Ein Newyddion
Cystadleuaeth #rhannwchStori #diwrnodyllyfr 2021
Mae rhannu straeon yn ffordd wych o ddathlu darllen gyda'n gilydd ar Ddiwrnod y Llyfr 2021. Felly rydyn ni'n gwahodd pawb i ymuno yn ein cystadleuaeth rhannu stori. Postiwch lun ohonoch chi yn rhannu stori gyda’r teulu, gyda’r gath neu yn darllen yn eich hoff leoliad! Cofiwch dagio @llyfrauCymru a chynnwys #rhannwchstori #diwrnodyllyfr #carudarllen Mae croeso i chi e-bostio'r llun atom – cllc.plant@llyfrau.cymru Gallai rhannu stori fod yn darllen gartref gyda'ch teulu, darllen yn eich hoff...

Dathlu llyfrau ar y llwyfan digidol
Bydd llyfrau o Gymru yn cael eu dathlu ar y llwyfan digidol ar Ddiwrnod y Llyfr eleni, dydd Iau 4 Mawrth 2021. Mewn partneriaeth rhwng Cyngor Llyfrau Cymru a phlatfform diwylliant aml-gyfrwng AM, bydd dathliad o ddarllen yn digwydd dros gyfnod o 12 awr ar amam.cymru o 9 y bore ymlaen ar Ddiwrnod y Llyfr. Ymhlith arlwy’r dydd bydd darlleniadau gan awduron, adolygiadau o lyfrau, argymhellion darllen a mwy gyda chyhoeddwyr, llyfrwerthwyr a mudiadau eraill ar draws Cymru yn ychwanegu deunydd...

Rhannu stori ar Ddiwrnod y Llyfr 2021
Mae Cyngor Llyfrau Cymru yn annog pobl ar hyd a lled Cymru i rannu stori i ddathlu Diwrnod y Llyfr 2021 ar ddydd Iau 4 Mawrth. Gallai rhannu stori gynnwys darllen gartref gyda'r teulu, darllen gyda ffrind dros y we, darllen yn eich hoff le, darllen mewn lleoliad anghyffredin, rhannu stori gydag anifail anwes a mwy! Gydag wythnos i fynd cyn y diwrnod mawr, mae’r Cyngor Llyfrau hefyd yn gofyn i bobl roi llun ar y cyfryngau cymdeithasol ohonyn nhw’n darllen yn ystod mis Mawrth, gan ddefnyddio’r...

Cynyddu caniatâd hawlfraint dros dro er mwyn cefnogi addysg plant
Mae caniatâd hawlfraint ar ailddefnyddio deunydd wedi’i gyhoeddi wedi’i gynyddu dros dro ar gyfer ysgolion a cholegau, yn dilyn ymdrechion gan Asiantaeth Trwyddedu Hawlfraint y CLA, Cyngor Llyfrau Cymru a’r diwydiant cyhoeddi. Wedi trafodaethau gyda’u haelodau, cyhoeddodd y CLA ar 9 Chwefror 2021 bod uchafswm y deunydd y gellid ei gopïo o dan eu Trwydded Addysg yn cynyddu dros dro - o'r 5% presennol i 20% tan 31 Mawrth 2021. Ac mae Cyngor Llyfrau Cymru wedi trefnu caniatâd arbennig gyda rhai o...

Cynllun Llyfrau Iechyd Da i gefnogi iechyd a lles plant
Mae Gweinidog Addysg Llywodraeth Cymru wedi lansio cynllun newydd o'r enw Iechyd Da i sicrhau fod pob ysgol gynradd yn derbyn pecyn arbennig o lyfrau sy’n cefnogi iechyd a lles plant. Gan gydweithio gyda Chyngor Llyfrau Cymru, mae Adran Addysg Llywodraeth Cymru yn ariannu pecyn o 41 o lyfrau i helpu plant i ddeall a thrafod materion iechyd a lles. Mae pob un o’r llyfrau wedi’u dewis gan banel arbenigol ac yn cynnwys amrywiaeth o lyfrau stori-a-llun a llyfrau pennod ar gyfer oedrannau rhwng 4 –...

Lansio platfform dwyieithog cyntaf Cymru ar gyfer e-lyfrau
Mae Cyngor Llyfrau Cymru wedi lansio platfform digidol newydd sbon ar gyfer e-lyfrau o Gymru. ffolio.cymru fydd y platfform dwyieithog cyntaf o’i fath i ganolbwyntio ar werthu e-lyfrau o Gymru i’r byd ehangach. Mae’r wefan ddielw yn cychwyn gyda dewis o dros 800 o deitlau ffuglen a ffeithiol ar gyfer plant ac oedolion, yn ogystal â llyfrau addysgol i blant yn Gymraeg a Saesneg. Mae dros 500 o’r llyfrau Cymraeg ar y wefan ar gael fel e-lyfrau am y tro cyntaf erioed, a bydd y ffigwr hwn yn...

DIWEDDARIAD – Sefyllfa’r siopau llyfrau – Ionawr 2021
Mae llyfrwerthwyr ar hyd a lled Cymru hefyd yn parhau i gymryd archebion ar-lein, dros y ffôn neu clicio-a-chasglu lle bo hynny'n bosibl. Mae llyfrwerthwyr ar hyd a lled Cymru hefyd yn parhau i gymryd archebion ar-lein, dros y ffôn neu clicio-a-chasglu. Os ydych chi am ddianc i fyd arall drwy gloriau llyfr da, mae gan y llyfrwerthwyr wledd o ddewis darllen ar eich cyfer. Maen nhw hefyd yn cynnig gwasanaeth personol unigryw a chyngor gwych ar beth i’w brynu. Mae manylion cyswllt ar gyfer siopau...

Swyddfeydd Castell Brychan a’r Ganolfan Ddosarthu
Bydd ein swyddfeydd a'r Ganolfan Ddosbarthu ar gau o brynhawn Mercher, 23 Rhagfyr 2020 ac yn ail agor ar 4 Ionawr 2021. Bydd ein swyddfeydd a'r Ganolfan Ddosbarthu ar gau o brynhawn Mercher, 23 Rhagfyr 2020 ac yn ail agor ar 4 Ionawr 2021. Carem ddymuno Nadolig dedwydd i chi a diolch am eich cenfogaeth o dan amgylchiadau tu hwnt o heriol yn 2020. Ymlaen â ni tuag at 2021!

