Haf o Ddarllen i Blant a Phobl Ifanc Ceredigion

Haf o Ddarllen i Blant a Phobl Ifanc Ceredigion

Mae’r cyntaf o gant o becynnau o lyfrau darllen am ddim wedi cael eu hanfon at deuluoedd yng Ngheredigion yr wythnos hon.

Mae’r cyntaf o gant o becynnau o lyfrau darllen am ddim wedi cael eu hanfon at deuluoedd yng Ngheredigion yr wythnos hon.

Mewn partneriaeth newydd rhwng Cyngor Sir Ceredigion, Partneriaeth Rheilffyrdd y Cambrian a Chyngor Llyfrau Cymru, mae detholiad o chwe llyfr yn cael eu hanfon at 100 o blant a phobl ifanc sy’n derbyn gwasanaethau cymorth drwy’r awdurdod lleol.

Mae’r pecynnau’n cynnwys llyfrau darllen wedi’u teilwra ar gyfer oedrannau a diddordebau gwahanol, yn ogystal â phensiliau lliw a thaflenni gweithgareddau gwahanol.

Nod cynllun Caru Darllen Ceredigion yw cefnogi iechyd, lles a datblygiad disgyblion yn ystod cyfnod Covid-19 pan nad yw ysgolion wedi bod ar agor yn ôl eu harfer. Mae’n sicrhau bod ganddynt fynediad rhwydd at ddewis da o deitlau yn ystod gwyliau hir yr haf ac mae’n fuddsoddiad tymor hir mewn adnoddau darllen.

Dywedodd y Cynghorydd Catherine Hughes, Aelod Cabinet Porth Ceredigion, Cymorth Cynnar, Canolfannau Lles a Diwylliant: “Dyma’r cynllun cyntaf o’i fath yng Ngheredigion i gefnogi plant sy’n rhan o’n gwasanaethau, a hynny mewn ymateb i argyfwng y coronafeirws. Rydym yn falch o allu cydweithio â Chyngor Llyfrau Cymru i ddethol a darparu pecyn o lyfrau addas i blant sy’n rhan o’r cynllun hwn dros wyliau’r haf. Mae’r cynllun yn gyfle cyffrous i gefnogi teuluoedd mewn cyfnod heriol a sicrhau bod adnoddau darllen gwerthfawr ar gael.”

Dywedodd Helen Jones, Pennaeth Adran Llyfrau Plant a Hyrwyddo Darllen Cyngor Llyfrau Cymru: “Mae ymchwil yn dangos bod plant sy’n berchen ar eu llyfrau eu hunain yn fwy tebygol o ddatblygu i fod yn ddarllenwyr gydol oes, gyda’r holl fuddiannau a ddaw yn sgil hynny. Fel Cyngor Llyfrau, rydym yn falch iawn o fod yn gweithio mewn partneriaeth gyda Chyngor Sir Ceredigion ar y cynllun cyffrous yma a fydd yn dod â phleser i blant a phobl ar draws y sir yn ystod cyfnod anarferol o anodd.”

Mae’r mwyafrif o’r llyfrau yn y pecynnau wedi’u cyhoeddi gan weisg yng Nghymru ac yn adlewyrchu’r ysgrifennu a’r dylunio gorau ar gyfer oedrannau rhwng 1 ac 16 mlwydd oed.

Lansio Sialens Ddarllen yr Haf 2020 heddiw

Lansio Sialens Ddarllen yr Haf 2020 heddiw

Heddiw, bydd Sialens Ddarllen yr Haf yn cael ei lansio gan y Gweinidog Addysg a’r Dirprwy Weinidog Diwylliant, Chwaraeon a Thwristiaeth.

Heddiw, bydd Sialens Ddarllen yr Haf yn cael ei lansio gan y Gweinidog Addysg a’r Dirprwy Weinidog Diwylliant, Chwaraeon a Thwristiaeth.

