Rhannu stori ar Ddiwrnod y Llyfr 2021

Rhannu stori ar Ddiwrnod y Llyfr 2021

Mae Cyngor Llyfrau Cymru yn annog pobl ar hyd a lled Cymru i rannu stori i ddathlu Diwrnod y Llyfr 2021 ar ddydd Iau 4 Mawrth.

Gallai rhannu stori gynnwys darllen gartref gyda’r teulu, darllen gyda ffrind dros y we, darllen yn eich hoff le, darllen mewn lleoliad anghyffredin, rhannu stori gydag anifail anwes a mwy!

Gydag wythnos i fynd cyn y diwrnod mawr, mae’r Cyngor Llyfrau hefyd yn gofyn i bobl roi llun ar y cyfryngau cymdeithasol ohonyn nhw’n darllen yn ystod mis Mawrth, gan ddefnyddio’r hashnod #DiwrnodyLlyfr #RhannwchStori. Bydd gwobrau am y lluniau gorau yn cael eu cyflwyno ddiwedd y mis.

Bydd enillwyr cystadleuaeth arbennig a drefnwyd ar y cyd gan y Cyngor Llyfrau a Huw Aaron hefyd yn cael eu cyhoeddi ar 4 Mawrth a hynny ar raglen Aled Hughes ar BBC Radio Cymru rhwng 9 ac 11 y bore.

Yr her i gystadleuwyr oedd adnabod cymaint â phosib o gymeriadau o lyfrau a rhaglenni teledu plant mewn poster lliwgar a ddyluniwyd gan Huw Aaron ar gyfer ei lyfr Ble mae Boc? Ar goll yn y chwedlau a gyhoeddwyd gan Y Lolfa ym mis Tachwedd 2020.

Fideos Awduron

Mae dathliadau Diwrnod y Llyfr yn edrych yn wahanol iawn eleni gyda nifer o sesiynnau awdur yn digwydd yn rhithiol. Mae’r flwyddyn ddiwethaf wedi dangos yr angen i fod yn hyblyg a phwysigrwydd cael deunydd safonol i hybu darllen ar fformat digidol. I helpu ysbrydoli’r to ifanc i godi llyfr a darllen er pleser, caiff y cyntaf mewn cyfres o fideos  gyda rhai o brif awduron plant Cymru eu rhyddhau ar wefan a sianel cyfryngau cymdeithasol y Cyngor Llyfrau, yn cynnwys darlleniadau a gweithgareddau hwyliog.

Prif amcan yr adnoddau yma yw i gefnogi teuluoedd ac ysgolion wrth iddyn ddysgu o bell yn ogystal â bod yn adnodd gwerthfawr i’w ddefnyddio yn y dosbarth pan fydd ysgolion yn ail-agor ar gyfer pob oedran.

Ymhlith yr awduron mae Huw Aaron, Luned Aaron, Myrddin ap Dafydd, Huw Davies, Nicola Davies, Malachy Doyle, Valériane Leblond, Lucy Owen a Manon Steffan Ros. Bydd fideos gyda rhagor o awduron yn cael eu cyhoeddi dros y misoedd nesaf.

Caiff llyfrau ac ysgrifennu o Gymru sylw arbennig ar blatfform digidol AM ar Ddiwrnod y Llyfr hefyd.

Dywedodd Helgard Krause, Prif Weithredwr Cyngor Llyfrau Cymru: “Mae Diwrnod y Llyfr yn gyfle i ni ddathlu’n cariad at lyfrau ond mae grym trawsnewidiol darllen yn rhywbeth sydd gyda ni drwy gydol y flwyddyn. Er nad ydym yn gallu cynnal ein digwyddiadau arferol eleni, yr un yw’r neges sef bod darllen er pleser yn gwneud byd o les i ni gyd – yn y cyfnod anodd hwn efallai yn fwy nag erioed. Felly dathlwch gyda ni drwy fynd ati ar y 4ydd o Fawrth drwy rannu stori naill ai fel teulu, gyda’ch ffrindiau o bell, gyda’r gath neu’r ci hyd yn oed!”

Ychwanegodd Angharad Sinclair, Rheolwr Ymgyrchoedd yn Adran Hyrwyddo Darllen a Llyfrau Plant y Cyngor Llyfrau: “Mae darllen yn gallu agor y drws ar fydoedd a phrofiadau newydd, ac ry’n ni’n falch iawn o allu cynnig ystod wych o lyfrau £1 unwaith eto eleni gan sicrhau bod dewis o lyfrau Cymraeg ar gael ochr yn ochr â’r rhai Saesneg. Mae ymchwil yn dangos bod treulio 10 munud y dydd yn darllen gyda phlentyn yn gwneud gwahaniaeth mawr i’w llwyddiant yn y dyfodol a nod y diwrnod arbennig yma yw sicrhau bod gan bob plentyn fynediad at fyd y llyfrau a’i fuddiannau.”