Her Sgwennu Stori Aled Hughes
Mae Cyngor Llyfrau Cymru yn falch iawn o gefnogi cystadleuaeth ysgrifennu stori i ddisgyblion ysgolion cynradd Cymru sy’n cael ei threfnu gan BBC Radio Cymru. Fel rhan o ddigwyddiadau Diwrnod y Llyfr 2021, mae rhaglen foreol Aled Hughes yn galw ar blant rhwng 5-11 oed i ysgrifennu stori Cymraeg hyd at 500 gair ar thema "Y Llwybr Hud". Mae tri chategori ar gyfer oedrannau gwahanol, sef: • Cyfnod Sylfaen, sef 5-7 oed • Cyfnod allwedol 2a, 7-9 oed • Cyfnod allweddol 2b, 9-11 oed Bydd Aled yn...

Cartwnau Huw Aaron i godi gwên ar Ddiwrnod y Llyfr 2021
Mae Cyngor Llyfrau Cymru yn hynod o falch o gyhoeddi mai cyfrol llawn hwyl a sbri gan Huw Aaron fydd y llyfr £1 Cymraeg newydd ar gyfer Diwrnod y Llyfr 2021. Yn ei ffordd ddihafal ei hun, mae’r cartwnydd a’r darlunydd dawnus o Gaerdydd wedi mynd ati i greu Ha Ha Cnec i blant bach a mawr ei fwynhau ar Ddiwrnod y Llyfr nesaf sef 4 Mawrth 2021. Fel mae’r teitl yn ei awgrymu, bydd y gyfrol yn fwrlwm o jôcs a chartwnau doniol ynghyd ag ambell un o gymeriadau unigryw Huw. I ddathlu cyhoeddi’r teitl,...

Cofio Jan Morris 1926–2020
Ar 20 Tachwedd 2020, fe gollodd Cymru un o’i llenorion mawr pan fu farw Jan Morris yn 94 oed. Ar 20 Tachwedd 2020, fe gollodd Cymru un o’i llenorion mawr pan fu farw Jan Morris yn 94 oed. Yn newyddiadurwr, yn nofelydd, yn awdur llyfrau teithio ac yn hanesydd, fe ysgrifennodd dros 40 o lyfrau yn ystod ei hoes, yn cynnwys trioleg ar hanes yr Ymerodraeth Brydeinig, Pax Britannica (Faber, 1968, 1973, 1978); The Matter of Wales: Epic Views of a Small Country (Oxford University Press, 1984) a...









































Troi dalen newydd i gefnogi iechyd meddwl plant
Mae cynllun newydd yn cael ei lansio yng Nghymru i helpu plant i ddeall a rheoli eu hiechyd meddwl a'u lles drwy ddarllen. Mae'r rhaglen, sydd wedi cael ei datblygu a'i harwain gan weithwyr iechyd proffesiynol yn ogystal â phlant a'u teuluoedd, yn cael ei chyflwyno yng Nghymru gan yr elusen Asiantaeth Ddarllen mewn partneriaeth â Llywodraeth Cymru a llyfrgelloedd cyhoeddus. Fel rhan o Ddiwrnod Iechyd Meddwl y Byd, ar ddydd Sadwrn 10 Hydref, mae'r Asiantaeth Ddarllen a'r llyfrgelloedd cyhoeddus...


Cyhoeddi cyfrolau newydd yn sgil cynnal cyrsiau ysgrifennu a darlunio
Mae cyrsiau i ddatblygu awduron a darlunwyr newydd, a drefnwyd ar y cyd gan Gyngor Llyfrau Cymru a Llenyddiaeth Cymru, yn dechrau dwyn ffrwyth. Mae cyrsiau i ddatblygu awduron a darlunwyr newydd, a drefnwyd ar y cyd gan Gyngor Llyfrau Cymru a Llenyddiaeth Cymru, yn dechrau dwyn ffrwyth. Yn ystod y 12 mis diwethaf, mae nifer o lyfrau gwahanol wedi’u cyhoeddi neu ar fin eu cyhoeddi gan awduron a darlunwyr a fu ar y cyrsiau yng Nghanolfan Ysgrifennu Tŷ Newydd yn Llanystumdwy, Gwynedd. Cynhaliwyd...









































DIWEDDARIAD – Siopau Llyfrau Lleol sydd ar agor a/neu yn Gwerthu Ar-lein
Wrth i gyfyngiadau’r cyfnod clo ddechrau cael eu codi, mae siopau llyfrau wedi bod yn dechrau ailagor eu drysau ers dydd Llun 22 Mehefin 2020. Mae nifer yn parhau i werthu arlein hefyd, gan gynnig gwasanaeth clicio a chasglu, danfon yn lleol neu drwy’r post. Wrth i gyfyngiadau’r cyfnod clo ddechrau cael eu codi, mae siopau llyfrau wedi bod yn dechrau ailagor eu drysau ers dydd Llun 22 Mehefin 2020. Mae nifer yn parhau i werthu arlein hefyd, gan gynnig gwasanaeth clicio a chasglu, danfon yn...









































Teyrnged i Emyr Humphreys 1919–2020
Bu farw un o brif lenorion Cymru, yr awdur a’r bardd Emyr Humphreys, ar ddydd Mercher, 30 Medi 2020. Yn 101 oed, bu’n cyhoeddi ei waith dros gyfnod o saith degawd. Dyma deyrnged Cadeirydd y Cyngor Llyfrau, yr Athro M. Wynn Thomas, i’r gŵr a oedd yn gyfaill agos iddo ac yn un o Lywyddion Anrhydeddus Cyfeillion y Cyngor Llyfrau. Bu farw un o brif lenorion Cymru, yr awdur a’r bardd Emyr Humphreys, ar ddydd Mercher, 30 Medi 2020. Yn 101 oed, bu’n cyhoeddi ei waith dros gyfnod o saith degawd. Dyma...


Syniad Seran Dolma am nofel i oedolion ifanc yn cipio gwobr y Cyfeillion
Seran Dolma o Benrhyndeudraeth yw enillydd cystadleuaeth ar gyfer syniadau am nofelau Cymraeg i oedolion ifanc a drefnwyd gan Gyfeillion Cyngor Llyfrau Cymru. Seran Dolma o Benrhyndeudraeth yw enillydd cystadleuaeth ar gyfer syniadau am nofelau Cymraeg i oedolion ifanc a drefnwyd gan Gyfeillion Cyngor Llyfrau Cymru. Cafodd y newyddion ei gyhoeddi ar raglen Aled Hughes ar BBC Radio Cymru fore Mawrth, 29 Medi 2020. Bydd Seran, sy’n fam i ddau o blant 8 a 3 oed, yn derbyn gwobr o £1,000 gan y...