Nod y Sialens flynyddol yw cael plant rhwng 4 ac 11 oed i ddarllen chwe llyfr dros wyliau’r haf.

Eleni mae’r Sialens yn symud i blatfform digidol, dwyieithog newydd, â chefnogaeth gwasanaethau e-fenthyca llyfrgelloedd, digwyddiadau ar-lein a dolenni at adnoddau digidol presennol. Mae’r Sialens yn cynnwys llyfrau Cymraeg a Saesneg.

Thema’r Sialens eleni yw ‘Sgwad Gwirion’ a bydd yn dathlu llyfrau llawn hwyl, hapusrwydd a chwerthin. Bydd plant sy’n cymryd rhan yn y Sialens yn ymuno â’r Sgwad Gwirion, tîm o anifeiliaid anturus sydd “wrth eu boddau’n cael hwyl a chladdu’u trwynau mewn pob math o lyfrau doniol!”

Y llynedd, cymerodd dros 37,000 o blant ledled Cymru ran yn y Sialens. Ymunodd dros 3,000 o blant â llyfrgelloedd fel aelodau newydd a chymerodd 33,000 o blant ran mewn digwyddiadau mewn llyfrgelloedd.

Dywedodd y Gweinidog Addysg, Kirsty Williams: “Fel rhywun sy’n caru llyfrau fy hun, dw i’n gwybod gymaint o bleser yw darllen dros y gwyliau.

“Bob blwyddyn, mae miloedd o blant yn ymuno â llyfrgelloedd oherwydd Sialens Ddarllen yr Haf, sy’n ffordd ardderchog o ddatblygu sgiliau darllen, darganfod awduron newydd a meithrin cariad gydol oes at lyfrau.”

Dywedodd y Dirprwy Weinidog Diwylliant, Chwaraeon a Thwristiaeth, Dafydd Elis-Thomas: “Dw i’n hynod o falch fod Llywodraeth Cymru yn gallu cefnogi llyfrgelloedd gyda’r Sialens eleni. Mae’r cynllun wedi ennill ei blwyf fel digwyddiad blynyddol i lawer o blant, sy’n edrych ymlaen at gymryd rhan bob blwyddyn.

“Hoffwn ddiolch i’r holl staff yn ein llyfrgelloedd sy’n cyfrannu at wneud Sialens Ddarllen yr Haf yn gymaint o lwyddiant yng Nghymru.”

Dywedodd Nicola Pitman, Cadeirydd Cymdeithas Prif Lyfrgellwyr Cymru: “Mae gan lyfrgelloedd nawr eu casgliadau mwyaf erioed o eLyfrau, comics a chylchgronau i’w lawrlwytho, ac eleni mae Sialens Ddarllen yr Haf yn barod i helpu darllenwyr ifanc a’u rhieni yn wirioneddol i fanteisio i’r eithaf ar gyfleoedd i gael hwyl gyda straeon a phynciau doniol.

“Mae gwasanaethau Clicio a Chasglu yn cael eu sefydlu ledled y wlad i helpu pawb i gael gafael ar lyfrau llyfrgell yn ddiogel yn ystod y cyfnod hwn. Rydyn ni wrth ein bodd ei bod hi mor hawdd cofrestru a derbyn yr her, diolch i’r wefan ar ei newydd wedd, sy’n cynnig llond lle o adnoddau, syniadau ac anogaeth gwych. Rydyn ni’n edrych ymlaen at weld pawb yn mynd yn hollol wirion ac yn ymuno â sgwad Sialens Ddarllen yr Haf.”

Dywedodd Karen Napier, Prif Swyddog Gweithredol The Reading Agency: “Rydyn ni wrth ein bodd ein bod yn datblygu platfform digidol dwyieithog yn Gymraeg a Saesneg ar gyfer Sialens Ddarllen yr Haf, a fydd yn barod i deuluoedd ei fwynhau o ganol mis Gorffennaf ymlaen.