Tocyn Llyfr £1

Erbyn hyn, mae Diwrnod y Llyfr yn cael ei ddathlu mewn 100 o wledydd ar draws y byd a’r nod yw hyrwyddo darllen er pleser, gan gynnig cyfle i bob plentyn a pherson ifanc i ddewis a meddu ar eu llyfr eu hunain.

Diolch i National Book Tokens a llawer o gyhoeddwyr a llyfrwerthwyr hyfryd, mae Diwrnod y Llyfr, mewn partneriaeth ag ysgolion a meithrinfeydd ledled y wlad, yn dosbarthu tocyn llyfr Diwrnod y Llyfr £1 i blant a phobl ifanc. Gellir cyfnewid y tocyn naill ai am un o lyfrau £1 Diwrnod y Llyfr neu ei ddefnyddio tuag at brynu llyfr arall.

Mae llyfrau £1 Diwrnod y Llyfr yn rhodd gan lyfrwerthwyr, sy’n ariannu cost y tocyn llyfrau £1 yn llawn. Mae’r llyfrau £1 hefyd ar gael mewn braille, print bras a sain trwy yr RNIB. Bydd tocynnau llyfr £1 Diwrnod Llyfr yn ddilys o ddydd Iau 18 Chwefror tan ddydd Sul 28 Mawrth 2021 ac eleni bydd y llyfrwerthwyr sy’n cymryd rhan yn anrhydeddu’r tocynnau y tu hwnt i 28 Mawrth tra bydd y stoc o lyfrau £1 yn parhau. Cysylltwch â’ch llyfrwerthwr lleol i wirio a ydyn nhw’n gallu cynnig £1 oddi ar deitlau eraill. Mae’r telerau ac amodau llawn ar wefan elusen Diwrnod y Llyfr.

Ha Ha Cnec! Jôcs Twp a Lluniau Twpach (Broga) gan yr awdur, darlunydd a chartwnydd Huw Aaron yw’r llyfr £1 Cymraeg newydd ar gyfer 2021 ac mae ar gael nawr drwy siopau llyfrau Cymru.

Mae tri llyfr Cymraeg arall ar gael am £1 eleni sef Stori Cymru Iaith a Gwaith (Gwasg Carreg Gwalch) gan Myrddin ap Dafydd, Na, Nel! (Y Lolfa) Gan Meleri Wyn James a Darllen gyda Cyw (Y Lolfa) gan Anni Llŷn.

Er bod drysau siopau llyfrau ynghau am y tro, maen nhw dal ar agor am fusnes ar-lein a thros y ffôn gan gynnig gwasanaeth clicio-a-chasglu neu ddanfon drwy’r post. Mae manylion holl siopau llyfrau annibynnol Cymru i’w cael ar wefan y Cyngor Llyfrau.

Cefndir

  • Yng Nghymru, caiff ymgyrch Diwrnod y Llyfr ei chydlynu gan y Cyngor Llyfrau a’i chefnogi gan Lywodraeth Cymru a chwmni Waterstones.
  • Bob blwyddyn, drwy gydweithio â llu o gyhoeddwyr a llyfrwerthwyr, mae Diwrnod y Llyfr yn trefnu rhestr o deitlau penodol am £1 yr un ar gyfer plant a phobl ifanc, a chenhadaeth Diwrnod y Llyfr yw eu hannog i fwynhau llyfrau a darllen drwy roi cyfle iddyn nhw gael eu llyfr eu hunain. Mae’r Cyngor Llyfrau yn gweithio gyda Diwrnod y Llyfr i sichrau bod dewis o deitlau ar gael yn Gymraeg.
  • Mae gwybodaeth bellach am y teitlau £1 Saesneg ar gael arlein worldbookday.com/books

Cynyddu caniatâd hawlfraint dros dro er mwyn cefnogi addysg plant

Cynyddu caniatâd hawlfraint dros dro er mwyn cefnogi addysg plant

Mae caniatâd hawlfraint ar ailddefnyddio deunydd wedi’i gyhoeddi wedi’i gynyddu dros dro ar gyfer ysgolion a cholegau, yn dilyn ymdrechion gan Asiantaeth Trwyddedu Hawlfraint y CLA, Cyngor Llyfrau Cymru a’r diwydiant cyhoeddi.