Haf o Ddarllen i Blant a Phobl Ifanc Ceredigion
Mae’r cyntaf o gant o becynnau o lyfrau darllen am ddim wedi cael eu hanfon at deuluoedd yng Ngheredigion yr wythnos hon. Mae’r cyntaf o gant o becynnau o lyfrau darllen am ddim wedi cael eu hanfon at deuluoedd yng Ngheredigion yr wythnos hon. Mewn partneriaeth newydd rhwng Cyngor Sir Ceredigion, Partneriaeth Rheilffyrdd y Cambrian a Chyngor Llyfrau Cymru, mae detholiad o chwe llyfr yn cael eu hanfon at 100 o blant a phobl ifanc sy’n derbyn gwasanaethau cymorth drwy’r awdurdod lleol. Mae’r...









































Lansio Sialens Ddarllen yr Haf 2020 heddiw
Heddiw, bydd Sialens Ddarllen yr Haf yn cael ei lansio gan y Gweinidog Addysg a’r Dirprwy Weinidog Diwylliant, Chwaraeon a Thwristiaeth. Heddiw, bydd Sialens Ddarllen yr Haf yn cael ei lansio gan y Gweinidog Addysg a’r Dirprwy Weinidog Diwylliant, Chwaraeon a Thwristiaeth. Nod y Sialens flynyddol yw cael plant rhwng 4 ac 11 oed i ddarllen chwe llyfr dros wyliau’r haf. Eleni mae’r Sialens yn symud i blatfform digidol, dwyieithog newydd, â chefnogaeth gwasanaethau e-fenthyca llyfrgelloedd,...


Gwobrau Tir na n-Og 2020 i Byw yn fy Nghroen a Pobol Drws Nesaf
Llyfrau’n ymdrin â rhai o bynciau mawr y dydd sydd wedi cipio Gwobrau Tir na n-Og 2020 am lenyddiaeth plant a phobl ifanc yn Gymraeg. Llyfrau’n ymdrin â rhai o bynciau mawr y dydd sydd wedi cipio Gwobrau Tir na n-Og 2020 am lenyddiaeth plant a phobl ifanc yn Gymraeg. Pobol Drws Nesaf gan Manon Steffan Ros a’r darlunydd Jac Jones a ddaeth i’r brig yn y categori Cymraeg oedran cynradd. Llyfr llun a stori ar gyfer plant 3–7 oed yw hwn, yn ein hannog i barchu pawb ac i beidio â beirniadu rhywun...


Storm Hound yn cipio gwobr Saesneg Tir na n-Og 2020
Yr awdur Claire Fayers yw enillydd gwobr Saesneg Tir na n-Og 2020 am ei stori antur ffantasïol sy’n cyfuno chwedloniaeth Nordig a Chymreig. Yr awdur Claire Fayers yw enillydd gwobr Saesneg Tir na n-Og 2020 am ei stori antur ffantasïol sy’n cyfuno chwedloniaeth Nordig a Chymreig. Roedd Storm Hound (Macmillan Children's Books) ymhlith pedwar o lyfrau Saesneg ac iddynt gefndir Cymreig dilys ar restr fer y gwobrau llenyddiaeth plant a phobl ifanc, sy’n cael eu trefnu’n flynyddol gan Gyngor Llyfrau...


Actorion Arad Goch yn dod â llyfrau Tir na n-Og yn fyw
Mae Cyngor Llyfrau Cymru a Chwmni Theatr Arad Goch wedi dod at ei gilydd i gynhyrchu darlleniadau o’r llyfrau Cymraeg i blant a phobl ifanc ar restr fer Gwobrau Tir na n-Og 2020. Mae Cyngor Llyfrau Cymru a Chwmni Theatr Arad Goch wedi dod at ei gilydd i gynhyrchu darlleniadau o’r llyfrau Cymraeg i blant a phobl ifanc ar restr fer Gwobrau Tir na n-Og 2020. Yn sgil gohirio pob cynhyrchiad theatrig yn ystod cyfnod clo’r coronafeirws, mae actorion Arad Goch yn Aberystwyth wedi bod yn perfformio ac...









































Datganiad Cyngor Llyfrau Cymru – 19 Mehefin 2020
Mae Cyngor Llyfrau Cymru yn croesawu’n gynnes gyhoeddiad y Prif Weinidog bod siopau llyfrau ymhlith y busnesau a fydd yn cael ailagor o ddydd Llun 22 Mehefin 2020. Diogelwch staff a chwsmeriaid sy’n dod yn gyntaf ar bob cyfrif, wrth gwrs, ac rydym wedi bod yn gweithio gyda llyfrwerthwyr wrth iddynt baratoi i ailagor yn ddiogel yn unol â chanllawiau Covid-19. Nid pob siop efallai fydd yn dewis agor ei drysau’n syth ac fe fydd nifer ohonynt yn addasu eu horiau a’u ffyrdd o weithio. Er bod y...


Pedwar o E-lyfrau Byr a Bachog ar gael am ddim
Bydd casgliad o lyfrau byr a bachog gan awduron o Gymru ar gael i’w lawrlwytho am ddim yr haf hwn. O stori garu i gariad at gŵn anhygoel, ac o heriau rhedeg eithafol i fyd coll, mae Cyngor Llyfrau Cymru wedi trefnu bod y pedwar teitl diweddaraf yn y gyfres boblogaidd Stori Sydyn ar gael fel e-lyfrau mewn cydweithrediad â chyhoeddwyr y gyfres, y Lolfa a Rily. Ac am gyfnod o un mis yn unig rhwng 8 Mehefin ac 8 Gorffennaf 2020, bydd modd eu lawrlwytho yn rhad ac am ddim oddi ar blatfform digidol...


