Cyfarchion y Nadolig 2023

Cyfarchion y Nadolig 2023

Cyfarchion y Nadolig 2023

Bydd y Cyngor Llyfrau a’r Ganolfan Ddosbarthu yn cau ar brynhawn Iau, 21 Rhagfyr 2023 ac yn ail agor wedi’r gwyliau ar ddydd Mawrth, 2 Ionawr 2024.

Dymunwn Nadolig llawen a dedwydd i chi i gyd.

Cyhoeddi derbynwyr grantiau Cyfnodolion Diwylliannol Saesneg, 2024–28

Cyhoeddi derbynwyr grantiau Cyfnodolion Diwylliannol Saesneg, 2024–28

Mae Cyngor Llyfrau Cymru wedi cyhoeddi heddiw (7 Rhagfyr) enwau’r rhai fu’n llwyddiannus i ennill grantiau ar gyfer Cyfnodolion Diwylliannol Saesneg, 2024–28.

Mae’r grant, sy’n cael ei ariannu gan Lywodraeth Cymru drwy Cymru Greadigol, yn cael ei ddyfarnu fel cyllid newydd, sy’n sefyll ar ei draed ei hun bob pedair blynedd yn dilyn proses dendro gystadleuol agored. Hysbysebwyd y tendr ym mis Mai, a chynhaliwyd cyfweliadau ym mis Tachwedd 2023. Dyfernir y grantiau gan banel annibynnol yn dilyn proses drylwyr o ymgeisio a chyfweld.

Mae’r Cyngor Llyfrau yn falch o fod yn ariannu’r teitlau canlynol ar gyfer cyfnod nesaf y tendr:

Nation.Cymru – £25,000 y flwyddyn ar gyfer cynnwys diwylliannol gan gynnwys adolygiadau o lyfrau a darparu llwyfan digidol rhad ac am ddim i ddefnyddwyr ar gyfer y sector cyhoeddi yng Nghymru.

The Paper / Y Papur (@thepaperwales) – £10,000 y flwyddyn ynghyd â grant o £10,000 i wthio’r cwch i’r dŵr yn ystod 2023/24. I ddarparu llwyfan newydd i awduron iau sy’n cael eu tangynrychioli, gyda ffocws arbennig ar awduron dosbarth gweithiol.

Poetry Wales – £25,000 y flwyddyn ar gyfer darparu cylchgrawn barddoniaeth print a digidol.

Welsh Agenda – £25,000 y flwyddyn ar gyfer cynnwys diwylliannol gan gynnwys adolygiadau o lyfrau a darparu llwyfan print ac ar-lein ar gyfer y sector cyhoeddi yng Nghymru.

Dywedodd Helgard Krause, Prif Weithredwr Cyngor Llyfrau Cymru: “Rydym yn falch o allu ariannu nifer o gyhoeddiadau rhagorol yn y rownd fasnachfraint hon, gan gynnwys teitl newydd, The Paper / Y Papur. Yn ôl y disgwyl, roedd lefel uchel iawn o ddiddordeb yn y grant, gyda chyfanswm y ceisiadau yn fwy na dwbl y £180,000 oedd ar gael. Hoffwn longyfarch y teitlau dderbyniodd grant ar eu llwyddiant mewn proses gystadleuol a thrylwyr iawn, gyda phenderfyniadau a brofodd yn anodd iawn i’r panel oedd yn dyfarnu’r grant.

Yn dilyn cwblhau’r cyfweliadau a chyfleu penderfyniadau’r panel i’r holl ymgeiswyr ym mis Tachwedd, rydym yn rhagweld y bydd yr Is-bwyllgor yn edrych i hysbysebu tendr ar gyfer datblygu un cylchgrawn llenyddol Saesneg newydd sbon gyda ffocws cryf ar ffuglen a rhyddiaith ffeithiol greadigol fydd â model busnes cynaliadwy wrth ei graidd.

Bydd yr union weledigaeth ar gyfer y fenter newydd hon yn cael ei chadarnhau yn yr Is-bwyllgor Datblygu Cyhoeddi Saesneg nesaf, ym mis Chwefror. Bydd tendr ar gyfer masnachfraint newydd yn cael ei gyhoeddi yn fuan wedi hynny.”