Mae’r cyntaf o gant o becynnau o lyfrau darllen am ddim wedi cael eu hanfon at deuluoedd yng Ngheredigion yr wythnos hon.

Mae’r cyntaf o gant o becynnau o lyfrau darllen am ddim wedi cael eu hanfon at deuluoedd yng Ngheredigion yr wythnos hon.

Mewn partneriaeth newydd rhwng Cyngor Sir Ceredigion, Partneriaeth Rheilffyrdd y Cambrian a Chyngor Llyfrau Cymru, mae detholiad o chwe llyfr yn cael eu hanfon at 100 o blant a phobl ifanc sy’n derbyn gwasanaethau cymorth drwy’r awdurdod lleol.

Mae’r pecynnau’n cynnwys llyfrau darllen wedi’u teilwra ar gyfer oedrannau a diddordebau gwahanol, yn ogystal â phensiliau lliw a thaflenni gweithgareddau gwahanol.

Nod cynllun Caru Darllen Ceredigion yw cefnogi iechyd, lles a datblygiad disgyblion yn ystod cyfnod Covid-19 pan nad yw ysgolion wedi bod ar agor yn ôl eu harfer. Mae’n sicrhau bod ganddynt fynediad rhwydd at ddewis da o deitlau yn ystod gwyliau hir yr haf ac mae’n fuddsoddiad tymor hir mewn adnoddau darllen.

Dywedodd y Cynghorydd Catherine Hughes, Aelod Cabinet Porth Ceredigion, Cymorth Cynnar, Canolfannau Lles a Diwylliant: “Dyma’r cynllun cyntaf o’i fath yng Ngheredigion i gefnogi plant sy’n rhan o’n gwasanaethau, a hynny mewn ymateb i argyfwng y coronafeirws. Rydym yn falch o allu cydweithio â Chyngor Llyfrau Cymru i ddethol a darparu pecyn o lyfrau addas i blant sy’n rhan o’r cynllun hwn dros wyliau’r haf. Mae’r cynllun yn gyfle cyffrous i gefnogi teuluoedd mewn cyfnod heriol a sicrhau bod adnoddau darllen gwerthfawr ar gael.”

Dywedodd Helen Jones, Pennaeth Adran Llyfrau Plant a Hyrwyddo Darllen Cyngor Llyfrau Cymru: “Mae ymchwil yn dangos bod plant sy’n berchen ar eu llyfrau eu hunain yn fwy tebygol o ddatblygu i fod yn ddarllenwyr gydol oes, gyda’r holl fuddiannau a ddaw yn sgil hynny. Fel Cyngor Llyfrau, rydym yn falch iawn o fod yn gweithio mewn partneriaeth gyda Chyngor Sir Ceredigion ar y cynllun cyffrous yma a fydd yn dod â phleser i blant a phobl ar draws y sir yn ystod cyfnod anarferol o anodd.”

Mae’r mwyafrif o’r llyfrau yn y pecynnau wedi’u cyhoeddi gan weisg yng Nghymru ac yn adlewyrchu’r ysgrifennu a’r dylunio gorau ar gyfer oedrannau rhwng 1 ac 16 mlwydd oed.