Cyhoeddi Enillwyr Gwobrau Llyfrau Tir na n-Og ym mis Gorffennaf
Bydd enillwyr gwobrau llenyddiaeth plant a phobl ifanc Tir na n-Og yn cael eu cyhoeddi ym mis Gorffennaf 2020. Bydd dewis y beirniaid ar gyfer y llyfr gorau yn Saesneg gyda chefndir Cymreig dilys yn cael ei ddatgelu ar y BBC Radio Wales Arts Show am 6.30yh nos Wener 3 Gorffennaf 2020. Caiff y cyfrolau buddugol yn y categorïau Cymraeg ar gyfer oedrannau cynradd ac uwchradd eu cyhoeddi ar raglen gylchgrawn Heno ar S4C am 7yh nos Wener 10 Gorffennaf 2020. Dan ofal Cyngor Llyfrau Cymru, mae’r...


Mwy o Lyfrau Iechyd Meddwl ar gael yn y Gymraeg
Mae hunangofiant yr awdur arobryn Matt Haig am ei brofiad o iselder wedi’i gyfieithu i’r Gymraeg fel rhan o gynllun arloesol Darllen yn Well – Llyfrau ar Bresgripsiwn ar gyfer iechyd meddwl. Mae Reasons to Stay Alive gan Matt Haig, sydd i’w weld yn gyson ar restrau’r gwerthwyr gorau, ymhlith y cyfrolau hunangymorth diweddaraf i’w cyhoeddi yn y Gymraeg i helpu pobl i reoli cyflyrau iechyd meddwl cyffredin neu i ddelio â theimladau a phrofiadau anodd. Yn ystod Wythnos Ymwybyddiaeth Iechyd...


Gwylio Mawr ar Wersi Celf Ar-lein i Blant
Mae cyfres o sesiynau celf i blant gan un o brif gartwnwyr Cymru wedi cael eu gwylio dros 30,000 o weithiau ers eu lansio ar-lein ar ddechrau’r cyfnod o gau ysgolion oherwydd Coronafeirws. Mae cyfres o sesiynau celf i blant gan un o brif gartwnwyr Cymru wedi cael eu gwylio dros 30,000 o weithiau ers eu lansio ar-lein ar ddechrau’r cyfnod o gau ysgolion oherwydd Coronafeirws. Partneriaeth yw’r Criw Celf rhwng dau o gylchgronau plant Cymru sef Cip a Mellten, y darlunydd Huw Aaron, Urdd Gobaith...









































Prifysgol Cymru Y Drindod Dewi Sant a Chyngor Llyfrau Cymru yn dyfarnu ysgoloriaeth PhD ym maes Llenyddiaeth Plant
Ar Ddiwrnod Rhyngwladol Llyfrau Plant (Ebrill 2ail), mae’n bleser gan Brifysgol Cymru Y Drindod Dewi Sant mewn partneriaeth â Chyngor Llyfrau Cymru gyhoeddi eu bod wedi dyfarnu ysgoloriaeth PhD ym maes rhyngwladoli llenyddiaeth plant i Megan Farr o Benarth. Dros gyfnod o dair blynedd, bydd Megan Farr yn datblygu strategaeth ar gyfer rhyngwladoli straeon i blant ar gyfer y sector cyhoeddi yng Nghymru. Bydd yn ymchwilio’r strategaethau priodol sydd angen i’r sector gyhoeddi yng Nghymru eu...









































Siopau Llyfrau Lleol sy’n Gwerthu Ar-lein
Wrth i ni hunan-ynysu ac ymbellhau’n gymdeithasol, bydd nifer ohonon ni’n estyn am lyfr da. Ac er bod siopau llyfrau annibynnol ar hyd a lled Cymru wedi cau eu drysau dros dro yn unol â’r canllawiau swyddogol, y newyddion da yw bod nifer yn dal i gynnig gwasanaeth postio llyfrau arlein. Rydyn ni’n wedi tynnu’r manylion ynghyd ar y dudalen yma ac fe fyddwn yn diweddaru’r rhestr wrth i ni dderbyn gwybodaeth newydd. Gan fod hon yn sefyllfa sy’n datblygu’n gyflym, mae’n bosib na fydd y manylion...









































Cyllid Brys i’r Sector Llyfrau yng Nghymru
Mae Cyngor Llyfrau Cymru wedi croesawu cyllid brys o £150,000 gan Lywodraeth Cymru i helpu’r sector llyfrau yn ystod yr argyfwng coronafeirws presennol. Caiff y gronfa ei gweinyddu gan y Cyngor Llyfrau, yr elusen genedlaethol sy'n gyfrifol am gefnogi'r diwydiant llyfrau a hyrwyddo darllen yng Nghymru. Mae’r arian ychwanegol ar gyfer y sector llyfrau yn rhan o becyn cynhwysfawr o gymorth gwerth £18m ar gyfer y sector diwylliant, celfyddydau a chwaraeon yng Nghymru a gyhoeddwyd gan Lywodraeth...


Cyhoeddi Rhestr Fer Gwobrau Tir na n-Og 2020
Mae llyfrau sy’n mynd i’r afael â rhai o’r pynciau mawr sy’n poeni plant a phobl ifanc ymhlith y cyfrolau ar restr fer Gwobrau Tir na n-Og 2020 sy’n cael ei chyhoeddi heddiw (dydd Gwener, 27 Mawrth 2020). Mae’r rhestr fer o lyfrau Cymraeg yn y categori uwchradd yn ymdrin ag iechyd meddwl, anhwylderau bwyta a mewnfudo tra bod y categori cynradd yn cynnwys llyfrau stori am oddefgarwch, materoliaeth mewn cymdeithas a hanes menywod ysbrydoledig o Gymru. Straeon wedi’u lleoli ar hyd arfordir a...









































Coronafeirws: Diweddariad y Cyngor Llyfrau 24 Mawrth 2020
Yn dilyn cyflwyno mesurau llymach i geisio arafu lledaeniad coronafeirws, mae swyddfeydd y Cyngor Llyfrau yng Nghastell Brychan a’n Canolfan Ddosbarthu yn Aberystwyth bellach ynghau am o leiaf dair wythnos. Mae nifer o’n staff yn dal i weithio, gan gyflawni eu dyletswyddau o gartref wrth i ni barhau i wneud pob dim o fewn ein gallu i gefnogi’r diwydiant cyhoeddi mewn amgylchiadau eithriadol a sicrhau ein bod yn dod trwy’r cyfnod hwn. Golyga hyn y bydd y gwasanaethau canlynol ar gael o hyd i’r...









































