn ymwybodol fod rhai awduron yn cael eu bwcio fisoedd ymlaen llaw. Fe’ch cynghorir bob amser i
drefnu ymweliad gan awdur o leiaf 2-3 mis cyn y dyddiad sydd gennych mewn golwg.

Paratoi ar gyfer y digwyddiad

I gael y budd mwyaf o ymweliad yr awdur, mae’n help mawr i baratoi’r plant ymlaen llaw. Mae awduron bob amser yn ddiolchgar iawn pan fydd eu gwaith wedi’i drafod cyn ymweliad, ac yn ein profiad ni mae’n galluogi’r plant i ymgysylltu’n llawnach â’r digwyddiad. Lle bo modd, rydym yn argymell eu bod yn darllen peth o’r llyfr, yn ymchwilio i’r awdur neu’n creu arddangosfa yn yr ystafell ddosbarth/llyfrgell. Hefyd, mae’n ddefnyddiol iawn os yw’r plant yn gallu meddwl am rai cwestiynau yr hoffent eu gofyn i’r awdur cyn yr ymweliad.

Wrth gyrraedd y digwyddiad

Mae hi bob amser yn braf i’r awduron dderbyn croeso brwd wrth gyrraedd digwyddiad. Mae cynnig paned o de neu goffi, cyflwyno aelodau’r staff a dangos y lleoliad, i gyd yn helpu’r awdur i deimlo’n gyffyrddus ac yn hamddenol cyn y digwyddiad.

Y digwyddiad ei hun

Bydd yr awdur fel arfer yn siarad am o ddeutu 45 munud gan adael 15 munud ar y diwedd ar gyfer cwestiynau (cyfanswm o awr). Bydd hyn yn amrywio ychydig yn ôl grŵp oedran y gynulleidfa. Mae arwyddo llyfrau fel arfer yn ychwanegol i’r amser hwn felly, dylech ofyn i’r awdur a yw hyn yn cyfrif fel rhan o awr y digwyddiad. Cofiwch, efallai y bydd angen offer ychwanegol ar yr awdur ar gyfer y sgwrs neu’r gweithdy. Er enghraifft, bydd angen offer ar awdur sy’n defnyddio cyflwyniad pwerbwynt, ac efallai y bydd eraill eisiau siart troi neu fwrdd. Dylai’r wybodaeth hon gael ei chadarnhau cyn y digwyddiad er mwyn cwrdd â’r holl ofynion. Dylid darparu gwydraid o ddŵr.

D.S. dylai athrawon/llyfrgellwyr fod yn bresennol drwy gydol y digwyddiadau hyn ac ni ddylid gadael yr awdur ar ei ben ei hun gyda’r plant. Os bydd y staff yn mwynhau eu hunain gymaint â’r plant, yna bydd pawb yn cael mwy allan o’r digwyddiad.

Gwerthu llyfrau

Er bod awduron a chyhoeddwyr yn llawn werthfawrogi na fydd pob plentyn sy’n mynychu’r digwyddiadau hyn yn dymuno neu’n gallu prynu llyfrau, gofynnwn eich bod yn cynnig yr opsiwn iddynt i brynu. Cysylltwch â’ch siop lyfrau leol a threfnwch ei bod yn rheoli gwerthiant y llyfrau yn y digwyddiad. Gallwch fod yn dawel eich meddwl fod hyn yn arfer cyffredin ac yn ffordd wych o greu perthynas dda â llyfrwerthwyr lleol. Dylai’r siop lyfrau fedru trefnu stoc, darparu aelod staff ar gyfer y gwerthu, a thrafod yr holl arian. Rydym yn argymell eich bod yn anfon llythyrau adref at rieni a gwarcheidwaid cyn y digwyddiad yn eu hysbysu y bydd llyfrau ar gael i’w prynu. Mae’n aml yn help os yw’r llyfrau ar werth ychydig ddyddiau cyn neu ar ôl y digwyddiad gan fod plant yn aml yn anghofio dod â’u harian ar y diwrnod ei hun, a bydd rhai’n penderfynu prynu llyfr ddim ond ar ôl clywed yr awdur yn siarad.

Llofnodi llyfrau

Mae awduron bob amser yn hapus iawn i lofnodi llyfrau mewn digwyddiadau. Fel arfer, bydd hyn yn digwydd ar ddiwedd y sesiwn. Gofynnwn i aelod o staff yr ysgol fod wrth law i drefnu bod y plant yn ffurfio ciw trefnus os ydynt am gael eu llyfrau wedi’u llofnodi, a dylent agor eu llyfrau ar yr wynebddalen yn barod i’r awdur. Mae hefyd yn help i lynu nodiadau gludiog ar y llyfrau gydag enw’r plentyn wedi’i ysgrifennu’n glir i atal unrhyw gamgymeriadau sillafu wrth lofnodi. Yn anffodus, ni ellir dychwelyd llyfrau wedi’u llofnodi i’r siop lyfrau na’r cyhoeddwr. Mae croeso mawr i’r plant ddod ag unrhyw un o lyfrau’r awdur sydd yn eu meddiant gartref, os ydynt am i’r rhain gael eu llofnodi hefyd. Tra’n llofnodi, mae’r awdur yn debygol iawn o werthfawrogi paned poeth!

Y peth pwysicaf yw bod pawb yn mwynhau’r digwyddiad a’i fod yn gam arall tuag at ysbrydoli pobl ifanc i afael mewn llyfr.

Os oes gennych chi unrhyw gwestiynau, mae croeso i chi gysylltu â ni yn y Cyngor Llyfrau a byddwn ni’n hapus iawn i helpu – 01970 624151 neu cllc.plant@llyfrau.cymru

Mae 99.4% o’r holl ysgolion sydd wedi cael ymweliad gan awdur yn ei ystyried yn brofiad amhrisiadwy sy’n annog disgyblion i ddarllen er pleser, i ddarllen yn ehangach ac i ysgrifennu’n greadigol.

Cymdeithas yr Awduron