“Mae The Reading Agency wedi ymrwymo i sicrhau bod grym profedig darllen o fewn cyrraedd pawb. Rydw i’n edrych ymlaen at weld llyfrgelloedd cyhoeddus a theuluoedd yng Nghymru’n cymryd rhan yn y Sialens ac yn cael haf gwirioneddol wirion!”

Dywedodd Prif Weithredwr Cyngor Llyfrau Cymru, Helgard Krause: “Mae meithrin ac annog darllen yn bwysicach yn y cyfnod hwn nag erioed o’r blaen. Mae ymchwil yn dangos yn glir bod codi llyfr yn llesol nid yn unig i’n lles a’n hiechyd meddwl – mae hefyd yn helpu i gryfhau a chadarnhau sgiliau iaith a sgiliau addysgol plant. Pob hwyl a mwynhad i bawb sy’n rhan o’r Sialens Ddarllen Haf eleni.”

Gwobrau Tir na n-Og 2020 i Byw yn fy Nghroen a Pobol Drws Nesaf

Gwobrau Tir na n-Og 2020 i Byw yn fy Nghroen a Pobol Drws Nesaf

Llyfrau’n ymdrin â rhai o bynciau mawr y dydd sydd wedi cipio Gwobrau Tir na n-Og 2020 am lenyddiaeth plant a phobl ifanc yn Gymraeg.

Llyfrau’n ymdrin â rhai o bynciau mawr y dydd sydd wedi cipio Gwobrau Tir na n-Og 2020 am lenyddiaeth plant a phobl ifanc yn Gymraeg.

Pobol Drws Nesaf gan Manon Steffan Ros a’r darlunydd Jac Jones a ddaeth i’r brig yn y categori Cymraeg oedran cynradd. Llyfr llun a stori ar gyfer plant 3–7 oed yw hwn, yn ein hannog i barchu pawb ac i beidio â beirniadu rhywun sy’n edrych ac yn ymddwyn yn wahanol i ni.

Enillydd y categori Cymraeg uwchradd yw Byw yn fy Nghroen, a olygwyd gan Sioned Erin Hughes. Casgliad yw’r llyfr o brofiadau dirdynnol deuddeg o bobl ifanc sydd wedi gorfod brwydro gyda salwch a chyflyrau iechyd hirdymor. Mae’r cyfranwyr i gyd yn bobl ifanc rhwng 10 a 26 oed, sy’n trafod afiechydon meddyliol a chorfforol fel cancr, epilepsi, clefyd Crohn’s, spina bifida, nam ar y golwg, OCD, iselder a gorbryder.

Gwawr Maelor Williams o Ysgol Addysg a Datblygiad Dynol Prifysgol Bangor oedd cadeirydd panel beirniaid llyfrau Cymraeg Tir na n-Og 2020: “Ni chloriennir Gwobr Tir na n-Og am ei harloesedd neu ei hunigrywedd yn unig neu am ei bod yn llenwi bwlch. Mae’r gyfrol Byw yn fy Nghroen yn llenyddiaeth hefyd, er nad dyma’i phrif fwriad. Mae’n rhaid wrth ysgrifennu grymus, rhaid wrth grefft a golygu tringar i ysgrifennu gydag argyhoeddiad a didwylledd, ac i dynnu’r darllenydd i grombil profiadau a gwewyr rhywun arall. Rydym yng nghwmni cyfrol bwysig ym maes llenyddiaeth i’r ifanc yma.”

Roedd Byw yn fy Nghroen (Y Lolfa) ar restr fer uwchradd Gymraeg Gwobrau Tir na n-Og 2020 gyda dau lyfr arall, sef Tom (Y Lolfa) gan Cynan Llwyd a Madi (Atebol) gan Dewi Wyn Williams.