Coronafirws: Diweddariad gan Gyngor Llyfrau Cymru
Mae Cyngor Llyfrau Cymru yn monitro datblygiadau yn ofalus ac yn cyflwyno cyfres o fesurau arbennig mewn ymateb i’r sefyllfa a’r canllawiau diweddaraf. Y nod yw cymryd camau priodol i sicrhau ein bod yn gallu parhau gyda’n gwaith pwysig o gefnogi’r diwydiant cyhoeddi wrth wneud pob dim sy’n ymarferol bosib i helpu lleihau lledaeniad posib y firws, a thrwy hynny gwarchod ein staff a’n rhanddeiliaid. • Mae ein Canolfan Ddosbarthu llyfrau ac adnoddau yn Glanyrafon, Aberystwyth, yn dal i weithredu...









































Cymorth ychwanegol ar gyfer y sector cyhoeddi yng Nghymru
Mae Llywodraeth Cymru wedi cyhoeddi cyllid cyfalaf ychwanegol ar gyfer Cyngor Llyfrau Cymru i fuddsoddi mewn systemau technoleg a fydd yn helpu'r diwydiant cyhoeddi yng Nghymru i dyfu. Mae £750,000 ychwanegol wedi cael ei sicrhau gan gyllideb 2020–21, a bydd yn caniatáu i Gyngor Llyfrau Cymru gyflwyno system TG integredig newydd i reoli'r gwaith o werthu, cyflenwi a dosbarthu llyfrau, a fydd hefyd yn cefnogi gwaith cyhoeddwyr Cymru. Mae £145,000 o gyllid cyfalaf ychwanegol i Gyngor Llyfrau...









































Darllenwyr Brwd Cymru yn Paratoi i Ddathlu Diwrnod y Llyfr 2020
Bydd darllenwyr brwd Cymru yn ymuno â’i gilydd i ddathlu Diwrnod y Llyfr, sy’n cael ei gynnal eleni ar 5 Mawrth 2020. Mae Cyngor Llyfrau Cymru yn gwahodd ysgolion, siopau llyfrau, colegau, llyfrgelloedd, busnesau a theuluoedd i ymuno â’r dathliad blynyddol mwyaf o lyfrau a darllen yng ngwledydd Prydain ac Iwerddon, drwy gymryd rhan mewn gweithgareddau a digwyddiadau ledled Cymru, yn ogystal â rhannu’r mwynhad o ddarllen. I nodi Diwrnod y Llyfr 2020, mae’r Cyngor wedi cyhoeddi y bydd dau lyfr...


Llwyfan i Iechyd Meddwl ar Ddiwrnod y Llyfr
Ydy llyfrau yn gallu helpu i leddfu problemau iechyd meddwl? Dyna’r cwestiwn a gaiff sylw eleni yn nigwyddiad blynyddol Diwrnod y Llyfr sy’n cael ei drefnu gan Gyngor Llyfrau Cymru. Yn Venue Cymru yn Llandudno ddydd Iau 5 Mawrth 2020, bydd panel o chwech arbenigwr yn trafod manteision ‘bibliotherapi’ lle caiff llyfrau hunangymorth eu defnyddio i gefnogi iechyd meddwl a lles. Mae ystod eang o lyfrau i’w cael fel rhan o gynllun Darllen yn Well - Llyfrau ar Bresgripsiwn, sy’n cyhoeddi cyfresi o...









































Hyfforddiant Rhyngwladol i Gyhoeddwyr Cymru
Daeth cynrychiolwyr o 12 o weisg o bob cwr o Gymru ynghyd yng Nghastell Brychan, Aberystwyth, ym mis Chwefror 2020 ar gyfer sesiwn hyfforddi arbennig ar safonau metadata rhyngwladol ar gyfer y sector llyfrau. Trefnwyd y digwyddiad gan Gyngor Llyfrau Cymru fel rhan o’u rhaglen hyfforddiant flynyddol ar gyfer y sector cyhoeddi. Cafodd yr hyfforddiant ei ddarparu gan sefydliad EDItEUR sy’n arbenigo ar fetadata, dynodwyr a safonau e-fasnach llyfrau – yn enwedig ONIX, sef y safon ryngwladol...









































Cyhoeddi enwau’r unigolion sydd wedi ennill lle ar Gwrs Ysgrifennu i Oedolion Ifanc
Mae Cyngor Llyfrau Cymru a Llenyddiaeth Cymru yn falch o gael cyhoeddi enwau’r unigolion sydd wedi ennill lle ar Gwrs Ysgrifennu i Oedolion Ifanc ym mis Chwefror 2020. Bydd y cwrs dwys yn darparu arweiniad gan arbenigwyr ar y grefft o ysgrifennu ar gyfer Oedolion Ifanc gyda’r gobaith o lenwi silffoedd siopau llyfrau’r dyfodol â chyhoeddiadau Cymraeg at ddant oedolion ifanc. Caiff y cwrs wythnos o hyd ei gynnal yng Nghanolfan Ysgrifennu Genedlaethol Tŷ Newydd a’i arwain gan ddwy awdur profiadol...









































Cyfri Stoc Blynyddol
Gofynnir yn garedig i chi nodi y bydd staff Canolfan Ddosbarthu'r Cyngor yn cynnal eu cyfrif stoc blynyddol o Ddydd Llun y 27ain tan dydd Mercher y 29ain o Ionawr, ac yn ystod yr amser yma ni fydd archebion yn cael eu prosesu.









































Darllen a Bwrw Bol!
Gwahoddiad arbennig i fod yn rhan o Wobr Tir na n-Og – Dewis y Darllenydd. Annwyl Ddarllenwyr, Yma yng Nghastell Brychan, pencadlys Cyngor Llyfrau Cymru, rydym wrthi’n brysur ar hyn o bryd yn paratoi ar gyfer Gwobrau Llyfrau Tir na n-Og, ac yn falch iawn o gynnig cyfle i chi fod yn rhan bwysig o’r broses. Bu ein panel o feirniaid swyddogol wrthi’n brysur dros gyfnod y Nadolig yn darllen yr holl lyfrau a gyflwynwyd i’w hystyried ar gyfer y rhestr fer. Cyhoeddir y rhestr honno ar 27 Mawrth, ar...









































