Ar 30 Gorffennaf, fe gollodd Cymru un o’i gymwynaswyr mawr i fyd llyfrau plant pan fu farw Roger Boore yn 82 oed.

Ganed Roger Boore yng Nghaerdydd yn 1938. Roedd ganddo radd yn y Clasuron o Rydychen, PhD mewn Hanes o Brifysgol Cymru Abertawe ac roedd yn Gyfrifydd Siartredig. Dychwelodd i Gymru gan ddysgu’r Gymraeg yn ei arddegau, a magu teulu yng Nghaerdydd.

Sefydlodd Wasg y Dref Wen gyda’i wraig Anne yn 1969 yn bennaf ar gyfer cyhoeddi llyfrau Cymraeg i blant. Sylweddolodd gyn lleied o lyfrau Cymraeg oedd ar gael i blant a pha mor llwm oedd eu diwyg. Dyfarnwyd iddo Dlws Mary Vaughan Jones yn 1997 am ei ‘gyfraniad nodedig i faes llyfrau plant yng Nghymru dros gyfnod o flynyddoedd’, ac fe’i hanrhydeddwyd yn aelod o’r Orsedd am ei ‘gyfraniad arbennig i Gymru a’r Gymraeg’ yn 2016.

Yn ddiweddarach, arloesodd Roger Boore ym maes teithlyfrau llenyddol Cymraeg gan dderbyn canmoliaeth uchel amdanynt. Cyhoeddodd nofel i blant, Y Bachgen Gwyllt, ynghyd â chasgliad o straeon byrion, Ymerodraeth y Cymry, yn ogystal â throsi llawer o lyfrau plant o sawl iaith i’r Gymraeg, gan gynnwys rhai Asterix a Tintin, a’r clasur Y Teigr a Ddaeth i De.

Cyhoeddodd nifer o lyfrau megis Llyfr Hwiangerddi y Dref Wen, y Geiriadur Lliwgar, a’r cyfresi Storïau Hanes Cymru ac O’r Dechrau i’r Diwedd.

Yma mae Cadeirydd yr Is-bwyllgor Hyrwyddo Darllen a Llyfrau Plant, Lorna Herbert Egan; Dr Siwan Rosser, Darlithydd ym Mhrifysgol Caerdydd ac arbenigwraig ym maes Llenyddiaeth Plant yng Nghymru; a Helen Jones, Pennaeth Adran Llyfrau Plant a Hyrwyddo Darllen, yn talu teyrnged i’r cyhoeddwr toreithiog.

“Mawr yw diolch Cymru i’r diweddar Roger Boore am ei weledigaeth a’i weithgarwch arloesol wrth sefydlu Gwasg y Dref Wen, ac am ei athrylith a’i lafur yn dethol a darparu llenyddiaeth plant lliwgar ac amrywiol i ddiddanu a sbarduno cenedlaethau o ddarllenwyr. Gwnaeth gyfraniad amhrisiadwy o ran y dewis safonol a hwyliog sy’n cydio yn nychymyg unigolion a’u chwant am ddysgu a chael hwyl, a bu’n ddylanwad clodwiw ym myd cyhoeddi. Dwys yw’r cydymdeimlad â’i weddw Anne, ac Alun, Gwilym a Rhys a’r rhai fu’n rhannu ei siwrnai.” – Lorna Herbert Egan

“Mae gen i gof plentyn byw iawn o lyfrau’r Dref Wen. Roedd chwilio am y chwaden fach Y Geiriadur Lliwgar yn antur barhaus, y Llyfr Hwiangerddi yn gydymaith hardd, a chymeriadau Ifan Bifan, Asterix a Pippi’n agor fy nychymyg i fydoedd eraill. Roedd hi’n fraint, felly, cael dod i adnabod Roger yn y blynyddoedd diwethaf a gwerthfawrogi ei gamp aruthrol, yn arbennig ym maes addasu llyfrau plant o ieithoedd rhyngwladol. Rhoddodd ei weledigaeth a’i egni gyfle i ni, blant, gael mynediad i ddiwylliant llenyddol a darluniadol y tu hwnt i’n ffiniau, a gosododd safon i’r diwydiant cyhoeddi ymgyrraedd ati. Cofiwn yn annwyl am Roger, gan gydymdeimlo’n ddiffuant â theulu’r Dref Wen.” – Dr Siwan Rosser

“Roedd Roger Boore, Gwasg y Dref Wen, yn arloeswr ym maes cyhoeddi i blant. Bydd colled ar ei ôl ond mae’n gadael gwaddol cyfoethog o lyfrau wedi’u cynhyrchu i’r safon orau o ran diwyg a chynnwys ar gyfer plant Cymru. Cydymdeimlwn a’i deulu – Anne, Alun, Gwilym a Rhys.” – Helen Jones