Syniad Seran Dolma am nofel i oedolion ifanc yn cipio gwobr y Cyfeillion

Syniad Seran Dolma am nofel i oedolion ifanc yn cipio gwobr y Cyfeillion

Seran Dolma o Benrhyndeudraeth yw enillydd cystadleuaeth ar gyfer syniadau am nofelau Cymraeg i oedolion ifanc a drefnwyd gan Gyfeillion Cyngor Llyfrau Cymru.

Seran Dolma o Benrhyndeudraeth yw enillydd cystadleuaeth ar gyfer syniadau am nofelau Cymraeg i oedolion ifanc a drefnwyd gan Gyfeillion Cyngor Llyfrau Cymru.

Cafodd y newyddion ei gyhoeddi ar raglen Aled Hughes ar BBC Radio Cymru fore Mawrth, 29 Medi 2020.

Bydd Seran, sy’n fam i ddau o blant 8 a 3 oed, yn derbyn gwobr o £1,000 gan y Cyfeillion, ynghyd â chyfle am gyngor ar sut i ddatblygu ei gwaith yn nofel ar gyfer ei chyhoeddi.

Cafwyd ymateb ardderchog i’r gystadleuaeth, gydag 21 o geisiadau yn dod i law’r panel beirniaid oedd yn cynnwys y cyfansoddwr a’r cyn-lyfrgellydd Robat Arwyn, yr awdur Meinir Pierce Jones, a Gwawr Maelor, sy’n ddarlithydd mewn Addysg Gymraeg ym Mhrifysgol Bangor.

Yn ôl y beirniaid, roedd hon yn “gystadleuaeth gref” ac yn ogystal â’r enillydd, cafodd tri awdur arall eu gosod yn y dosbarth cyntaf gyda’r panel yn nodi bod yma syniadau am nofelau oedd yn “werth eu cyhoeddi”. Y tri a ddaeth yn agos at y brig oedd Eurgain Haf, Cynan Llwyd a Llio Maddocks.

Roedd gofyn i’r ymgeiswyr anfon penodau cyntaf nofel Gymraeg i oedolion ifanc, yn ogystal â synopsis o weddill y stori.

Syniad am stori wedi’i gosod yn y dyfodol a gyflwynwyd gan Seran Dolma, yn dwyn y teitl ‘Y Nendyrau’. O ganlyniad i newid hinsawdd, mae lefel y môr wedi codi’n aruthrol a miloedd o bobl wedi colli eu cartrefi.

Mae Daniel, 15 oed, yn un o’r rhai ffodus, yn byw gyda’i dad ac eraill mewn tŵr lle mae’r ddau lawr isaf, fel gweddill y ddinas, o dan y dyfroedd. Ond un diwrnod, mae’n gweld merch ifanc, gwallt tywyll, yn codi llaw arno o’r tŵr gyferbyn – tŵr a oedd, i bob golwg, yn hollol wag.

Dywedodd Cadeirydd y panel beirniaid, Robat Arwyn: “Fe wnaeth y nofel ôl-apocalyptaidd hon fy rhwydo o’r frawddeg gyntaf un, wrth i Daniel a Rani wynebu sawl her yn eu hymdrech i warchod eu teuluoedd a chadw’n saff. Mae’r naratif yn llifo’n braf mewn arddull eglur a hynod ddarllenadwy, ac mae’r cymeriadau a’u sefyllfa ddirdynnol yn dal i droi yn fy mhen.”

Wrth siarad am gystadleuaeth y Cyfeillion, dywedodd Seran Dolma: “Rydw i mor ddiolchgar i Gyfeillion y Cyngor Llyfrau am y cyfle yma, ac i’r beirniaid am ddewis ‘Y Nendyrau’ fel enillydd y gystadleuaeth. Mae’n hwb anferth i fy hyder i fel awdur, ac yn rhoi gobaith i mi bod yna farchnad i’r nofel ac y bydd yn bosibl ei chyhoeddi yn y pen draw.”

Ym mis Chwefror 2019, fe fynychodd Seran Dolma gwrs Ysgrifennu a Darlunio i Blant fel darlunydd yng Nghanolfan Ysgrifennu Tŷ Newydd, cwrs a drefnwyd ar y cyd gan y Cyngor Llyfrau a Llenyddiaeth Cymru.

Yn gynharach eleni, cafodd ei derbyn ar Gynllun Mentora Llenyddiaeth Cymru ar gyfer awduron ar ddechrau eu gyrfa.

“Mae’n rhaid i mi gymryd y cyfle yma hefyd i ddiolch i Lenyddiaeth Cymru ac i fy mentor, Lleucu Roberts,” ychwanegodd Seran. “Rydw i’n parhau i weithio ar y nofel, ac rwy’n anelu at gael drafft o’r gwaith ysgrifenedig yn barod cyn y Nadolig. Mae yna elfen weledol hefyd, fydd efallai’n cymryd ychydig yn hirach, ond dwi’n gobeithio y bydd yr holl waith wedi ei gwblhau yn fuan yn 2021.”

Dywedodd Cadeirydd Cyfeillion y Cyngor Llyfrau, Ion Thomas: “Wrth noddi’r gystadleuaeth hon, ein nod oedd cynyddu’r dewis o nofelau Cymraeg ar gyfer pobl ifanc ac rydyn ni wrth ein bodd gyda’r ymateb a’r amrywiaeth o syniadau a gafwyd. Ein gobaith yw y bydd yn hwb nid yn unig i’r enillydd ond i sawl un arall o’r awduron i fynd ati i ddatblygu ac i gwblhau eu gwaith, a thrwy hynny ymestyn yr arlwy a denu darllenwyr newydd.”

Dywedodd Pennaeth Llyfrau Plant a Hyrwyddo Darllen y Cyngor Llyfrau, Helen Jones: “Hoffem ddiolch i bob un o’r ymgeiswyr ac i’r beirniaid am eu gwaith arbennig, gan estyn llongyfarchiadau gwresog i Seran Dolma. Hoffem ddiolch hefyd i Gyfeillion y Cyngor am noddi’r gystadleuaeth bwysig hon a fydd yn helpu i sicrhau bod llyfrau o safon sy’n cydio yn y dychymyg ar gael yn Gymraeg i’n pobl ifanc.”