Cyfeillion Cyngor Llyfrau Cymru yn chwilio am syniadau am nofelau i oedolion ifanc
Mae Cyfeillion Cyngor Llyfrau Cymru yn chwilio am syniadau am nofelau i oedolion ifanc mewn cystadleuaeth arbennig sy’n cynnig gwobr hael. Gofynnir i awduron anfon penodau cyntaf nofel Gymraeg i oedolion ifanc, yn ogystal â synopsis o weddill y nofel, drwy ebost erbyn 20 Chwefror 2020. Beirniedir y gystadleuaeth gan yr awdur Meinir Pierce Jones, y cyfansoddwr a’r cyn-lyfrgellydd Robat Arwyn Jones, a Gwawr Maelor, darlithydd mewn Addysg Gymraeg ym Mhrifysgol Bangor, mewn ymgynghoriad â chriw o...









































Golygathon Wici-Llên yn swyddfeydd Cyngor Llyfrau Cymru
Cynhelir Golygathon Wici-Llên, yn swyddfeydd Cyngor Llyfrau Cymru, Castell Brychan, Aberystwyth, dydd Gwener, 10 Ionawr 2020, rhwng 12:00 – 16:00. Nod y prosiect Wici-Llên yw creu a chyfoethogi gwybodaeth am lenyddiaeth Cymru ar lwyfannau Wicipedia a Wicidata. Cydlynir y prosiect gan Llyfrgell Genedlaethol Cymru a Menter Iaith Môn gyda chefnogaeth Llywodraeth Cymru. Bydd Jason Evans, Wicimediwr Cenedlaethol, Llyfrgell Genedlaethol Cymru, yn bresennol gan gynghori ar ffyrdd o baratoi a golygu...









































Cyngor Llyfrau yn Chwilio am y ‘Gryffalo’ Newydd
Mae Cyngor Llyfrau Cymru yn lansio cystadleuaeth newydd ar gyfer Eisteddfod yr Urdd 2020. Dyma gyfle euraid i ddarlunwyr rhwng 18 a 25 oed gynnig am y cyfle i weld eu gwaith celf rhwng dau glawr, a hynny ar y cyd â stori wreiddiol gan Manon Steffan Ros. Meddai Helen Jones, Pennaeth Adran Llyfrau Plant y Cyngor, "Y dasg yw creu llyfr ffug (dummy) yn cynnwys brasluniau pensil ar gyfer llyfr stori-a-llun i blant, yn ogystal â gwaith celf gorffenedig ar gyfer o leiaf bedair tudalen ddwbl. Bydd...









































Llyfr y Flwyddyn 2020
Llenyddiaeth Cymru yn cyhoeddi Categori Newydd Plant a Phobl Ifanc a Lleoliad y Seremoni Mae Llenyddiaeth Cymru wedi cyhoeddi categori newydd i Wobr Llyfr y Flwyddyn, sef categori Plant a Phobl Ifanc. Bydd y categori ychwanegol hwn yn ehangu cyrhaeddiad ac effaith y wobr drwy gynyddu cyfleoedd a chodi proffil awduron talentog Cymru. Mae’r datblygiad yma’n cefnogi gweledigaeth Cynllun Strategol 2019-22 Llenyddiaeth Cymru, i ysbrydoli ac annog cenedlaethau newydd o ddarllenwyr creadigol...









































Gŵyl Lyfrau Aberaeron 1-3 Tachwedd
Digwyddiad am ddim; Ffair Lyfrau; Darlleniadau; Arwyddo Llyfrau a mwy... Dydd Gwener 1 Tachwedd am 7:30yh - Barddoniaeth a Cherddoriaeth yng Ngwesty Monachty Dydd Sadwrn 2 Tachwedd 11yb-5yp a dydd Sul 10yb-4yp - Ffair Lyfrau yn y Neuadd Goffa Awduron yn bresennol – Alun Davies; Alys Einion; Chris Armstrong; Colin R Parsons; Daniel Davies; Derek Moore Geraint Evans; Huw Davies; Ifan Morgan Jones; Jackie Biggs; Jacqueline Jeynes; John M Hughes Karen Gemma Brewer; Kathy Miles; Lazarus Carpenter;...









































Ar eich marciau, barod, ewch:
#Her100Cerdd yn dychwelyd i ddathlu Diwrnod Cenedlaethol Barddoniaeth Mae Llenyddiaeth Cymru yn falch o gyhoeddi y bydd Her 100 Cerdd yn dychwelyd unwaith eto eleni, a hynny am y seithfed tro. Yn unol â’r arfer, mae pedwar bardd wedi eu herio i gyfansoddi 100 o gerddi gwreiddiol mewn 24 awr. Y pedwar dewr eleni yw Beth Celyn, Dyfan Lewis, Elinor Wyn Reynolds a Matthew Tucker. Bydd gofyn i bob un o’r pedwar bardd ysgrifennu o leiaf un gerdd bob awr i gyflawni’r Her 100 Cerdd mewn da bryd. Mae...









































Sut dwi’n teimlo
Mae gwasg Rily ar fin cyhoeddi cyfrol arloesol sy’n cyflwyno hanfodion amryw o emosiynau sylfaenol, gan gynnwys dicter, hapusrwydd, cenfigen, ofn a phryder. Wrth i ystadegau diweddar awgrymu bod gorbryder ar gynnydd ymhlith plant ifanc, mae’n amlwg fod yna angen gwirioneddol am adnoddau a llenyddiaeth addas i geisio helpu plant i ddod i ddeall a dygymod â’u teimladau, er lles eu hiechyd meddwl. Mae gwasg Rily ar fin cyhoeddi cyfrol arloesol sy’n cyflwyno hanfodion amryw o emosiynau sylfaenol,...









































Cyhoeddi mai’r Children’s Laureate Wales cyntaf erioed yw Eloise Williams
Mae Llenyddiaeth Cymru wedi cyhoeddi mai'r awdur plant poblogaidd o Sir Benfro, Eloise Williams, yw'r Children's Laureate Wales cyntaf erioed. Nod y rôl lysgenhadol newydd hon yw ymgysylltu â ac ysbrydoli plant Cymru drwy lenyddiaeth, ac i hyrwyddo hawl plant i fynegi eu hunain. Cyhoeddwyd y newyddion ddydd Mercher 18 Medi o flaen 150 o ddisgyblion yn Ysgol Gynradd Parc Jiwbilî yng Nghasnewydd. Eloise yw Llysgennad Darllen yr ysgol ac yn dilyn y cyhoeddiad, bu’n rhan o agoriad swyddogol...









