Dywedodd golygydd Byw yn fy Nghroen, Sioned Erin Hughes: “Mi ydw i ar ben fy nigon ac yn falch fod y llyfr wedi cyflawni’r hyn roeddwn i’n gobeithio y byddai’n ei gyflawni, sef cynyddu ymwybyddiaeth, dealltwriaeth ac empathi ynghylch heriau iechyd ymysg pobl ifanc.”

Y ddau lyfr arall oedd ar y rhestr fer gyda Pobol Drws Nesaf (Y Lolfa) yn y categori cynradd Cymraeg eleni oedd Genod Gwych a Merched Medrus gan Medi Jones-Jackson (Y Lolfa) ac Y Ddinas Uchel gan Huw Aaron (Atebol).

Wrth drafod Pobol Drws Nesaf, dywedodd Gwawr Maelor: “Dyma gyfrol sy’n em fach oherwydd yr ieuad rhwng naratif a llun, a symlrwydd y stori yn rhuban mor naturiol o’i dechrau i’w diwedd. Mae crefft dau ar waith yn y llyfr. Mae hi’n stori sy’n hawdd ei dirnad a’i deall fel ag y mae hi ar y darlleniad cyntaf i ddarllenydd ifanc sy’n darllen ar ei ben ei hun bach. Does dim gwthio amlhiliaeth na’r iaith Gymraeg na’r angen i dderbyn pawb fel ag y maen nhw o gwbl yn y stori fach, ia, Gymreig hon. Ond maen nhw yna heb ddeud a dyma gamp partneriaeth awdur profiadol a darlunydd crefftus yn eu gem o lyfr, Pobol Drws Nesaf.”

Dyma’r pumed tro i’r awdur Manon Steffan Ros o Dywyn, Gwynedd, ennill Gwobr Tir na n-Og: “Mae’n gymaint o fraint cael Gwobr Tir na n-Og am lyfr sydd mor agos at fy nghalon â Pobol Drws Nesaf. Mae’r stori’n syml ac yn ysgafn, a dwi’n meddwl fod hynny’n bwysig am fod ganddi, mewn gwirionedd, neges fawr – fod angen i ni ddathlu ein gwahaniaethau, a pharchu pawb. Roedd hi’n bleser mawr cael cydweithio efo Jac unwaith eto, sydd wastad yn rhoi ychydig o hud a lledrith yn ei ddarluniau, ac yn darganfod yr hyn sydd rhwng y geiriau.”

Dywedodd y darlunydd Jac Jones: “Pan mae plentyn yn agor llyfr, unrhyw lyfr, mae’n cychwyn ar siwrnai tuag at ddeall hwyl, tristwch, ofn, gorfoledd a’r fraint o wneud dewisiadau. Mae llyfr rhagorol Manon, Pobol Drws Nesaf, yn cyffwrdd â phob un o’r rhain. Mae lliwiau palet natur yn cymysgu bob amser.”

Caiff Gwobrau Tir na n-Og eu trefnu’n flynyddol gan Gyngor Llyfrau Cymru i wobrwyo’r llyfrau gorau i blant a phobl ifanc yng Nghymru yn Gymraeg a Saesneg. Fe’u noddir gan gymdeithas y llyfrgellwyr, CILIP Cymru.

Dywedodd Helgard Krause, Prif Weithredwr Cyngor Llyfrau Cymru: “Mae safon yr enillwyr a’r holl lyfrau ar restr fer Gwobrau Tir na n-Og wedi bod yn rhagorol eleni a hoffwn ddiolch i bawb am eu gwaith a’u cyfraniadau gwerthfawr – yn awduron, yn olygyddion, yn ddarlunwyr ac yn gyhoeddwyr. Diolch iddyn nhw, rydym yn gallu sicrhau bod silffoedd ein siopau llyfrau, ein llyfrgelloedd a’n hysgolion yn cynnig dewis cyfoethog i blant a phobl ifanc sy’n eu sbarduno, eu hysbrydoli a’u hannog i ddarllen. Llongyfarchiadau gwresog i bawb.”

