Straeon Campus – Cwpan y Byd 2022

Straeon Campus – Cwpan y Byd 2022

Cyngor Llyfrau Cymru yn rhan o ymgyrch Llywodraeth Cymru ‘i fynd â Chymru i’r Byd’

Fel rhan o Gronfa Cefnogi Partneriaid Cwpan y Byd Llywodraeth Cymru, mae Cyngor Llyfrau Cymru ymhlith y 19 sefydliad sy’n cefnogi tîm Cymru wrth iddynt fynd i Qatar ym mis Tachwedd.

Cyhoeddodd y Gweinidog yr Economi, Vaughan Gething, enwau’r prosiectau a fydd yn hybu a dathlu Cymru yn y twrnament. Bydd cyfanswm o £1.8 miliwn yn cael ei rannu ymhlith 19 prosiect, gan helpu i rannu gwerthoedd a gwaith ein cenedl i sicrhau gwaddol cadarnhaol a pharhaol i Gymru a phêl-droed yng Nghymru.

Mae Cyngor Llyfrau Cymru wedi cael arian i ddarparu llyfrau ar thema pêl-droed am ddim i lyfrgelloedd a banciau bwyd ledled Cymru, er mwyn dod â hud pêl-droed i ddarllenwyr a dathlu campau tîm Cymru.

Dywedodd Helgard Krause, Prif Weithredwr y Cyngor Llyfrau: “Rydyn ni wrth ein bodd i gael bod yn rhan o’r rhaglen gyffrous yma ac i ddefnyddio angerdd y dathliad o lwyddiant Cymru yng Nghwpan y Byd i sbarduno cariad at ddarllen a helpu pobl ifanc i ddatblygu eu sgiliau llythrennedd.

Mae gan ddarllen a gweithgarwch corfforol rôl bwysig i’w chwarae yn ein hiechyd a’n lles ac mae Straeon Campus yn dod â’r ddwy elfen at ei gilydd. Boed yn helpu cefnogwyr pêl-droed i ddarganfod llyfrau y byddan nhw’n eu caru, neu’n darparu rhywfaint o ysbrydoliaeth i annog cyfranogiad mewn pêl-droed, gemau a chwaraeon, bydd plant a phobl ifanc yn gallu dewis o ddetholiad eang o lyfrau ar thema pêl-droed i’w mwynhau yn ystod Cwpan y Byd ac i ddathlu lle Cymru yn y twrnament.”

Bydd prosiect Straeon Campus y Cyngor Llyfrau yn darparu detholiad o lyfrau diweddar ar thema pêl-droed, yn y Gymraeg a’r Saesneg, i lyfrgelloedd awdurdodau lleol ac i fanciau bwyd ledled Cymru. Bydd y llyfrau ar gael o ddechrau mis Tachwedd a bydd ystod eang o deitlau ar gyfer pob gallu darllen, o’r Cyfnod Sylfaen i oedolion. Bydd rhagor o wybodaeth ar gael ar wefan y Cyngor Llyfrau.

Yn ei ddatganiad dywedodd Vaughan Gething: “Mae Llywodraeth Cymru wedi sefydlu ystod uchelgeisiol a chyffrous o weithgareddau i wneud yn fawr o’r cyfle unigryw a gynigir gan dîm pêl-droed dynion Cymru’n cymeryd rhan yng Nghwpan y Byd FIFA.

Dyma’r cyfle mwyaf arwyddocaol o ran marchnata a diplomyddiaeth chwaraeon a gyflwynwyd erioed i Lywodraeth Cymru o ystyried proffil y digwyddiad.

Rydym yn benderfynol o elwa ar y llwyddiant hanesyddol hwn a sicrhau buddion gwirioneddol i bobl yma yng Nghymru.”

Archwilio’r byd

Hanes ein Byd ar y Map

add. gan Siân Lewis

Canllaw gwreiddiol i’n byd ar gyfer plant 9-12 oed, sef plethiad llawn gwybodaeth o feysydd daearyddiaeth, hanes a gwleidyddiaeth a gyflwynir drwy ddwsin o fapiau lliw.