RYGBI
Rygbi – y llyfr sy’n cynnwys popeth sydd angen ei wybod am fyd rygbi, o sut i chwarae, i chwaraewyr eiconig, Cwpan y Byd, timau arwrol, yn ogystal â ffeithiau a ffigyrau i’n cyffroi ni i gyd wrth sôn am y gêm anhygoel hon – ein gêm genedlaethol ni fel Cymry! Cyhoeddir y llyfr clawr caled arbennig hwn gan Rily Publications mewn da bryd ar gyfer Cwpan Rygbi’r Byd 2019 yn Japan. Mae’n cynnwys cyfoeth o ffeithiau, ystadegau a gwybodaeth, lluniau a ffotograffau’n ymwneud â phob agwedd ar y gêm...









































Datblygiadau yng Ngwasg Gomer, Ymateb y Cyngor Llyfrau
Mae Cyngor Llyfrau Cymru yn ymwybodol o benderfyniad Gwasg Gomer i roi’r gorau i gomisiynu teitlau newydd. Gwnaeth Gomer gyfraniad aruthrol i gyhoeddi yng Nghymru. Mae’n gartref i rai o’n prif awduron a’n llyfrau mwyaf nodedig. A thra’n bod ni’n siomedig iawn gyda’r datblygiad hwn rydym yn falch bod Gomer yn parhau i ofalu am y miloedd o deitlau ac awduron pwysig sydd yn eu ôl-restr a sicrhau y bydd teitlau poblogaidd yn aros mewn print. Byddwn yn parhau i gydweithio gyda Gwasg Gomer dros y...









































Cyngor Llyfrau yn chwilio am y ‘Gryffalo’ Newydd
Mae Cyngor Llyfrau Cymru yn lansio cystadleuaeth newydd ar gyfer Eisteddfod yr Urdd 2020. Dyma gyfle euraid i ddarlunwyr rhwng 18 a 25 oed gynnig am y cyfle i weld eu gwaith celf rhwng dau glawr, a hynny ar y cyd â stori wreiddiol gan Manon Steffan Ros. Meddai Helen Jones, Pennaeth Llyfrau Plant y Cyngor, ‘Y dasg yw creu llyfr ffug (dummy) yn cynnwys brasluniau pensil ar gyfer llyfr stori-a-llun i blant, yn ogystal â gwaith celf gorffenedig ar gyfer o leiaf bedair tudalen ddwbl. Bydd geiriau...









































Medal Ryddiaith 2019
Enillydd y Fedal Ryddiaith 2019 yw Rhiannon Ifans am ei nofel, Ingrid. Rhiannon Ifans yw enillydd y Fedal Ryddiaith yn Eisteddfod Genedlaethol Conwy 2019, gyda’i nofel ‘Ingrid’. Gofynion y gystadleuaeth oedd cyfrol o ryddiaith greadigol heb fod dros 40,000 o eiriau ar y thema 'Cylchoedd'. Beirniaid y gystadleuaeth oedd Mererid Hopwood, Alun Cob ac Aled Islwyn. ‘Gwaith llenor arbennig iawn, un crefftus a gwreiddiol’. Mererid Hopwood ‘Awdur [sy’n] feistr ar ei grefft... Campus!’ Alun Cob ‘Mae...









































Gwobr Goffa Daniel Owen 2019
Enillydd Gwobr Goffa Daniel Owen 2019 yw Guto Dafydd am ei nofel, Carafanio. Guto Dafydd yw enillydd Gwobr Goffa Daniel Owen yn Eisteddfod Genedlaethol Conwy, 2019, a hynny am nofel o’r enw Carafanio. Gofynion y gystadleuaeth oedd nofel heb ei chyhoeddi gyda llinyn storïol cryf a heb fod yn llai na 50,000 o eiriau. Beirniaid y gystadleuaeth oedd Haf Llewelyn, Dyfed Edwards a Llwyd Owen. ‘Dyma nofel wirioneddol wych ' Llwyd Owen ‘Stori syml ar yr wyneb am deulu cyffredin yn mynd ar...









































Plant Cymru yn Mentro i’r Gofod wrth i Sialens Ddarllen yr Haf Gychwyn
Paratowch i ddathlu ugeinfed pen-blwydd Sialens Ddarllen yr Haf a mynd ar Ras Ofod. Cafodd y sialens ei lansio gan yr Arglwydd Elis-Thomas, y Dirprwy Weinidog Diwylliant, Chwaraeon a Thwristiaeth, yn Llyfrgell y Drenewydd ddydd Gwener, 12 Gorffennaf 2019, yng nghwmni’r awdur a’r darlunydd poblogaidd Max Low. Teitl Sialens Ddarllen yr Haf eleni yw Ras Ofod, sy’n cyd-fynd â dathlu 50 mlynedd ers y glaniad ar y lleuad. Wedi’i chymeradwyo gan rieni, athrawon, Cyngor Llyfrau Cymru a...









































Pencampwyr Darllen Dros Gymru
Roedd Canolfan y Celfyddydau yn Aberystwyth dan ei sang gan blant o bob cwr o Gymru ar 25 a 26 Mehefin pan ddaethant yn eu cannoedd i ddathlu darllen yn rowndiau cenedlaethol Darllen Dros Gymru, cystadlaethau a drefnwyd gan Gyngor Llyfrau Cymru ar gyfer plant oedran cynradd. Roedd 34 o dimau o ysgolion ledled Cymru yn ymgiprys am y teitl Pencampwyr Darllen Dros Gymru 2019. Rowndiau cenedlaethol y cystadlaethau yw penllanw’r gweithgareddau sy’n digwydd drwy Gymru dros sawl mis, gyda disgyblion...









































Llyfrau, yn Aml, yw’r Moddion Gorau: Pennod Newydd i Bresgripsiynau Iechyd Meddwl yng Nghymru
O'r 26ain Mehefin ymlaen, bydd gweithwyr iechyd proffesiynol yng Nghymru yn gallu rhoi llyfrau llyfrgell am ddim ar bresgripsiwn i gynorthwyo pobl i reoli eu hiechyd meddwl neu i ddelio â theimladau a phrofiadau anodd yn yr hyn y mae’r arbenigwyr sydd y tu ôl i’r cynllun yn ei alw’n ‘fibliotherapi’. Datblygwyd cynllun Darllen yn Well: Llyfrau ar Bresgripsiwn ar gyfer Iechyd Meddwl gan The Reading Agency a llyfrgelloedd cyhoeddus, sefydliadau iechyd blaenllaw gan gynnwys Coleg Brenhinol y...









