Dywedodd Amy Staniforth o CILIP Cymru: “Bydd llyfrgellwyr ar hyd a lled Cymru wrth eu bodd yn rhannu Pobol Drws Nesaf, Byw yn fy Nghroen a’r holl lyfrau gwych eraill ar restr fer Tir na n-Og 2020. Mae’n bwysig bod llyfrgelloedd yn cynnig deunydd Cymraeg sy’n adlewyrchu ac yn herio’r Gymru sydd ohoni, ac mae Gwobrau Tir na n-Og yn gyfle gwych i gofio ac i ddathlu hynny. Llongyfarchiadau i Manon Steffan Ros, Jac Jones a Sioned Erin Hughes. Daliwch ati os gwelwch yn dda!”

Cafodd enwau enillwyr Cymraeg Gwobrau Tir na n-Og 2020 eu cyhoeddi’n fyw ar raglen Heno ar S4C nos Wener, 10 Gorffennaf, gyda’r ddau deitl buddugol yn derbyn siec o £1,000 a cherdd gyfarch wedi’i chyfansoddi gan Fardd Plant Cymru, Gruffudd Owen, a’i dylunio gan yr artist Ruth Jên.

Cyhoeddwyd enillydd categori Saesneg Gwobrau Tir na n-Og 2020 ar y Radio Wales Arts Show nos Wener, 3 Gorffennaf, sef Claire Fayers o Gaerdydd am ei stori antur ffantasïol Storm Hound.

Storm Hound yn cipio gwobr Saesneg Tir na n-Og 2020

Storm Hound yn cipio gwobr Saesneg Tir na n-Og 2020

Yr awdur Claire Fayers yw enillydd gwobr Saesneg Tir na n-Og 2020 am ei stori antur ffantasïol sy’n cyfuno chwedloniaeth Nordig a Chymreig.

Yr awdur Claire Fayers yw enillydd gwobr Saesneg Tir na n-Og 2020 am ei stori antur ffantasïol sy’n cyfuno chwedloniaeth Nordig a Chymreig.

Roedd Storm Hound (Macmillan Children’s Books) ymhlith pedwar o lyfrau Saesneg ac iddynt gefndir Cymreig dilys ar restr fer y gwobrau llenyddiaeth plant a phobl ifanc, sy’n cael eu trefnu’n flynyddol gan Gyngor Llyfrau Cymru.

Gwnaed y cyhoeddiad am y teitl buddugol yn fyw ar y Radio Wales Arts Show nos Wener 3 Gorffennaf 2020.

Wrth siarad am ei buddugoliaeth, dywedodd Claire Fayers sy’n byw yng Nghaerdydd: “Dwi wrth fy modd fy mod wedi ennill gwobr Saesneg Tir na n-Og eleni. Dwi wedi bod yn darllen llyfrau o restrau byr Tir na n-Og cyhyd ag y gallaf gofio. Maen nhw’n cynrychioli’r gorau o lenyddiaeth o Gymru i blant a phobl ifanc, felly mae ennill yn anrhydedd aruthrol.”

Mae Storm Hound yn adrodd hanes Storm of Odin, aelod ieuengaf cŵn drycin yr Helfa Wyllt sy’n hedfan drwy stormydd llawn mellt. Bu’n dyheu am yr amser pan gâi ymuno â’i frodyr a’i chwiorydd ond ar ei helfa gyntaf un, mae’n darganfod na all hedfan yn ddigon cyflym i aros gyda’r lleill ac mae’n syrthio i’r ddaear, gan lanio ar yr A40 ger y Fenni.

Daw Jessica Price, sy’n 12 oed, ar draws ci bach del mewn canolfan achub anifeiliaid ac mae’n ei fabwysiadu. Mewn antur llawn cyffro, buan iawn mae’n dechrau sylweddoli nad ci cyffredin mo’i chi bach annwyl hi.