Wedi trafodaethau gyda’u haelodau, cyhoeddodd y CLA ar 9 Chwefror 2021 bod uchafswm y deunydd y gellid ei gopïo o dan eu Trwydded Addysg yn cynyddu dros dro – o’r 5% presennol i 20% tan 31 Mawrth 2021.

Ac mae Cyngor Llyfrau Cymru wedi trefnu caniatâd arbennig gyda rhai o brif gyhoeddwyr Cymru er mwyn eu gwneud yn haws i athrawon ddefnyddio eu deunydd ar gyfer dysgu o bell yn ystod cyfnod y pandemig.

Trwydded Addysg y CLA

O dan y newid dros dro i delerau’r drwydded, gall athrawon gopïo hyd at 20% o lyfr print sy’n eiddo i’r ysgol gan gynnwys cynnwys llyfrau wedi’i sganio sy’n cael eu cadw ar systemau dysgu rhithiol (VLE) yr ysgol.

Bydd y newid, sy’n berthnasol i ysgolion, colegau chweched dosbarth ac addysg bellach y DU,  yn rhoi mwy o hyblygrwydd i athrawon a myfyrwyr gael gafael ar adnoddau i gefnogi dysgu o bell tra bod ysgolion ynghau.

Gall defnyddwyr y Platfform Addysg hefyd gopïo hyd at 20% o lyfr digidol sydd ar gael ar y platfform yn ystod y cyfnod hwn.

Man amodau llawn y Drwydded Addysg i’w gweld ar wefan y CLA ac mae’r asiantaeth hefyd wedi paratoi canllawiau arbennig i ysgolion yn egluro’n syml beth yw eu hawliau o dan amodau arferol y drwydded.

Ar hyn o bryd, mae pob Awdurdod Addysg Lleol yng Nghymru wedi cofrestru gyda’r CLA sy’n golygu bod telerau’r drwydded yn berthnasol i’w holl ysgolion.

Cyhoeddwyr Cymru

Mae Cyngor Llyfrau Cymru hefyd wedi trefnu caniatâd dros dro arbennig gyda rhai o brif gyhoeddwyr Cymru o ran eu defnydd o lyfrau yn ystod y pandemig.

Y nod yw ei gwneud hi’n haws i athrawon ailddefnyddio deunydd sydd wedi’i gyhoeddi er mwyn cefnogi ymdrechion addysgu o bell.

Mae’r telerau’n amrywio o gyhoeddwr i gyhoeddwr ac yn cynnwys, er enghraifft, yr hawl i gopïo a recordio darlleniadau o lyfrau.

Mae manylion llawn y caniatâd dros dro sydd wedi ei gytuno gyda chyhoeddwyr Cymru i’w gweld ar wefan y Cyngor Llyfrau.

Dywedodd Helen Jones, Pennaeth Llyfrau Plant a Hyrwyddo Darllen y Cyngor Llyfrau: “Mae hwn yn gyfnod heriol i bawb ac yn enwedig i ysgolion wrth iddyn nhw barhau i gynnig addysg o safon ar adeg pan fo’r rhan fwyaf o ddisgyblion yn dysgu o gartref. Mewn amgylchiadau eithriadol, rydym yn croesawu cyhoeddiad y CLA am gynyddu caniatâd hawlfraint dros dro o dan amodau eu Trwydded Addysg. Rydym hefyd yn hynod o ddiolchgar i gyhoeddwyr Cymru am eu cydweithrediad parod a’u cefnogaeth i addysg plant yn ystod cyfnod sydd hefyd yn anodd iddyn nhw fel busnesau masnachol.”

Cynllun Llyfrau Iechyd Da i gefnogi iechyd a lles plant

Cynllun Llyfrau Iechyd Da i gefnogi iechyd a lles plant

Mae Gweinidog Addysg Llywodraeth Cymru wedi lansio cynllun newydd o’r enw Iechyd Da i sicrhau fod pob ysgol gynradd yn derbyn pecyn arbennig o lyfrau sy’n cefnogi iechyd a lles plant.

Gan gydweithio gyda Chyngor Llyfrau Cymru, mae Adran Addysg Llywodraeth Cymru yn ariannu pecyn o 41 o lyfrau i helpu plant i ddeall a thrafod materion iechyd a lles.

Mae pob un o’r llyfrau wedi’u dewis gan banel arbenigol ac yn cynnwys amrywiaeth o lyfrau stori-a-llun a llyfrau pennod ar gyfer oedrannau rhwng 4 – 11.