Dewch i Deithio: Brasil

gan Anni Llŷn, Sioned V. Hughes

Dewch i deithio gyda Min a Mei wrth iddyn nhw gyflwyno diwylliannau ac ieithoedd gwahanol wledydd mewn modd deniadol, hudol a diddorol. Beth ydy’r ‘Sambadrome’? Pa fath o anifeiliaid sy’n byw yn yr Amason?

Dyma Ni

add. gan Eurig Salisbury

Gall y byd hwn fod yn lle dryslyd iawn weithiau, yn enwedig os wyt ti newydd gyrraedd. Tyrd i weld y blaned lle ry’n ni’n byw, er mwyn ateb rhai o’r cwestiynau sy’n berwi yn dy ben. O’r tir a’r môr i bobl ac amser, gall y llyfr hwn dy roi ar ben ffordd. Byddi di’n dod i ddeall rhai pethau ar dy ben dy hun hefyd. Ond cofia adael nodiadau ar gyfer pawb arall…

Neidia, Sgwarnog, Neidia!

add. gan Anwen Pierce 

Neidia law-ym-mhawen gyda Sgwarnog i gwrdd â’i pherthnasau yng ngwledydd America, Japan, Ewrop a’r Arctig, yn y stori delynegol hon am gynefinoedd ac ysglyfaethwyr ledled y byd.

Seren a Sbarc a'r Pei(riant) Amser

gan Elidir Jones

200g o flawd. 50g o fenyn. 500g o siwgwr. 4 wy. Un cloc a dau arwr twp. Dyna i gyd sydd ei angen ar gyfer gwibdaith wyllt trwy hanes Cymru – a’r peiriant amser mwyaf blasus erioed! Deinosoriaid, môr-ladron, tywysogion ac arwyr lu… ond a fydd Seren a Sbarc yn cyrraedd adref mewn amser?

Archwilio eich Dychymyg

Môr ac Awyr / Ocean Meets Sky

add. gan Tudur Dylan Jones

Mae Gwern yn cofio gwrando ar ei daid yn adrodd straeon am fan lle mae’r môr yn cwrdd â’r awyr, lle mae morfilod a slefrod yn hedfan ac mae adar a chestyll yn arnofio. A’i daid bellach wedi mynd, er mwyn cofio amdano, mae Gwern am adeiladu cwch a dod o hyd i’r man hudol hwnnw. Ac ar y daith, efallai daw Gwern o hyd i rywbeth …

Y Soddgarŵ

gan Manon Steffan Ros

Paid â mynd i’r goedwig! dywedodd pawb. Yn fan’na mae’r Soddgarŵ yn byw! Ro’n i’n gwybod y ffordd drwy’r caeau, felly i ffwrdd â fi…

Rali'r Gofod 4002

add. gan Huw Aaron, Elidir Jones

Ymunwch â Iola a’i chriw o robotiaid ac estronwyr wrth iddyn nhw gystadlu yn ras fwyaf peryglus y bydysawd.

Hedyn

gan Caryl Lewis

Ar ei ben-blwydd mae Marty yn derbyn hedyn gan ei dad-cu – hedyn hudol. Nofel ddoniol, anghyffredin, sy’n ysbrydoli ac yn codi pynciau dwys. Mae Hedyn yn stori am wireddu breuddwydion.

Tomos Llygoden y Theatr a Feiolet Pot Blodau

gan Caryl Parry Jones, Craig Russell

Feiolet Pot Blodau yw hoff lanhawraig y llygod yn y theatr. Mae hi’n glên ac yn garedig ac yn casglu llwyth o sbarion bwyd i’r llygod. Ond dydi hi’n fawr o ddynes lanhau – i fod yn onest hi ydi’r ddynes lanhau waethaf yn y byd i gyd. Mae hi’n flêr ac yn drwsgl, ac yn gwneud mwy o lanast na’i glirio! All Tomos a’i ffrindiau ddod o hyd i ffordd i gadw swydd Feiolet?