Dywedodd cadeirydd panel beirniaid llyfrau Saesneg Tir na n-Og 2020, Eleri Twynog Davies: “Llongyfarchiadau mawr i Storm Hound – stori hudolus ac iddi themâu cryf yn ymwneud â chyfeillgarwch a pherthyn. Roedd y cymeriadau wedi’u datblygu’n ardderchog, gan roi i ni eiliadau o hiwmor ac ing.

“Roedd straeon pob un o’r pedwar llyfr ar y rhestr fer wedi’u gosod ar gefndir Cymreig ac roedd yr ymdeimlad yma o le yn cyfrannu at eu hapêl gyffredinol. Mae hyn yn faen prawf canolog ar gyfer y wobr hon, ac roeddem ni fel beirniaid yn gweld ei eisiau mewn llawer o’r cyfrolau eraill. Mae mor bwysig bod plant ar hyd a lled Cymru yn gallu gweld eu hunain yn cael eu hadlewyrchu rhwng dau glawr a bod gan blant y tu hwnt i Gymru ffenest ar ddiwylliant arall.”

Y tri theitl arall ar restr fer gwobr Saesneg Tir na n-Og 2020 oedd The Secret Dragon gan Ed Clarke (Puffin), Max Kowalski Didn’t Mean It gan Susie Day (Puffin) a Where Magic Hides gan Cat Weatherill (Gomer).

Dywedodd Helgard Krause, Prif Weithredwr Cyngor Llyfrau Cymru: “Mae ennyn cariad at ddarllen ymhlith ein plant a’n pobl ifanc yn hynod o bwysig. Mae’n eu helpu nid yn unig i ddatblygu gwybodaeth a sgiliau llythrennedd, mae hefyd yn fuddiol o ran eu hiechyd meddwl a’u lles. Mae Gwobrau Tir na n-Og yn dathlu ysgrifennu gwych ar gyfer y genhedlaeth iau ac yn sicrhau bod straeon ac iddynt leoliad Cymreig unigryw yn cael eu cynrychioli yn y gorau o lenyddiaeth ein gwlad. Estynnwn ein diolch a’n llongyfarchiadau diffuant i bawb sy’n ymwneud â’r gwobrau, ac yn arbennig heddiw i Claire Fayers.”

Dywedodd Amy Staniforth o CILIP Cymru, sy’n noddi Gwobrau Tir na n-Og: “Ar ôl ychydig fisoedd mor anodd i bawb, mae CILIP Cymru yn falch iawn o longyfarch Claire Fayers ar ennill gwobr Saesneg Tir na n-Og eleni. Rydym yn gwybod y bydd llyfrgellwyr ledled Cymru yn hynod gyffrous am gael rhannu Storm Hound â’u defnyddwyr trwy eu gwasanaethau clicio a chasglu.”

Dywedodd cyflwynydd y Radio Wales Arts Show, Nicola Heywood Thomas: “Mae ysgrifennu newydd ar gyfer plant a phobl ifanc mor bwysig o ran tanio’u dychymyg a chodi awydd darllen arnyn nhw. Mae straeon gwych yn cael effaith sy’n gallu aros gyda darllenwyr gydol eu hoes. Mae’r wobr hon yn amlygu’r ystod ragorol o dalent sydd yng Nghymru. Llongyfarchiadau i bawb a gymerodd ran.”

Cyflwynwyd siec o £1,000 yn wobr i Claire Fayers, ynghyd â cherdd gan y Children’s Laureate Wales Eloise Williams a gomisiynwyd yn arbennig ar gyfer yr achlysur.

ff enillwyr categorïau Cymraeg Gwobrau Tir na n-Og 2020 eu cyhoeddi ar y rhaglen Heno ar S4C am 6.30yh nos Wener, 10 Gorffennaf.