Y nod yw cefnogi ysgolion wrth iddyn nhw ymdrin â phynciau’n ymwneud ag iechyd a lles fel rhan o’r cwricwlwm newydd, ac i gynorthwyo athrawon i drafod y pynciau yma yn ystod cyfnod heriol dros ben.

Wrth lansio cynllun Iechyd Da yn swyddogol yn ystod Wythnos Iechyd Meddwl Plant 2021, dywedodd y Gweinidog Addysg Kirsty Williams: “Rwy’n falch iawn o fod yn rhan o lansiad prosiect Iechyd Da Cyngor Llyfrau Cymru. Nod prosiect Iechyd Da yw helpu i fynd i’r afael ag effeithiau ymbellhau cymdeithasol hirdymor a hunanynysu, drwy ddarparu llyfrau darllen sy’n ysgogi sgyrsiau ac ymgysylltiad rhieni ar y themâu hyn.

“Mae sicrhau bod pob plentyn a pherson ifanc yn gallu rhannu cariad at ddarllen yn rhan bwysig o’r gwaith rwy’n ei wneud fel Gweinidog Addysg a hoffwn ddiolch i Gyngor Llyfrau Cymru am ei waith caled yn datblygu cyfres ddiddorol o adnoddau i gefnogi athrawon a dysgwyr mewn ymateb i’r pandemig.”

Yn ogystal â’r pecyn o 41 o lyfrau, bydd ysgolion yn derbyn pecyn cynhwysfawr o adnoddau wedi’u paratoi gan rwydwaith o athrawon sy’n arbenigo ym maes llythrennedd, iechyd a lles.

Bydd adnoddau digidol ychwanegol hefyd ar gael ar blatfform addysg y llywodraeth, HWB, yn ystod tymor y Gwanwyn.

Dywedodd Catrin Passmore sy’n Ddirprwy Bennaeth yn Ysgol Gymraeg Cwmbrân: “Mae’r llyfrau yma wedi’u dewis yn ofalus ac yn adnodd ardderchog i helpu disgyblion i ddeall eu hunain, i ddeall eraill ac i ddeall y byd o’u cwmpas. Ymhlith y themâu sy’n cael sylw mae cyfeillgarwch, gwytnwch, hunan-gred, iechyd meddwl ac iechyd corfforol, ac mae’r rhain i gyd yn hynod o berthnasol yn y cyfnod yma.”

Dywedodd Helgard Krause, Prif Weithredwr Cyngor Llyfrau Cymru: “Rydyn ni’n gwybod pa mor fuddiol gall ddarllen fod o ran ein lles a’n hiechyd meddwl, ac mae’r cynllun yma’n helpu i agor y drws i sgyrsiau gyda phlant am bynciau reit anodd. Mae meithrin sgyrsiau o’r fath a dealltwriaeth bob amser yn bwysig ond yn enwedig felly nawr ac rydym ni’n falch iawn o gael gweithio gydag Adran Addysg Llywodraeth Cymru i wireddu’r prosiect pwysig yma.”

Mae rhestr o’r llyfrau Cymraeg a Saesneg sydd wedi’u cynnwys yn y pecyn Iechyd Da i’w chael ar wefan y Cyngor Llyfrau ac mae’r teitlau

i gyd ar gael drwy siopau llyfrau lleol. Mae rhai o’r teitlau hefyd ar gael fel e-lyfrau ar ffolio.cymru

Darllen yn Well

Mae’r Cyngor Llyfrau hefyd yn rhan o gynllun Darllen yn Well Llyfrau ar Bresgripsiwn i blant sy’n helpu plant i ddeall a rheoli eu hiechyd meddwl a’u lles drwy ddarllen.

Anelir y cynllun at blant Cyfnod Allweddol 2 ac mae’n cynnwys 21 o gyfrolau yn Gymraeg a 33 yn Saesneg sy’n trafod pynciau fel gorbryder a galar, bwlio a diogelwch ar y we, a sut i ddelio â digwyddiadau yn y newyddion.

Gall llyfrau sydd ar y rhestr gael eu hargymell gan weithwyr iechyd a gofal cymdeithasol proffesiynol, athrawon ac unrhyw un arall sy’n gweithio gyda phlant a theuluoedd.

Datblygwyd y rhaglen Darllen yn Well Llyfrau ar Bresgripsiwn i blant gan weithwyr iechyd proffesiynol yn ogystal â phlant a’u teuluoedd, ac fe’i cyflwynir yng Nghymru gan elusen The Reading Agency mewn partneriaeth â Llywodraeth Cymru, llyfrgelloedd cyhoeddus a Chyngor Llyfrau Cymru.