Llyfrau Newydd Dan yn Cynllun Darllen yn Well
Mae Cyngor Llyfrau Cymru yn ymfalchïo yn y newyddion fod yr addasiadau Cymraeg cyntaf ar iechyd meddwl yn y cynllun Darllen yn Well – Llyfrau ar Bresgripsiwn wedi’u cyhoeddi. Drwy gydweithio â chwmni cyfieithu Testun, llwyddwyd i gyfieithu’r pedwar teitl cyntaf o blith ugain o lyfrau i’r Gymraeg, yn barod ar gyfer eu lansio gan The Reading Agency yng Nghaerdydd ar 26 Mehefin. Y llyfrau, a gyhoeddwyd gan y Lolfa, yw: Cyflwyniad i Ymdopi â Gorbryder Cyflwyniad i Ymdopi â Galar Cyflwyniad i...









































Darllenwyr Brwd yn Cyrraedd y Brig
Cafodd tîm o ddarllenwyr brwd o Ysgol Gynradd Parc Cyfarthfa, Merthyr Tydfil, eu coroni’n Bencampwyr 2019 BookSlam, cystadleuaeth ddarllen y Cyngor Llyfrau i blant yn seiliedig ar lyfrau Saesneg o Gymru. Cynhaliwyd y rownd genedlaethol yn Aberystwyth yn ddiweddar, a gwelwyd cannoedd o ddisgyblion cynradd o bob cwr o Gymru’n cystadlu i fod yn bencampwyr cenedlaethol. Eu tasg oedd creu argraff ar y beirniaid mewn dwy rownd – sef trafodaeth am 10 munud, a chyflwyniad dramatig yn para 8 munud, yn...









































Fi a Joe Allen yn rhoi Cymru ar y Map… ond beth am Llyfr Glas Nebo?
Cyhoeddir enwau enillwyr Gwobrau Cymraeg Tir na n-Og 2019 Cyngor Llyfrau Cymru o lwyfan Eisteddfod yr Urdd, Caerdydd a'r Fro, brynhawn Iau, 30 Mai. Cyhoeddir enwau enillwyr Gwobrau Cymraeg Tir na n-Og 2019 Cyngor Llyfrau Cymru o lwyfan Eisteddfod yr Urdd, Caerdydd a'r Fro, brynhawn Iau, 30 Mai. Enillwyr y categori cynradd yw Elin Meek o Gaerfyrddin a Valériane Leblond o Langwyryfon, am y gyfrol Cymru ar y Map (Rily), llyfr atlas darluniadol sy’n dangos Cymru ar ei gorau. Enillydd y categori...









































Catherine Fisher a’i nofel The Clockwork Crow yn cipio gwobr llenyddiaeth plant Tir na n-Og
Dirgelwch hudolus llawn eira a sêr gan storiwraig feistrolgar. Mewn digwyddiad arbennig a gynhaliwyd eleni yn Ysgol Newyddiaduraeth, y Cyfryngau a Diwylliant, Prifysgol Caerdydd ar 16 Mai, fel rhan o Gynhadledd CILIP Cymru (Sefydliad Siartredig Llyfrgellwyr a Gweithwyr Gwybodaeth Proffesiynol Cymru), cyflwynwyd y wobr i Catherine Fisher am ei nofel The Clockwork Crow, a gyhoeddir gan Wasg Firefly. Bob blwyddyn ers ei sefydlu ym 1976, mae Cyngor Llyfrau Cymru wedi dathlu’r teitl Saesneg gorau...









































Horatio Clare, Syr Simon Jenkins a Clare Mackintosh yw prif berfformwyr ail Ŵyl Llên Maldwyn
Mae manylion y rhaglen lawn ar gyfer Gŵyl Llên Maldwyn eleni wedi'u rhyddhau, gyda rhestr ddisglair o awduron blaenllaw yn cynnwys Horatio Clare, Syr Simon Jenkins a Clare Mackintosh. Datganiad i’r wasg Bellach yn ei hail flwyddyn, bydd Gŵyl Llên Maldwyn 2019 yn cael ei chynnal yn ystod y penwythnos 14-16eg Mehefin ym mhlas gwych ac hanesyddol Gregynog, ger y Drenewydd. Fel yr Ŵyl agoriadol y llynedd, mae’r digwyddiad yn dathlu awduron sydd â chysylltiadau personol a llenyddol â Chymru a’r...









































Rhestr Fer Gwobr Llyfr y Flwyddyn 2019
Mae Llenyddiaeth Cymru wedi cyhoeddi heddiw pa gyfrolau sydd wedi cyrraedd Rhestr Fer Gwobr Llyfr y Flwyddyn 2019 yn Gymraeg ac yn Saesneg. Mae Llenyddiaeth Cymru wedi cyhoeddi heddiw pa gyfrolau sydd wedi cyrraedd Rhestr Fer Gwobr Llyfr y Flwyddyn 2019 yn Gymraeg ac yn Saesneg. Dyfernir y Gwobrau i'r gweithiau gorau ym meysydd ysgrifennu creadigol a beirniadaeth lenyddol o fewn tri chategori: Barddoniaeth, Ffuglen a Ffeithiol Greadigol. Mae'r rhestrau byrion Cymraeg a Saesneg eleni yn cynnwys...









































Cyhoeddi enillydd gwobr Cyfraniad Oes gwyl Bedwen Lyfrau 2019
Enillydd Gwobr Cyfraniad Oes y Fedwen Lyfrau eleni yw’r bardd, llenor, addysgwr a’r pregethwr o Wrecsam, Aled Lewis Evans. Er mai gyda ardal Maelor y cysylltir Aled yn bennaf erbyn hyn, bu’n byw ym Machynlleth, Llandudno, a’r Bermo wrth i waith ei dad fel postfeistr arwain y teulu o le i le. Mae’n gyn-ddisgybl yn Ysgol Morgan Llwyd ac yn gyn-fyfyriwr ym Mhrifysgol Bangor. Ers cyhoeddi ei gyfrol gyntaf, Tre’r Ffin, ym 1983, cyhoeddodd naw cyfrol o farddoniaeth Gymraeg. Cyrhaeddodd y diweddaraf,...